Cyflwynydd
Person neu gorff sy'n gyfrifol am redeg digwyddiad ydy cyflwynydd, neu gwestai. Gall amgueddfa neu brifysgol er engraifft, fod yn gyflwynydd neu'n westai i arddangosfa. Mae meistr seremonïau (Saesneg: master of ceremonies, MC, emcee neu westai) yn berson sy'n cyflwyno neu'n westai sioe.[1] Ym myd ffilmiau, y cyflwynydd yw'r cynhyrchydd gweithredol, a gaiff y credyd am gyflwyno ffilm i gynilleidfa ehangach.
Cynnwys |
Cyflwynydd teledu [golygu]
Person sy'n cyflwyno neu'n gwesteio rhaglen deledu ydy cyflwynydd teledu. Mae'n gyffredin i enwogion o nifer o faesi gyryd y rôl hwn erbyn heddiw, ond mae nifer o bobl sy'n gwneud bywoliaeth o gyflwyno yn unig, yn enwedig ym myd teledu plant.
Cyflwynydd radio [golygu]
Yn fras, mae cyflwynydd radio yn gwneud yr un swydd a cyflwynwyr teledu ond eu bod yn cyflwyno rhaglenni radio yn hytrach na theledu.
Cyflwynydd chwaraeon [golygu]
Math o newyddiadurwr ar y teledu neu/a'r radio ydy sylwebydd chwraeon (a adnabyddir hefyd fel cyflwynydd chwaraeon, cyhoeddwr chwaraeon neu darlledwr chwaraeon), sy'n arbennigo mewn adrodd neu sylwebu ar ddigwyddiadau chwaraeon, gwneir hyn yn aml yn fyw.