Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru 2021

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru 2021
Enghraifft o'r canlynolpolitical settlement Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Tachwedd 2021 Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Adam Price Arweinydd Plaid Cymru a arweiniodd at lunio'r Cytundeb Cydweithio
Mark Drakeford Prif Weinidog Cymru adeg arwyddo'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, 2021

Rhaglen ar gyfer llywodraethu oedd Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru neu Y Cytundeb Cydweithio (Saesneg: The Cooperation Agreement [1]) a gytunwyd arno yn 2021. Roedd yn gytundeb ar gyfer polisiau y byddai Plaid Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru Plaid Lafur wedi Etholiad Senedd Cymru 2021. Cytunwyd ar 46 pwynt polisi ond gan roi'r rhyddid i Blaid Cymru bleidleisio yn erbyn a gwrthwynebu'r Blaid Lafur ar bwyntiau polisi a gweithredoedd eraill.[2]

Yn wahanol i Gytundeb Cymru'n Un pan bu Plaid Cymru mewn clymblaid ffurfiol llywodraethol gyda'r Blaid Lafur, doedd gan Blaid Cymru ddim Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn dilyn y Cytundeb Cydweithio.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Siân Gwenllian, prif gyswllt Plaid Cymru yn y trafodaethau i lunio'r Cytundeb

Bu trafodaethau rhwng Adam Price a Siân Gwenllian o Blaid Cymru â Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2021. Cadarnhawyd y Cytundeb gan aelodau Plaid Cymru a'r Blaid Lafur ar 21 Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys cynlluniau i newid treth y cyngor a gwasanaethau cymdeithasol, ehangu gofal plant am ddim a mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi.

Mae cynlluniau hefyd i greu cwmnïau cyhoeddus ar gyfer ynni ac adeiladu, mesurau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a newidiadau i faint a system etholiadol y Senedd - gan gynnwys addewid o gael yr un faint o ddynion a menywod.[3]

Rhaglen bolisi pedair rhan[golygu | golygu cod]

Rhanwyd rhaglen bolisi yn bedair rhan:

  • Gweithredu Radical mewn Cyfnod Heriol;
  • Cymru Wyrddach i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd a’r Argyfwng Natur;
  • Diwygio Sylfaeni Cymru;
  • Creu Cymru Unedig, sy’n Decach i Bawb

Ynghyd â diwygio’r dreth gyngor, cyflwyno ardollau twristiaeth lleol, ac ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed, mae’r rhan gyntaf yn cynnwys gweithredu ar ail gartrefi.

Mae’r camau sy’n cael eu cynllunio’n yn ceisio mynd i'r afael gyda'r argyfwng tai gan osod cynnwys terfyn ar nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau, mesurau i ddod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin, cynllun trwyddedu statudol ar gyfer lletai gwyliau, a mwy o bwerau i awdurdodau lleol osod cyfraddau premiwm y dreth gyngor a chynyddu trethi ar ail gartrefi.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd y ddau grŵp yn gweithio i sefydlu cwmni ynni sero net, o dan berchnogaeth gyhoeddus, i annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i’r gymuned.

Fe fydd buddsoddiadau pellach i amddiffyn rhag llifogydd, a byddan nhw'n gweithio gyda'r gymuned ffermio i annog creu coetiroedd gan ystyried ffyrdd o sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.

Bydd y grŵp yn cefnogi cynlluniau ar gyfer diwygio’r Senedd hefyd, yn seiliedig ar 80 i 100 o aelodau, a groesawyd gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.

Y Gymraeg, Hanes Cymru ac enwau lleoedd[golygu | golygu cod]

Mae mesurau newydd i gryfhau’r Gymraeg yn rhan o’r polisïau hefyd, gan gynnwys datblygu strategaeth ddiwylliant newydd, sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, iaith Gymraeg ffyniannus, y sectorau diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau.

Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i wneud Hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, ynghyd â chyflwyno Bil Addysg Gymraeg, a fydd yn cryfhau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn addysg.

Mae sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo yn rhan o’r rhaglen bolisi hefyd, yn ogystal â gwella gwasanaethau iechyd meddwl i bobol ifanc.[4]

Cyfansoddiad Cymru[golygu | golygu cod]

Roedd y Cytundeb hefyd i graffu ar nifer y aelodau seneddol ar gyfer Senedd Cymru a'r dull o'u hethol. Sefydlwyd hefyd Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'r Comisiwn yn ystyried pob posibilrwydd i ddyfodol Cymru yn cynnwys annibyniaeth i Gymru.[5] Arweiniwyd y Comisiwn gan Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Cymru'n Un - cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn 2007

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Cooperation Agreement". Llywodraeth Cymru. 2021.[dolen marw]
  2. "Y Cytundeb Cydweithio". Llywodraeth Cymru. 21 Tachwedd 2021. t. 8.
  3. "Llafur a Phlaid Cymru yn cymeradwyo cytundeb cydweithio". BBC Cymru Fyw. 21 Tachwedd 2021.
  4. "Cyhoeddi Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru". Golwg360. 22 Tachwedd 2021.
  5. "Amdanom ni". Gwefan Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]