Iaith artiffisial
Oddi ar Wicipedia
Iaith artiffisial - a elwir yn conlang ar lafar neu'n anffurfiol - yw iaith gyda ffonoleg, gramadeg ac/neu geirfa sydd wedi'u creu gan unigolyn neu grŵp, yn hytrach na iaith sydd wedi esblygu'n naturiol. Mae yna nifer o resymau posib i greu iaith artiffisial: i esmwytho cyfathrebiad dynol; i ddod â byd ffuglennol i fywyd; am arbrofiad ieithyddol; am greadigaeth artistig; ac am gêmau iaith.