Románsh

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Romaunsch)
Neidio i: llywio, chwilio
Agweddau gweledol o'r iaith.

Mae Romaunsch yn iaith Raetiaidd yng nghangen Italaidd y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.

Siaradwyr[golygu]

Sieredir Romaunsch yn ardal yr Alpau Grison yn ne'r Swistir heddiw, ond ar un adeg roedd hi'n cael ei siarad hefyd yn ardal Llyn Constans yng ngogledd yr Eidal.

Dim ond rhyw 50,000 o siaradwyr Romaunsch a geir heddiw. Mae eu hiaith yn rhanedig gyda phump tafodiaith bur wahanol i'w gilydd, sef Sursilvan / Obwaldisch (yn rhannau uchaf Dyffryn Rhine), Sutsilvan / Nidwaldisch (yn Tungleasta, Mantogna a Schona), Surmiran / Oberhalbsteinisch (yn Sursés a Val d'Alvra), Oberengadinisch (yn Engadine Uchaf) ac Unterengadinisch (yn Engadine Isaf). Mae'r Almaeneg yn ail iaith i bob siaradwr Romaunsch.

Map o'r Swistir gan ddangos lleoliad y siaradwyr Románsh (llwydlas).

Llenyddiaeth[golygu]

Mae gan y Romaunsch draddodiad llenyddol digon anrhydeddus. Ar wahân i destun unigryw o'r 12fed ganrif, tyfodd llenyddiaeth bur sylweddol ers cyfnod y Diwygiad Protestannaidd, gyda'r testun printiedig cyntaf yn ymddangos yn y flwyddyn 1552. Yn 1938 enillodd Romaunsch statws swyddogol yn y Swistir fel pedwaredd iaith (yn ei thalaith).

Mae llyfrau'n cael eu hargraffu yn y tafodieithoedd hyn i gyd, ond yn bennaf yn Sursilvan. Dysgir Romaunsch yn ysgolion yr ardal ieithyddol Romaunsch. Nid yw'r ymdrechion i greu iaith lenyddol safonol gyffredin i bob un o'r tafodieithoedd hyn wedi cael llawer o lwyddiant hyd yn hyn.

Enghreifftiau o Romaunsch[golygu]

Y Bader[golygu]

Dyma'r Bader (Paternoster) yn nhafodiaith Sursilvan:

Bab nos, ti che eis en tschiel: sogns vegni fatgs tiu num.
Tiu reginavel vegni neutier. Tia veglia daventi sin tiara sco en tschiel.
Nies paun de mintga gi dai a nus oz.
E perduna a nus nos puccaus, sco era nus perdunein a nos culponts.
E meina nus bec en empruament, mo spendra nus dal mal. Pertgei tes ein il reinavel e la pussonza e la gliergia a semper.

Gweler hefyd[golygu]