Celyn
Oddi ar Wicipedia
| Celyn | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Aquifoliales |
| Teulu: | Aquifoliaceae |
| Genws: | Ilex |
| Rhywogaeth: | I. aquifolium |
| Enw deuenwol | |
| Ilex aquifolium L. |
|
Coeden fythwyrdd gyda dail pigog ac aeron coch yw celyn.
Mae'r goeden fechan hon yn gysylltiedig â'r Nadolig; yn aml iawn, yr unig addurn a arferid ei gael mewn tŷ fyddai clwff (neu gangen) o gelyn. Enw arall arni ydy'r 'gelynen'. Ceir cân werin o'r un enw; dyma'r pennill cyntaf (sylwer ar y Gynghanedd Sain yn y drydedd linell):
- Fy mwyn gyfeillion dewch yn llu,
- Mae'n bryd i mi ganmol y glasbren;
- Pren canmolus, gweddus gwiw
- A'i henw yw 'y gelynen'.
Dolenni allanol [golygu]
- Y Gelynnen BBC Cymru
- Celyn Cyngor Gwynedd