Duolingo

Oddi ar Wicipedia
Duolingo
Logo Duolingo gyda'r masgot, Duo
Pencadlys,
Yn gwasanaethauY byd
Yr Uned Ewropeaidd (cyfyngedig)
Sefydlydd(wyr)Luis von Ahn, Severin Hacker
Prif weithredwrLuis von Ahn
DiwydiantAddysg ar-lein, Ardystio proffesiynol, Cyfieithu, Torfoli
GwasanaethauCyrsiau iaith, Duolingo Test Center, Duolingo for Schools
Cyflogedigion60[1]
ArwyddairAddysg iaith am ddim i'r byd
Gwefanduolingo.com
Ysgrifennwyd mewnPython
Safle Alecsapositive decrease 938 (29 Rhagfyr 2017)[2]
HysbysebuNage
CofrestruIe
DefnyddwyrMwy na 120 miliwn[1]
Ar gael yn
LansiwydTachwedd 2011;
12 blynedd yn ôl
 (2011-11)
Statws cyfredolAr-lein
Ar gael arAndroid, iOS, Windows Phone
Presentation at Wikimania about Duolingo

Platfform dysgu iaith am ddim sy'n cynnwys gwefan ac ap dysgu iaith, yn ogystal â phrawf asesu hyfedredd digidol yw Duolingo.

Nid creu siaradwyr rhugl yw nod eu cyrsiau, ond yn hytrach galluogi i'w defnyddwyr gael a chyrraedd lefel dechreuwyr da neu ganolradd.[3] Nid yw Duolingo yn cynnwys hysbysebion ac mae pob cwrs iaith yn rhad ac am ddim. Ers mis Ebrill 2016, mae'r wefan ac ap yn cynnig 59 cwrs iaith wahanol drwy gyfrwng 23 iaith wahanol. Mae'r ap ar gael ar blatfformau iOS, Android, ac Windows 8 a 10 gyda mwy na 120 miliwn o ddefnyddwyr cofrestredig ledled y byd.[1][4][5]

Ers 26 Ionawr 2016, mae'r Gymraeg ar gael i'w dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ac ar 9 Awst 2016, roedd dros 230,000 o ddysgwyr unigryw'r Gymraeg wedi ceisio dysgu'r iaith ar y platfform; erbyn Ebrill 2018 cododd y nifer hwn i filiwn.[6][7]

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd y prosiect yn Pittsburgh gan yr Athro Luis von Ahn (crëwr reCAPTCHA) o Brifysgol Carnegie Mellon a'i fyfyriwr graddedig, Severin Hacker, yna gydag Antonio Navas, Vicki Cheung, Marcel Uekermann, Brendan Meeder, Hector Villafuerte, a Jose Fuentes.

Mae ysbrydoliaeth dros Duolingo yn dod o ddwy le: roedd Von Ahn am greu rhaglen arall sy'n cyflawni dau amcan yn un, sy'n “twofer” yn ei ôl e.[4] Mae Duolingo yn cyflawni hyn drwy addysgu iaith dramor a chael y defnyddwyr i gyfieithu ymadroddion syml mewn dogfennau.

Datgelodd aelod o staff Forbes, Parmy Olson, y rheswm arall dros greu Duolingo: ganwyd Von Ahn yn Gwatemala a gwelodd e mor ddrud oedd i bobl ei wlad yn ei gymuned ddysgu'r Saesneg. Cred Severin Hacker (ganwyd yn Zug, y Swistir), cyd-sylfaenydd Duolingo, a Von Ahn yw “bydd addysg am ddim yn wir yn newid y byd”[5] ac roedden nhw am ddarparu'r ffordd i wneud hyn.

