Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2023

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2023
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2023 Edit this on Wikidata
LleoliadLlanymddyfri Edit this on Wikidata
Arwydd croesawu'r Eisteddofd yn Nant-y-caws

Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2023 a gynhaliwyd ger tref Llanymddyfri rhwng 29 Mai - 3 Mehefin 2023.

Yn rhannol yn sgil llwyddiant mynediad am ddim i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022 drwy gynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel. Cafwyd hyn drwy gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio.[1] Manteisiodd 9,000 o bobl ar hyn. Bu i lwyddiant yr ŵyl a'r tywydd braf i rai alw'r digwyddiad yn Eisteddfod Llanymlyfli.[2]

'Cwiar NaNog'[golygu | golygu cod]

Am y tro cyntaf, cafwyd ardal benodol ar y Maes i'r gymuned LHDTC+ a alwyd yn Cwiar Na Nog. Roedd yn "le saff" i aelodau o'r gymuned mwyn dathlu a chynnig cyfle i ddysgu mwy am y gymuned cwiar yng Nghymru. Cafwyd cefnogaeth a beirniadaeth o'r ardal.[3]

Carcharorion yn cystadlu yn yr Urdd[golygu | golygu cod]

Bu i ddau garcharor ifanc o Garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr gipio dwy o wobrau Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd eleni. Ym mis Chwefror, roedd un o swyddogion y Carchar wedi dod at yr Urdd a gofyn a fyddai’r carcharorion yn cael ymgeisio am gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod.

Mi gawson nhw, ac mae dau wedi cael llwyddiant yn enw ‘Aelwyd y Parc’.Cyhoeddwyd partneriaeth newydd gyda Charchar y Parc ar ddydd Mercher, Mai 31. Cafodd dau fachgen ifanc rhwng 18 a 25 oed wobrau cyntaf ac ail yn y gystadleuaeth ‘Gwaith 3D Blwyddyn 10 a dan 25 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymedrol (unigol neu grŵp)’.[4]

Enillwyr[golygu | golygu cod]

  • Y Goron - Owain Williams o Fetws-yn-Rhos ger Abergele. Roedd Owain, 23, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel meddyg iau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.[5]
  • Y Gadair - Tegwen Bruce-Deans oedd yn wreiddiol o Lewisham yn Llundain, symudodd ei theulu i Landrindod, Maesyfed pan roedd yn ddwy oed. Aeth i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt - bellach Ysgol Calon Cymru - cyn graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor.[6]
  • Y Fedal Ddrama - Elain Roberts, 22 o Bentre'r-bryn ger Ceinewydd yng Ngheredigion oedd ar fin gorffen ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bryste yn astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth.[7]
  • Tlws Cyfansoddwr - Gwydion Rhys, 20 oed o Rachub yn Nyffryn Ogwen oedd yn ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain yn astudio Cyfansoddi.[8]
  • Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg - Lara Rees o Abertawe oedd yn astudio mathemateg, technoleg cerddoriaeth a chelfyddyd gain yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.[9]
  • Y Fedal Lenyddiaeth -
  • Medal y Dysgwr - Gwilym Morgan o Gaerdydd a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn yr ysgol fel rhan o'i Lefel A, neu Safon Uwch, ond mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan ei fam a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015.[10]
  • Medal Bobi Jones - Yvon-Sebastien Landais, o Ddinbych y Pysgod Seb yw'r unig un yn ei deulu sydd yn siarad Cymraeg, er roedd ei hen, hen fam-gu a'i hen, hen dad-cu yn arfer ei siarad. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein drwy ddefnyddio Duolingo.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri 2023". Gwefan Cyngor Sir Gaerfyrddin. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2023.
  2. "Urdd: 9,000 wedi manteisio ar gynllun tocynnau am ddim". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023.
  3. "Beirniadaeth o ardal LHDTC+ yr Urdd yn 'warthus'". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2023.
  4. "Carcharorion yn cystadlu yn yr Urdd". Golwg360. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2023.
  5. "Owain Williams yw enillydd Coron yr Urdd 2023". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023.
  6. "Tegwen Bruce-Deans yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2023". BBC Cymru Fyw. 1 Mehefin 2023.
  7. "Urdd: Elain Roberts yw enillydd Medal Ddrama 2023". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2023.
  8. "Eisteddfod yr Urdd 2023: Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi". BBC Cymru Fyw. 29 Mai 2023.
  9. "Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023.
  10. 10.0 10.1 "Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau dysgu Cymraeg yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]