Brithenig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yn ôl Ill Bethisad, siaredir Brithenig yn y rhanbarthau gwyrdd, Saesneg yn y rhanbarthau coch, a'r ieithoedd Goideleg yn y rhanbarthau oren.

Iaith artiffisial a grëwyd gan Andrew Smith o Seland Newydd yw Brithenig. Cafodd yr iaith ei chreu fel arbrawf i ddarganfod sut gallai iaith Romáwns fod wedi datblygu ym Mhrydain petai'r siaradwyr Lladin yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig wedi bod yn ddigonol i ddisodli'r siaradwyr Brythoneg. Yn ogystal â'r iaith, crëwyd llinell amser amgen, Ill Bethisad ("y Bydysawd"). Yn ôl hanes amgen Ill Bethisad mae'r newidiadau seiniol a ddigwyddodd tra ddatblygai Lladin i Frithenig yn Ynysoedd Prydain yn debyg i'r rhai a effeithiodd y Gymraeg tra ddatblygai o Frythoneg i Hen Gymraeg. Tardd nifer o eiriau yn yr iaith Romáwns hon o Frythoneg ac fe fenthycwyd nifer o eiriau o Saesneg yn ystod ei hanes.

Geirfa[golygu]

Mae'r rhan fwyaf o eirfa Brithenig yn tarddu o Ladin er bod y newidiadau seiniol wedi gwneud i'r geiriau ymddangos yn fwy Celtaidd. Yn y tabl canlynol, mae'r geiriau Brithenig wedi'u cymharu gyda naw iaith Romáwns arall gan gynnwys Wenedyk. Y rheswm dros y tebygrwydd rhwng Brithenig a Chymraeg yn rhai o'r geiriau yw'r tarddiad Indo-Ewropeaidd cyffredin, tra bod rhai fel "ysgol" yn fenthyciadau diweddarach i'r Gymraeg o'r Lladin.

Brithenig wedi'i chymharu â Romáwns a'r Gymraeg
Lladin Portiwgaleg Sbaeneg Ffrangeg Eidaleg Romaunsch Rwmaneg Wenedyk Brithenig Cymraeg
brachium braço brazo bras braccio bratsch braţ brocz breich braich
nĭger negro negro noir nero nair negru niegry nîr (du)
cīvĭtas cidade ciudad cité città citad oraş czytać ciwdad (dinas)
mŏrs morte muerte mort morte mort moarte mroć morth (marwolaeth)
canis cão perro chien cane chaun câine kań can (ci)
auris, aurĭcŭla orelha oreja oreille orecchio ureglia ureche urzykła origl (clust)
ovum ovo huevo œuf uovo ov ou ów ew wy
ŏcŭlus olho ojo œil occhio egl ochi okieł ogl (llygad)
pater pai padre père padre bab tată poterz padr (tad)
ignis, fŏcus fogo fuego feu fuoco fieu foc fok ffog (tân)
pĭscis peixe pez, pescado poisson pesce pesch peşte pieszcz pisc pysgod
pĕs pie pied piede pe picior piedź pedd (troed)
amīcus amigo amigo ami amico ami prieten omik efig (cyfaill)
vĭrĭdis verde verde vert verde verd verde wierdzi gwirdd gwyrdd
ĕquus, cabăllus cavalo caballo cheval cavallo chaval cal kawał cafall ceffyl
ĕgo eu yo je io jau eu jo eo (i)
īnsŭla ilha isla île isola insla ostrov izła ysl (ynys)
lĭngua língua lengua langue lingua linguatg, lieunga limbă lęgwa llinghedig, llingw (iaith)
vīta vida vida vie vita vita viaţă wita gwid (bywyd)
lac leite leche lait latte latg lapte łoc llaeth llaeth
nōmen nome nombre nom nome num nume numię nôn (enw)
nŏx noite noche nuit notte notg noapte noc noeth (nos)
vĕtus velho viejo vieux vecchio vegl vechi wiekły gwegl (hen)
schŏla escola escuela école scuola scola şcoală szkoła yscol ysgol
caelum céu cielo ciel cielo tschiel cer czał cel (wybr)
stēlla estrela estrella étoile stella staila stea ścioła ystuil (seren)
dēns, dĕntem dente diente dent dente dent dinte dzięć dent dant
vōx voz voz voix voce vusch glas wucz gwg (llais)
aqua água agua eau acqua aua apă jekwa ag (dŵr)
vĕntus vento viento vent vento vent vânt więt gwent gwynt

Testun enghreifftiol[golygu]

Dyma Weddi'r Arglwydd yn Frithenig:

Nustr Padr, ke sia i llo gel:
sia senghid tew nôn:
gwein tew rheon:
sia ffaeth tew wolont,
syrs lla der sig i llo gel.
Dun nustr pan diwrnal a nu h-eidd;
e pharddun llo nustr phechad a nu,
si nu pharddunan llo nustr phechadur.
E ngheidd rhen di nu in ill temp di drial,
mai llifr nu di'll mal.
Per ill rheon, ill cofaeth e lla leir es ill tew,
per segl e segl. Amen.

Dolenni allanol[golygu]