Ariannwyd y prosiect yn wreiddiol gan gymrodoriaeth MacArthur Luis von Ahn a grant National Science Foundation. Derbyniwyd cronfa arall yn nes ymlaen ar ffurf buddsoddiadau oddi wrth Union Square Ventures a chwmni'r actor Ashton Kutcher, A-Grade Investments.[8][9]

Dechreuwyd Duolingo ei feta breifat ar 30 Tachwedd 2011, a phryd hynny roedd mwy na 300,000 defnyddiwr ar y rhestr aros. Ar 19 Mehefin 2012, rhyddhawyd Duolingo i'r cyhoedd. Oherwydd diddordeb mawr, mae Duolingo wedi derbyn llawer o fuddsoddiadau, gan gynnwys Math C o fuddsoddiad o $20 miliwn a arweiniwyd gan Kleiner Caufield & Byers a Math D o fuddsoddiad o $45 miliwn a arweiniwyd gan by Google Capital. Mae gan Duolingo 60 aelod o staff, a oedd yn gyflogedigion yn gynt, a chynhelir ef mewn swyddfa yn Shadyside, Pittsburgh, ar bwys champws Carnegie Mellon.[10]

Ar 13 Tachwedd 2012, rhyddhawyd Duolingo eu hapiau IOS ar iTunes App Store. Mae am ddim i'w lawrlwytho ac mae'n gweithio ar y rhan helaeth o ddyfeisiadau IPhone, IPod, ac IPad. Ar 29 Mai 2013, rhyddhawyd Duolingo eu hap Android, a gafodd dros filiwn o lawrlwythiadau yn y tair wythnos gyntaf a daeth yn #1 ymhlith yr apiau addysg yn y stôr Google yn dra-gyflym. Yna rhyddhawyd Duolingo Google Glass App a chefnogaeth am Android Wear.

Model busnes[golygu | golygu cod]

Mae prif wasanaethau Duolingo ar gael yn rhad ac am ddim, ac nid ydyw'n defnyddio hysbysebu ac nid oes ffioedd tanysgrifio. Serch hynny, roedd cyfnodau lle defnyddiwyd y platfform i godi tâl am gyfieithiadau a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr wrth iddynt ymarfer eu sgiliau iaith newydd.[11] Ym mis Gorffennaf 2014, dechreuwyd Duolingo wasanaeth tystysgrif iaith, y Ganolfan Brofi, fel model busnes newydd. Ym mis Gorffennaf 2015, cadarnhawyd Duolingo fod y cwmni'n dechrau symud i ffwrdd o'r farchnad gyfieithu ac yn y dyfodol y bydd yn canolbwyntio ar ardystio iaith a chyfleoedd busnes eraill.[12]

Cyfieithu torfoli[golygu | golygu cod]

I ennill arian, defnyddiodd Duolingo fodel busnes torfoli'n wreiddiol, lle'r oedd aelodau'r cyhoedd yn gallu cyfieithu cynnwys a phleidleisio dros gyfieithiadau. Daeth y cynnwys o sefydliadau a oedd yn talu Duolingo i'w gyfieithu e. Gellid ychwanegu dogfennau er mwyn eu cyfieithu drwy gyfieithu cyfieithu arbennig.[13] Ar 14 Hydref 2013, cyhoeddodd Duolingo ei fod wedi cytuno â CNN a BuzzFeed ar gyfieithu erthyglau ar gyfer gwefannau rhyngwladol cwmnïau.[14][15] Ers Medi 2015, nid oes rhagor o gytundebau cyfieithu.

Buddsoddwyr[golygu | golygu cod]

Ers 2015, mae $470 miliwn gyda'r cwmni gyda chyfanswm o $83.3 miliwn o fuddsoddwyr.[16] Gyda buddsoddiadau yn Duolingo mae cyfalafwyr menter, buddsoddwyr preifat, a chwmnïau buddsoddi eraill Fred Wilson,[17] Union Square Ventures,[18] New Enterprise Associates,[19] Ashton Kutcher,[8][9] Kleiner Perkins Caufield & Byers, Google Capital,[18] a Tim Ferriss.[20]

Cynhyrchion[golygu | golygu cod]

Cyrsiau iaith[golygu | golygu cod]

Mae Duolingo yn cynnig gwersi ysgrifenedig ac arddweud yn helaeth, gydag ymarferion siarad am ddefnyddwyr uwch. Mae ganddo goeden sgiliau sy'n seiliedig ar nodweddion gemau lle mae defnyddwyr yn cynyddu drwyddi ac adran geirfa lle gellir ymarfer geiriau sydd wedi cael eu dysgu'n barod.

