Anhunedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Diffyg cwsg)
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Y cyflwr meddygol a seicolegol o goll neu ddiffyg cwsg yw anhunedd (insomnia). Mae rhaid wrth gwsg yn fiolegol ac mae anghenion unigolion yn amrywio'n fawr o tua tair i ddeg awr y nos, gan ddibynnu ar eu hoedran ac amgylchiadau eraill. Achosir anhunedd gan newid arferion, pryder, iselder a chyffuriau neu feddyginiaethau.

Gall fod yn flinedig iawn - fel canlyniad i orweithio, er enghraifft - peri anhunedd hefyd, gan fod y corff a'r meddwl yn methu ymlacio'n iawn.

Mae llawer o bobl yn credu mewn "cyfrif defaid" er mwyn syrthio i gysgu; mae rhywfaint o sail i'r gred hon gan fod undoniaeth y dasg yn debyg o beri i'r dioddefwr ymgolli ynddi a syrthio i gysgu mewn canlyniad. Ceir moddion soporiffig sy'n gallu helpu hefyd, ond mae perygl o ddod yn gaeth iddyn nhw os caent eu defnyddio am gyfnod hir a dylid ymgynghori â meddyg bob tro cyn eu defnyddio.

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Gall eich diet neu eich amserlen o ddydd i ddydd effeithio ar eich cwsg, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i geisio cysgu’n well. Mae Childline yn awgrymu'r camau canlynol er mwyn ceisio cysgu'n well.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus[golygu | golygu cod]

Dim rhy boeth, dim rhy oer, dim rhy swnllyd na llachar.

Gwnewch ymarfer corff[golygu | golygu cod]

Peidiwch â mynd dros ben llestri ond rhowch gynnig ar nofio neu gerdded yn rheolaidd. Yr amser gorau i wneud ymarfer corff yw yn ystod y dydd – yn benodol yn hwyr yn y prynhawn neu’n gynnar gyda’r nos. Gall gwneud ymarfer corff yn hwyrach na hyn amharu ar eich cwsg. Mae ymarfer corff yn llosgi egni ac yn rhyddhau endorffinau – cemegau naturiol sy’n eich helpu i ymlacio a theimlo’n llai pryderus.

Ysgrifennwch[golygu | golygu cod]

Os oes rhywbeth yn eich poeni ac nid oes modd gwneud dim i wella’r sefyllfa ar unwaith, ceisiwch ysgrifennu’r hyn sy’n eich poeni i lawr cyn mynd i gysgu. Unwaith i chi ysgrifennu eich pryderon i lawr, gallwch ddelio gyda’r problemau yn y bore.

Ymlaciwch cyn mynd i’r gwely[golygu | golygu cod]

Mae rhai pobl yn mwynhau darllen i ymlacio. Ceisiwch gadw at lyfrau copi caled – gall y golau o sgriniau cyfrifiadur neu rai e-ddarllenwyr ei gwneud hi’n anodd syrthio i gysgu. Ceisiwch osgoi eistedd o flaen sgrin am o leiaf dwy awr cyn yr amser rydych yn bwriadu mynd i’r gwely.

Cadwch eich ffôn symudol[golygu | golygu cod]

Os yw eich ffrindiau’n eich cadw’n effro drwy eich ffonio neu drwy anfon negeseuon yn ddi-baid, ystyriwch ofyn iddynt roi’r gorau iddi. Diffoddwch sain eich ffôn, dewiswch y gosodiad ‘peidiwch ag amharu’ – neu diffoddwch eich ffôn yn gyfan gwbl.

Dychmygwch eich hun yn eich hoff le[golygu | golygu cod]

Caewch eich llygaid a dychmygwch eich hun yn eich hoff le neu yn lle bynnag rydych eisiau bod un diwrnod. Dychmygwch eich hun yn hapus ac yn ymlacio. Anadlwch i mewn ac allan yn araf, gan ymlacio eich cyhyrau nes i chi deimlo fel eich bod wedi ymlacio’n llwyr.[1][2]


Meddygaeth amgen[golygu | golygu cod]

Defynyddir y planhigyn canlynol i wella diifyg cwsg h.y. fel help i berson gysgu: Briallen Fair.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennu allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Problems sleeping | Childline". www.childline.org.uk. Cyrchwyd 2022-03-05.
  2. "Problemau Cysgu". meddwl.org. 2017-02-27. Cyrchwyd 2022-03-05.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Problemau Cysgu ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall