Foel Grach
| Foel Grach (Y Carneddau) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Foel Grach o Foel Fras |
| Uchder (m) | 976 |
| Uchder (tr) | 3202 |
| Amlygrwydd (m) | 40 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17E 17W |
| Cyfesurynnau OS | SH688659 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Hewitt a Nuttall |
Un o'r copaon ar brif grib y Carneddau yw Foel Grach. Saif rhwng Carnedd Llywelyn i'r de a Charnedd Gwenllian a Foel Fras i'r gogledd.
Fel y rhan fwyaf o'r copaon yn y Carneddau, mynydd gwelltog yw Foel Grach, ond ceir clogwyni ar yr ochr ddwyreiniol yn disgyn tua Llyn Dulyn a Llyn Melynllyn. Mae nifer o nentydd yn tarddu ar y llethrau gorllewinol ac yn llifo i mewn i Afon Caseg.
Adeiladwyd caban fymryn islaw'r copa fel lle i gysgodi dros nos neu mewn tywydd garw i fynyddwyr sydd mewn trafferthion ar y Carneddau. Fodd bynnag, bu cwyno fod rhai mynyddwyr yn cynllunio i aros yma, yn hytrach nag yn ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
| Y pedwar copa ar ddeg |
|---|
|
Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
|
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
|
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |