Rowan Williams
Oddi ar Wicipedia
Diwynydd, darlithydd , bardd ac Archesgob Caergaint yw Dr Rowan Douglas Williams (ganwyd 14 Mehefin, 1950). Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i deulu Cymraeg. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dinefwr, Abertawe, yng Ngoleg Crist, Caergrawnt, a Choleg Eglwys Crist a Wadham, Rhydychen, lle y cafodd ei ddoethuriaeth. Bu'n dysgu diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt.
Daeth yn Esgob Mynwy yn 1991, ac yn Archesgob Cymru yn 1999. Yn 2002 cyhoeddwyd ei fod i ddilyn George Carey fel Archesgob Caergaint, yn Eglwys Loegr, ac felly yn arweinydd y Gymuned Anglicanaidd fyd-eang, er yn dechnegol, nid oedd yn aelod o Eglwys Loegr, gan fod yr Eglwys yng Nghymru wedi ei datgysylltu. Fe'i urddwyd ar yr 27 Chwefror 2003.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau gan Rowan Williams
- Writing in the Dust - Reflections on 11th September and Its Aftermath, Chwefror 2002, Hodder & Stoughton, ISBN 9780340787199
- Ponder These Things: Praying with Icons of the Virgin, Gorffennaf 2002, Canterbury Press, ISBN 9781853113628
- Poems of Rowan Williams, Ionawr 2003, Perpetua Press, ISBN 9781870882163
- Areithiau a Phregethau y Parch. a Gwir Anrhyd. Dr Rowan Williams Chwe 2000-Rhag 2002 / Addresses and Sermons Delivered by the Most Rev. & Rt. Hon. Dr Rowan Williams Feb 2000-Dec 2002, Mai 2003, Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, ISBN 9780853261124
- Lost Icons, Awst 2003, Continuum Books, ISBN 9780826467997
- Silence and Honey Cakes: The Wisdom of the Desert, Tachwedd 2004, Lion Publishing, ISBN 9780745951706
- Grace and Necessity: Reflections on Art and Love, Mehefin 2005, Continuum Books, ISBN 9780819281180
- Tokens of Trust: An Introduction to Christian Belief, Mai 2007, Canterbury Press, ISBN 9781853118036
- Headwaters, Medi 2008, Perpetua Press, ISBN 9781870882194
- Rowan's Rule - The Biography of the Archbishop, Tachwedd 2008, Hodder & Stoughton, ISBN 9780340954256
[golygu] Llyfrau amdano
- Rowan Williams - Yr Archesgob, Awst 2006, Cynwil Williams, Gwasg Pantycelyn, ISBN 9781903314784
| Rhagflaenydd: Alwyn Rice Jones |
Archesgob Cymru 1999 – 2002 |
Olynydd: Barry Cennydd Morgan |
| Rhagflaenydd: George Leonard Carey |
Archesgob Caergaint 2002 – presennol |
Olynydd: deiliad |

