Gŵyl Fair y Canhwyllau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yng Nghymru, mae Gŵyl Fair y Canhwyllau yn ŵyl ar 2 Chwefror. Dyma'r Imbolc Cymreig, a daeth yr enw o seremoni cyn-Ddiwygiad o fendithio canhwyllau, eu dosbarthu, a'u cario nhw mewn gorymdaith (Candlemass yw enw'r ŵyl yn Saesneg). Mae’r seremoni Gristionogol hon yn tarddu o wyliau Paganaidd gyda chysylltiadau â’r Gwanwyn, ac mae rhai o’r hen ymarferiadau (sef ymarferiadau Paganaidd) yn dal i barhau yn ardaloedd o Gymru hyd heddiw. Nid oes dim cysylltiad gyda’r ŵyl o’r Gwanwyn cynnar â Ffraid ('Gwenffrewi' neu 'Winifred'), ond mae cysylltiad â hi yn yr Alban ac yn Iwerddon, ac mae rhai yn galw'r ŵyl yn "Gŵyl Ffraid" hefyd, oherwydd personolir hi i fywyd newydd, ac mae Gŵyl Fair y Canhwyllau yn ŵyl o fywyd newydd.

Defodau[golygu]

  • Roedd yr enw o weithio dan olau canhwyllau yn amser gwylad, ac roedd yn amser i gadw gwyliadwriaeth. Roedd yn rhaid i’r bobl roi’r canhwyllau’n ôl ar yr ail o fis Chwefror pan gynyddwyd y golau ac roedd yna ddigon o olau i fwydo anifeiliaid fferm cyn y cyfnos.
  • Fel gyda mwyafrif y gwyliau yn ystod y flwyddyn Geltaidd, perfformiwyd darogan (Saesneg: divination) ar adeg Ŵyl Fair. Ar un adeg, roedd yn gyffredin i bobl gynnau dwy gannwyll, a’u gosod ar fwrdd neu ffwrwm uchel. Wedyn, bob yn ail, byddai pob aelod o un teulu yn eistedd ar gadair rhwng y canhwyllau ac yn yfed allan o ffiol neu ficer gyda chorn. Wedyn mi fyddent yn taflu’r llestr dros eu pennau a phe glaniai ar ei ben, byddai'r person a daflodd y llestr yn byw i gyrraedd glwth o oedran; pe glaniai ef ar ei waelod, bydd y person yn marw’n ifanc. Roedd y ddiod fel arfer yn gwrw, oherwydd bod ganddo gysylltiadau gyda Gŵyl Fair.

Gweler hefyd[golygu]

  • Canu Plygain - roedd canhwyllau'n rhan hanfodol o'r gwasanaeth hwn hefyd

Cyfeiriadau[golygu]

  • Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987
  • Marie Trevelyan. Folklore and Folk Stories of Wales. EP Publishing Ltd, Wakefield 1973
  • (Saesneg) fersiwn electronig, gan Hilaire Wood