Derwen Adwy'r Meirwon

Oddi ar Wicipedia
Derwen Adwy'r Meirwon dan yr eira yn 2013.
Arwydd sydd yn nodi enw'r goeden.

Derwen ger Wrecsam yng ngogledd Cymru yw Derwen Adwy'r Meirwon. Lleolir y goeden hon ger Clawdd Offa, a chredir ei fod yn fwy na mil o flynyddoedd oed. Saif ar safle Brwydr Crogen (1165) a daw enw'r dderwen o'i chysylltiad â chladdedigaeth meirwon y frwydr honno. Yn 2013, hon oedd y goeden gyntaf yng Nghymru ymgeisio am gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2013.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Derwen mes coesynnog (Quercus robur) ydy'r goeden hon. Saif ar Lwybr Clawdd Offa sydd yn rhedeg ger Clawdd Offa, y ffin hanesyddol rhwng Cymru a Lloegr sydd yn dyddio'n ôl i'r 8g.[1] Lleolir y dderwen tua 300 metre (980 ft) oddi ar Gastell y Waun, ger Dyffryn Ceiriog a ffordd y B4500.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Amcangyfrif oed y dderwen i fod yn uwch na mil o flynyddoedd, ac fe'i chysylltir â theyrnasiad Ecgberht, Brenin Wessex (802–839).[3] Safai'r goeden ym 1165 pryd ymladdwyd Brwydr Crogen, a dywed taw'r dderwen yw'r "unig dyst byw i'r frwydr hon". Llwyddodd byddin Gymreig dan Owain Gwynedd i drechu Harri II, brenin Lloegr a'i orfodi i ffoi.[4] Claddwyd y meirw mewn cae cyfagos a elwir yn Adwy'r Meirwon, ac enillodd y goeden yr enw Derwen Adwy'r Meirwon. Daeth y goeden yn symbol o'r frwydr ac ym Mawrth 2009 gosodwyd arwydd gerllaw i nodi'r cysylltiad hwn. Rhannodd y dderwen yn ddau yn Chwefror 2010 o ganlyniad i dywydd oer a derbyniodd orchymyn cadwraeth coeden gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae'r dderwen yn dirnod lleol enwog ac yn un o'r coed cyntaf yn y byd i gael tudalen ei hunan ar wefan Facebook. Cafodd ei ddangos mewn sawl rhaglen deledu a radio, gan gynnwys Countryfile, newyddion BBC Midlands, BBC Wales TV, BBC Radio Wales, a BBC Radio Shropshire. Yn ogystal, adroddai hanes y goeden mewn ffilm gan Take 27 Ltd a gafodd ei harddangos yng Ngŵyl Hanesion Wrecsam ar 4 Chwefror 2011. Cafodd y dderwen ei henwebu gan Goed Cadw ar gyfer Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2013, y tro cyntaf i goeden yng Nghymru gael ei henwebu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Oak at the Gate of the Dead". People's Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mawrth 2018.
  2. "The Oak at the Gate of the Dead". European Tree of the Year. Environmental Partnership Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-10. Cyrchwyd 1 Mawrth 2018.
  3. "Old oak nominated as Europe's finest". BBC News. 20 November 2013. Cyrchwyd 1 Mawrth 2018.
  4. "In pictures: Reliving Wrexham's Battle of Crogen, 1165". BBC News. 4 Chwefror 2011. Cyrchwyd 2 Mawrth 2018.