Abel J. Jones

Oddi ar Wicipedia
Abel J. Jones
Ganwyd26 Mai 1878 Edit this on Wikidata
Rhymni Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1949 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Llenor, awdur, athro ac Arolygydd Ysgolion EM Cymreig [1] oedd Abel John Jones OBE (26 Mai 18788 Mai 1949).[2]

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Jones yn Rhymni, Bedwellte, Sir Fynwy. Cymraeg yn unig oedd ei rieni, David Rees Jones a Hannah Jones (g. Evans) a'i chwaer Annie a'i frodyr Rees a David Rees yn siarad Cymraeg a Saesneg (ac yn ddiweddarach Almaeneg) yn rhugl. Gadawodd yr ysgol yn wreiddiol yn bedair ar ddeg oed i weithio mewn siop: ar ôl pymtheng mis bu'n ddisgybl-athro am bum mlynedd.[3]

Di-wifr[golygu | golygu cod]

Bu'n ymwneud â thrawsyriant signal diwifr cyntaf Guglielmo Marconi dros ddŵr ar 13 Mai 1897 o Drwyn Larnog i Ynys Echni oddi ar arfordir Cymru ym Môr Hafren.

Gradd[golygu | golygu cod]

Astudiodd Abel yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1898-1901, a dyfarnwyd BSc.

Gyrfa addysgu[golygu | golygu cod]

Dysgodd wyddoniaeth a mathemateg a bu'n Uwch Feistr yn Ysgol Ganolraddol Sirol Arberth, Sir Benfro, o Chwefror 1904 i Orffennaf 1905 o dan y prifathro John Morgan MA.

PhD a Phrifysgol Caergrawnt[golygu | golygu cod]

O 1905 i 1906 astudiodd ym Mhrifysgol Jena yn yr Almaen o dan yr athronydd Rudolf Christoph Eucken a dyfarnwyd PhD iddo. O 1906 ymlaen roedd Abel yn Ysgolor yng Ngholeg Clare, Caergrawnt yn darllen ar gyfer Tripos y Gwyddorau Moesol (BA 1908, MA 1912).

Ar ôl gadael Caergrawnt, bu Abel yn dysgu mewn ysgolion elfennol ac uwchradd (gan gynnwys Ysgol Bootham, Efrog) a darlithio mewn Athroniaeth yng Ngholeg Clare cyn ei benodi'n ddarlithydd cynorthwyol yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol, Caerdydd.

OBE[golygu | golygu cod]

Ef oedd y person ieuengaf i'w benodi'n un o Arolygwyr Ysgolion Ei Fawrhydi yng Nghymru (1910–1938). Yn ystod y blynyddoedd 1914-1918, bu'n Ysgrifennydd Cynilion Rhyfel ym Morgannwg, ac yn ddiweddarach dyfarnwyd OBE iddo.

Llyfrau wedi eu cyhoeddi[golygu | golygu cod]

Yr oedd ganddo o leiaf naw llyfr wedi'u cyhoeddi, a'r cyntaf ohonynt yn ymwneud â Rudolf Euken (1912) (gw. uchod). Yn 1938 dyfeisiodd fersiwn llawer gwell o law-fer a fu'n boblogaidd iawn, "Abbrevia Shortwriting," ac yn 1939 ysgrifennodd gofiant i "John Morgan MA - A Man Elect of Men" (gweler hefyd uchod).

Ymddangosodd dau lyfr hunangofiannol yn 1943 a 1944; Cyhoeddwyd "I Was Privileged" a "From an Inspector's Bag" a dau lyfr arall gyda golwg fwy athronyddol arnynt yn 1944 a 1945 "In Search of Truth" ac "For a Human Advance".

Bu farw ym Mhorthcawl yn 1949.

Ymgyrchydd Cymreig[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gylch Dewi - cylch o lenorion ac academyddion gwladgarol ar sefydlwyd yn 1919 gyda'r bwriad o godi statws a defnydd o'r Gymraeg (a Chymreictod) ym myd addysg, cymdeithas a'r cyfryngau newydd fel y radio. Roedd yn un o rai Cylch Dewi bu'n gyfrifol am ddarlledu rhaglen The Welsh Hour gan gynnwys ysgrifennu at Saunders Lewis yn gofyn iddo roi cyflwyniad wyth munud ar Ddewi Sant.[4] Gellid cymryd bod Abel Jones hefyd tu cefn i ymosodiad gan y Bwrdd Addysg Cymreig tuag at darlledu uniaith a Seisnig y BBC yn 1927 gan nodi mewn llythyr, "wireless is achieving the complete anglicisation of the intellectual life of the nation. We regard the present policy of the British Broadcasting Corporation as one of the most serious menaces to the life of the Welsh language".[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Abel John Jones sitter portrait". National Portrait Gallery. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2023.
  2. "worldcat". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2020.
  3. Stead, Peter (1975). "Schools and Society in Glamorgan before 1914". Morgannwg (Glamorgan History Society) 19: 39–56. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1171843/article/000042446.
  4. 4.0 4.1 "Wrth ddathlu 100 mlynedd o ddarlledu, hanes newydd sbon am fudiad Cylch Dewi Jamie Medhurst yn darganfod dau focs o ddogfennau coll am fudiad Cylch Dewi". Rhaglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru. 5 Mawrth 2023.

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]