Ysgol Gynradd Rhydypenau

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gynradd Rhydypenau
Rhydypenau Primary School
Sefydlwyd 1936
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Carolyn A Evans
Lleoliad Fidlas Avenue, Cyncoed, Caerdydd, Cymru, CF14 0NX
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 441 (2005)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Gwefan http://www.rhydypenauprm.cardiff.sch.uk


Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Cyncoed, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Rhydypenau (Saesneg: Rhydypenau Primary School). Mae'n gwasanaethu plant 3–11 oed yn ardal Cyncoed.[2] Addysgir y plant meithrin a'r dosbarth derbyn yn yr adeilad gwreiddiol parhaol a adeiladwyd yn 1936 ar gyfer tua 160 o ddisgyblion. Mae gweddill y disgyblion yn cael eu addysgu mewn adeiladau dros-dro a adeiladwyd yn ystod yr 1940au a'r 1960au.[1]

Roedd 441 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol erbyn Tachwedd 2005, ac yn ychwanegol, 78 o blant meithrin yn mynychu yn rhan amser. Daeth 10% o'r disgyblion o gartrefi lle siaradwyd y Saesneg fel ail-iaith. Cafodd yr ysgol ei feirniadu'n hallt yn adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2006, am ddiffyg eu defnydd a dysgu o'r Gymraeg fel ail-iaith, ac am beidio creu digon o ymwybyddiaeth am Gymru a'i diwylliant.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Rhydypenau Primary School report, 7–10 November 2005. Estyn (9 Ionawr 2006).
  2. (Saesneg) Rhydypenau Primary School. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.