Cyrsiau yn/o'r Saesneg[golygu | golygu cod]

Ers 29 Rhagfyr 2017, mae 27 cwrs ar gael i'r cyhoedd drwy gyfrwng y Saesneg (rhestrir yn ôl y nifer o ddefnyddwyr):[21]

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Mae pobl gan gynnwys yr hyfforddwraig ieithyddol Kerstin Cable wedi beirniadu dulliau Duolingo, o ran y geirfa a dewisir, diffyg hyblygrwydd yn yr ymarferion cyfieithu, a'r profiad cyffredinol.[22] Yn ôl arbenigwr arall, mae'n argymell defnyddio Duolingo dim ond ar y cyd gyda dulliau trwytho[23].

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Duolingo moving to East Liberty, plans to add employees". The Business Journals. Cyrchwyd 2016-03-24.
  2. "Duolingo". Ranking. Alexa Internet. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-09. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2017.
  3. Adams, Susan. "Game of Tongues: How Duolingo Built A $700 Million Business With Its Addictive Language-Learning App". Forbes (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-20. Von Ahn promises only to get users to a level between advanced beginner and early intermediate. “A significant portion of our users use it because it’s fun and it’s not a complete waste of time,” he says.
  4. 4.0 4.1 "100M users strong, Duolingo raises $45M led by Google at a $470M valuation to grow language-learning platform". Venture beat. Cyrchwyd 2015-06-21.
  5. 5.0 5.1 "Duolingo – Learn Languages for Free". Windows phone. Microsoft. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2014.
  6. "Duolingo: Learn Spanish, French and other languages for free". Duolingo. Cyrchwyd 28 Ebrill 2016.
  7. golwg360.cymru; adalwyd 4 Ebrill 2018.
  8. 8.0 8.1 Todd, Deborah M. (3 Gorffennaf 2012). "Ashton Kutcher backs CMU duo's startup Duolingo". Pittsburgh Post Gazette. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-25. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2012.
  9. 9.0 9.1 "The Daily Start-Up: Kutcher-Backed Language Site Duolingo Finds Its Voice". The Wall Street Journal. 19 Mehefin 2012. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2012.
  10. Luis. "Duolingo turns two today!". Cyrchwyd 21 Tachwedd 2014.
  11. "Crowdsourcing Capitalists: How Duolingo's Founders Offered Free Education To Millions". Forbes. Cyrchwyd 2015-12-22.
  12. Lardinois, Frederic. "Duolingo Raises $45 Million Series D Round Led By Google Capital, Now Valued At $470M". Tech crunch. Cyrchwyd 19 Medi 2015.
  13. Simonite, Tom (2012-11-29). "The Cleverest Business Model in Online Education". Technology review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-27. Cyrchwyd 2014-02-21.
  14. "Duolingo now translating BuzzFeed and CNN". Duolingo. 14 Hydref 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-09. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2013.
  15. "BuzzFeed Expands Internationally In Partnership With Duolingo". Buzz Feed. 14 Hydref 2013. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2013.
  16. Lardinois, Frederic. "Duolingo Raises $45 Million Series D Round Led By Google Capital, Now Valued At $470M". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-04. Cyrchwyd 2015-12-22.
  17. Wilson, Fred. "Feature Friday: The Dashboard". AVC. Cyrchwyd 28 Mawrth 2015.
  18. 18.0 18.1 "A startup that promises to teach you 9 languages just raised $45 million from Google". Business insider. Cyrchwyd 10 Mehefin 2015.
  19. "Duolingo". New Enterprise Associates. Cyrchwyd 28 Mawrth 2015.,
  20. Kia Kokalitcheva (8 Ionawr 2015). "Duolingo makes its language-learning software available to teachers with a dashboard to track students". VentureBeat. Cyrchwyd Ebrill 19, 2016.
  21. "Language Courses for English Speakers". Duolingo. Adalwyd 29 Rhagfyr 2017.
  22. "It's a free app loved by millions. Is Duolingo wasting your time? by Fluent Language". Fluent Language Learning with Kerstin Cable (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-20.
  23. Heaney, Katie (2019-01-25). "Is It Just Me, or Does Duolingo Not Work?". The Cut (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-20.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]