Cwpan Pêl-droed Asia

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Pêl-droed Asia
Founded1956; 68 blynedd yn ôl (1956)
RegionAsia (Cyd-ffederasiwn Pêl-droed Asia)
Number of teams24 (finals)
46 (eligible to enter qualification)
Current champions Qatar
(1st title)
Most successful team(s) Japan (4 titles)
Websitewww.the-afc.com
2023 AFC Asian Cup
Tlws y Cwpan hyd nes 2015

Mae Cwpan Pêl-droed Asia AFC yn cael ei gynnal bob 4 blynedd gan Gydffederasiwn Pêl-droed Asia - yr AFC. Ar ôl 2004, penderfynwyd symud y bencampwriaeth i osgoi gwrthdrawiad â thwrnameintiau eraill. Felly gohiriwyd y digwyddiad nesaf tan 2011.

Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf ym 1956. Mae Siapan, Iran a Arabia Sawdi i gyd wedi ennill deirgwaith yr un. Yn ogystal â'r cenhedloedd Asiaidd, mae Awstralia hefyd yn y twrnamaint. Mae Israel wedi cymryd rhan yn y gorffennol, ond wedi ymuno ag UEFA.

Y pencampwyr cyfredol yw Qatar wedi budduoliaeth o 3-1 dros Japan yn 2019.

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd cystadleuaeth pan-Asiaidd gyntaf ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond ni chafodd ei gweithredu tan y 1950au. Ddwy flynedd ar ôl i Gydffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC) ddod i fodolaeth ym 1954, cynhaliwyd y Cwpan Asiaidd AFC cyntaf erioed yn Hong Kong gyda saith o'r deuddeg aelod sefydlu yn cymryd rhan, gan wneud y twrnamaint yr ail hynaf yn y byd. Roedd y broses gymhwyso yn cynnwys y gwesteiwyr ynghyd ag enillwyr y gwahanol barthau (Canol, Dwyrain a Gorllewin). Twrnamaint pedwar tîm yn unig ydoedd, fformat a oedd hefyd yn bodoli ar gyfer 1960 a 1964. Mae pob is-gydffederasiwn eisoes yn cynnal eu pencampwriaeth bob dwy flynedd eu hunain, pob un â graddau amrywiol o ddiddordeb.[1]

Dangosodd De Corea ei rhagoriaeth ym mlynyddoedd cynnar y gystadleuaeth wrth i'r wlad orchfygu 1956 a 1960; mae hyn yn parhau i fod fel cyflawniadau gorau De Corea yn y twrnamaint.[2]

Crynodeb o'r enillwyr[golygu | golygu cod]

Mae Cwpan Asia wedi ei ddominyddu gan lond dwrn o brif dimau. Y gwledydd cychwynnol llwyddiannus oedd De Corea ac Iran (tair waill ill dau). Er 1984 mae Siapan a Arabia Sawdi wedi bod y timau mwyaf llwyddiannus, gan ennill saith o'r deg ffeinal ddiwethaf. Y gwledydd eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus yw Qatar (enillwyr 2015) ac Awstralia (enillwyr 2015). Irac (2007) a Cowait (1980). Bu i Israel ennill yn 1964 ond fe'i diarddelwyr o'r AFC gan ymuno ag UEFA (corff pêl-droed Ewrop).

Datblygiadau diweddar[golygu | golygu cod]

Ymunodd Awstralia yr AFC yn 2007 gan gynnal twrnament Cwpan Asia yn 2015. Ehangwyd twrnament 2019 o 16 tîm i 24 gyda'r broses gymwyso yn dyblu hefyd fel ran o broses cymwyso ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[3][4] Yn y twrnamaint yn 2019 defnyddiwyd cynorthwy-ydd dyfarnu fideo (VAR) am y tro cyntaf.[5]

Enillwyr y Cwpan[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enillydd Ffeinalist arall Gwlad cynnar
1956 Baner De Corea De Corea De Corea Baner Israel Israel Israel Baner Hong Cong Hong Cong
1960 Baner De Corea De Corea De Corea Baner Israel Israel Israel Baner De Corea De Corea
1964 Baner Israel Israel Israel Baner India India India Baner Israel Israel
1968 Baner Iran Iran Iran Baner Myanmar Myanmar Myanmar Baner Iran Iran
1972 Baner Iran Iran Baner De Corea De Corea De Corea Baner Gwlad Thai Gwlad Thai
1976 Baner Iran Iran Iran Baner Coweit Coweit Cowait Baner Iran Iran
1980 Baner Coweit Coweit Cowait Baner Israel Israel Israel Baner Coweit Coweit Kuwait
1984 Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Tsieina Tsieina G.P. China Baner Singapôr Singapôr
1988 Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner De Corea De Corea De Corea Baner Qatar Qatar Qatar
1992 Baner Japan Japan Japan Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Japan Japan
1996 Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig EAU Baner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
2000 Baner Japan Japan Japan Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner Libanus Libanus Libanus
2004 Baner Japan Japan Japan Baner Tsieina Tsieina C.P. China Baner Tsieina Tsieina
2007 Baner Irac Irac Irac Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia Arabia Sawdi Baner India India Baner Maleisia Maleisia Baner Gwlad Tai Gwlad Tai Baner Fietnam Fietnam De Ddwyrain Asia
2011 Baner Japan Japan Japan Baner Awstralia Awstralia Awstralia Baner Qatar Qatar Qatar
2015 Baner Awstralia Awstralia Awstralia Baner De Corea De Corea De Corea Baner Awstralia Awstralia
2019 Baner Qatar Qatar Baner Japan Japan Baner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig

Dolenni[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.amazon.in/Recurring-Sporting-Events-Established-1956/dp/1156748968
  2. "The AFC".
  3. "Revamp of AFC competitions". The-afc.com. 25 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2014.
  4. "AFC Asian Cup changes set for 2019". Afcasiancup.com. 26 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2014.
  5. "AFC plans to introduce VAR at UAE 2019". 27 September 2018.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.