Garnedd Ugain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Garnedd Ugain
Yr Wyddfa
Copa Garnedd Ugain (Crib y Ddysgl)
Llun Copa Garnedd Ugain (Crib y Ddysgl)
Uchder 1,065m
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru


Un o'r copaon ar yr Wyddfa yn Eryri yw Garnedd Ugain neu Carnedd Ugain. Ymddengys Crib y Ddysgl ar y map hefyd, ond mae Crib y Ddysgl yn enw ar y gefnen ddwyreiniol yn hytrach na'r copa. Saif y copa rhyw un cilometr i'r gogledd o gopa'r Wyddfa ei hun. Ystyrir Garnedd Ugain fel copa ar wahan gan Alan Dawson, sy'n ei alw'n Hewitt; dyma'r copa ail-uchaf yng Nghymru.

Mae llwybr Pedol yr Wyddfa yn cynnwys copa Garnedd Ugain, ac mae'r llwybr o Lanberis i gopa'r Wyddfa yn mynd heibio iddo, ond heb fynd tros y copa. I'r de o'r copa mae clogwyni serth gyda Llyn Glaslyn islaw, tra i'r gogledd mae Cwm Glas.


Y pedwar copa ar ddeg

Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) |

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m)