Eglwys Sant Crwst

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Crwst
Creiriau teulu Llywelyn Fawr yn cael eu cadw yng nghefn yr eglwys

Yn Llanrwst, Sir Conwy, mae Eglwys Sant Crwst. Cedwir rhai o greiriau'r Tywysogion Cymreig yma, gan gynnwys Llywelyn Fawr. Cysegrwyd yr eglwys i sant Crwst; ni wyddys unrhyw beth amdano ond ei fod yn sant lleol. Mae'r eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I.

Hanes[golygu]

Codwyd eglwys ar y safle presennol yn 1170. Eglwys o gerrig gyda tho gwellt oedd honno, ond yn ôl traddodiad roedd eglwys gynharach ar safle a elwir hyd heddiw 'Cae Llan.' Llosgwyd eglwys 1170 i'r llawr yn 1468. Codwyd yr eglwys bresennol yn 1470, ond erbyn heddiw dim ond rhannau o'r adeilad hwnnw sy'n sefyll; mae'r tŵr a'r ystlys ogleddol yn perthyn i'r 19eg ganrif.[1]

Ychwanegwyd Capel Gwydir yn 1633–34 gan Richard Wynn o Wydir. Ynddo ceir arch carreg Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Gogledd Cymru. Daeth yno o safle Abaty Maenan a chyn hynny roedd yn gorwedd yn hen Abaty Aberconwy (Conwy).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947).

Gweler hefyd[golygu]

Eglwys Sant Crwst: Capel Gwydir


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.