Claudia Schreiber

Oddi ar Wicipedia
Claudia Schreiber
Ganwyd30 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata
Schachten Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu, newyddiadurwr, sgriptiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Lenyddiaeth Pobl Ifanc Euregio, Medienpreis Entwicklungspolitik Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.claudiaschreiber.de/ Edit this on Wikidata

Awdur o'r Almaen yw Claudia Schreiber (ganwyd 30 Gorffennaf 1958) sydd hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel cyflwynydd teledu, newyddiadurwr a sgriptiwr.

Fe'i ganed yn Schachten, talaith Hessen, yr Almaen ar 30 Gorffennaf 1958. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Göttingen a Phrifysgol Mainz.[1][2][3]

Ar ôl astudio newyddiaduraeth, gwyddoniaeth addysg a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Göttingen a Phrifysgol Mainz, 1979 - 1985, gradd MA, bu'n gweithio fel golygydd, gohebydd ac angor ar gyfer Südwestfunk (SWF) a Zweites Deutsches Fernsehen (ZDF), sef rhwydweithiau darlledu poblogaidd. Ar ôl cyfnodau ym Moscfa (1992 - 1996) a Brwsel (1996 - 1998), ymgartrefodd yn Cwlen ac yn gweithio fel awdur llawrydd. [4]

Yn ei nofel Emmas Glück ('Llawenydd Emma') o 2003, a gyfieithwyd i o leiaf naw iaith, ceir motiffau o ogledd Hessen. Hwn fu ei gwaith mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn (2019). Ceir arddull ffres, ffraeth ac ecsentrig gyda chydymdeimlad dwfn o drigolion nad ydynt yn ffitio'n berffaith o fewn y gymuned a'r wladwriaeth. Nid yw'r arddull yn annhebyg i arddull Heinrich Böll. Rhyddhawyd ffilm o'r llyfr hwn, dan gyfarwyddyd Sven Taddicken sy'n serennu Jördis Treibel a Jürgen Vogel yn yr Almaen yn 2006; ei theitl Saesneg yw Emma's Bliss.

Mae ei llyfr plant Sultan und Kotzbrocken ('Y Swltan a'r Cachgi'), a gyhoeddwyd gyntaf yn 2004, hyd yma (2019) wedi cael ei gyfieithu i bedair iaith. Fe'i cynhyrchwyd fel drama theatr yn theatr 'Theater Junge Generation' yn Dresden mewn addasiad gan Rüdiger Pape (cyfarwyddwr) a Jörg Hückler.

Gwaith[golygu | golygu cod]

hyd at 2019
  • Moskau ist anders (Moscow Is Different), llyfr ffeithiol a gyhoeddwyd dan yr enw Claudia Siebert, Claassen, 1994, ISBN 978-3-546-00088-8
  • Der Auslandskorrespondent (The Foreign Correspondent), nofel a gyhoeddwyd dan yr enw Claudia Siebert, Kiepenheuer & Witsch, Cologne, 1997, ISBN 978-3-462-02660-3
  • Emmas Glück (Emma’s Bliss), nofel, Reclam, Leipzig, 2003, ISBN 978-3-379-00805-1
  • Sultan und Kotzbrocken, llyfr plant, Hanser, Munich, 2004, ISBN 978-3-446-20435-5
  • Ihr ständiger Begleiter (Ei Chdymaith Parhaol), nofel, Piper, Munich/Zürich, 2007, ISBN 978-3-492-04973-3
  • Heimische Männerarten. Ein Bestimmungsbuch, Sanssouci/Hanser, Munich, 2009, ISBN 978-3-8363-0168-8
  • Oben Himmel unten Gras. Ein Kuhspiel in sechs Akten , Artemis&Winkler, Mannheim, 2010, ISBN 978-3-538-07289-3
  • Heimische Frauenarten. Ein Bestimmungsbuch , Sanssouci/Hanser, Munich 2010, 978-3-8363-0226-5
  • Süß wie Schattenmorellen, nofel, Kein & Aber, Zürich a Berlin, 2011, ISBN 978-3-0369-5600-8
  • Beipackzettel zum Mann. Hiwmor. Hanser Verlag 2012, ISBN 978-3-8363-0327-9

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddiaeth Pobl Ifanc Euregio (2006), Medienpreis Entwicklungspolitik (1989) .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb146251537. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb146251537. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Claudia Schreiber". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 1 Ebrill 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 1 Ebrill 2015