Cynllwyn i fomio awyrennau trawsiwerydd (2006)

Oddi ar Wicipedia
Cynllwyn i fomio awyrennau trawsiwerydd
Enghraifft o'r canlynolymgais ar ymosodiad Edit this on Wikidata
Dyddiad9 Awst 2006 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Heddlu yn Heol Forest, Walthamstow, Llundain, yn chwilio tŷ a ddrwgdybir o ymwneud â'r cynllwyn.

Yn ôl awdurdodau Prydain a'r Unol Daleithiau, cynllwyn terfysgol i danio ffrwydron hylifol wedi'u cludo mewn bagiau llaw ar nifer o awyrennau yn teithio o Lundain i ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau oedd y cynllwyn awyrennau trawsiwerydd 2006. Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio gan yr Ysgrifennydd Cartref, John Reid, fel cynllwyn "arwyddocaol iawn" gyda'r bwriad o ladd nifer fawr o bobl.[1] Bu mesurau diogelwch llym iawn ym meysydd awyr Prydain,[2] yr Unol Daleithiau, a nifer o wledydd eraill yn dilyn datgeliad y cynllwyn.

Manylion y cynllwyn[golygu | golygu cod]

Ffrwydron hylifol[golygu | golygu cod]

Yn ôl nifer o ffynonellau newyddion, bu'r terfysgwyr yn cynllunio i gludo ffrwydron hylifol ar yr awyrennau mewn poteli Lucozade. Cynlluniodd y cynllwynwyr i adael top y botel wedi'i selio a llawn y ddiod wreiddiol, ond i roi gwaelod ffug yn cynnwys ffrwydryn hylifol neu gel wedi'i lliwio'n goch i gydweddu â'r ddiod chwaraeon yn nhop y cynhwysydd.[3]

Ymateb diogelwch[golygu | golygu cod]

Diogelwch hedfan[golygu | golygu cod]

Y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]

Yn dilyn datgeliad y cynllwyn honedig, cafodd mesurau diogelwch llym eu gorfodi ar gyfer teithwyr oedd yn hedfan o Brydain, neu yn newid awyren ym Mhrydain. Ni chaniaetheir bagiau llaw (rhaid cael eu rhoi yng nghrombil yr awyren), a ni chaniaeteir rhoi eiddo mewn pocedi dillad. Bu rhaid i deithwyr cario dim ond eitemau hanfodol (megis arian, pasportau, sbectolau, meddyginiaethau) mewn waledi tryloyw. Cafodd pob teithiwr eu harchwilio gyda llaw, a sgriniodd â phelydr-X pob esgid a waled dryloyw.[4]

Yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Yn dilyn yr ymgyrch i atal y cynllwyn, gwaharddodd Diogelwch Mamwlad yr Unol Daleithiau pob hylif a gel, ac eithrio fformiwla llaeth babanod a meddyginiaethau presgripsiwn yn enw daliwr y tocyn, mewn bagiau llaw ar bob siwrnai.[5] Cododd y Lefel DHS yn yr Unol Daleithiau i "Uchel Iawn" (coch) ar gyfer pob siwrnai awyren o'r DU. Cododd y lefel ar gyfer pob daith fewnwladol neu ryngwladol (ar wahân i Brydain) yn yr Unol Daleithiau i "Uchel" (oren).

Diogelwch cyffredinol[golygu | golygu cod]

Fel yn dilyn ymosodiadau a chynllwynion eraill yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, bu cynnydd mewn diogelwch cyffredinol. Ddydd Sul, 13 Awst, 2006, bu mwy o heddlu yn patrolio Caerdydd cyn gêm pêl-droedd rhwng Lerpwl a Chelsea yn Stadiwm y Mileniwm. Dywedodd y Brif Arolygydd Bob Evans:

Nid oes bygythiad terfysgol penodol i dde Cymru, Caerdydd, neu Stadiwm y Mileniwm - ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus .[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dogfennau llywodraethol swyddogol[golygu | golygu cod]

Y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]