Yr Aes

Oddi ar Wicipedia
Yr Aes
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCastell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.479°N 3.175°W Edit this on Wikidata
Map
Pen gogleddol yr Aes, yn dangos Yr Hen Lyfrgell, gydag Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr ar y chwith a Neuadd Dewi Sant ar y dde
Pen deheuol yr Aes yn dangos rhan o ganolfan Dewi Sant, gwesty Radisson Blu, Alliance a'r Llyfrgell Ganolog

Ardal fasnachol yng nghanol Caerdydd yw Yr Aes (Saesneg: The Hayes). Mae ar yr heol o'r un enw sy'n arwain i'r de tuag at ochr ddwyreiniol canol y ddinas. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi ei neilltuo ar gyfer cerddwyr yn unig ac mae yna far byrbrydau awyr agored.

Yn hanesyddol, adeilad mwyaf mawreddog yr ardal yw Yr Hen Lyfrgell, adwaenid gynt fel Llyfrgell ac Amgueddfa Rydd Caerdydd. Roedd yna Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf ar y safle hefyd cyn symud yn 1890 i adeiladau newydd Coleg y Brifysgol yn Cathays. Defnyddiwyd yr adeilad am bron i ganrif (1882 i 1988) fel ail leoliad i lyfrgell ganolog y ddinas. Agorwyd pedwerydd adeilad parhaol Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn 2009 ar ben gwaelod yr Aes.

Mae dramau teledu'r BBC, Doctor Who a Torchwood wedi ffilmio golygfeydd yma yn aml.[angen ffynhonnell]

Pensaerniaeth[golygu | golygu cod]

Mae Caerdydd yn enwog am ei harcedau Fictoraidd. Mae'r rhain yn cynnwys arcêd y Royal a Morgan, sydd ill dau â mynediad o'r Aes.

Adnewyddiad[golygu | golygu cod]

Yn 2006, cychwynnodd arlwy siopa'r Aes ar gyfnod o adnewyddu. Roedd siop adrannol David Morgan yn cau a datblygwyd cynlluniau i adnewyddu ac addasu'r adeilad i floc o fflatiau moethus gydag unedau gwerthu isod. Erbyn 2012, roedd yr Aes yn dod yn gartref i rai o'r brandiau mwyaf ffasiynol, gan ddod yn ganolfan siopa moethusion y ddinas. Mae'r Aes yn cynnwys siopau mawr eu bri fel Fred Perry, Urban Outfitters, Moss Bros., White Stuff, House Of Fraser, TK Maxx, Molton Brown, Joules, Waterstones a Dr. Martens.

Yn 2009 fe gwblhawyd datblygiad Dewi Sant 2 gyda sawl siop fawr ar ei hyd, wedi ei angori gan y siop adrannol John Lewis a'r Llyfrgell Ganolog ar ben deheuol yr Aes. Darparodd canolfan Dewi Sant 2 res o unedau siopa yn rhedeg i lawr un ochr yr Aes ynghyd â bloc o fflatiau moethus uwch ei phen. Ar ôl misoedd o waith agorwyd Dewi Sant 2 yn hwyr yn 2009; fe ddiwygiwyd y stryd yn ei chyfanrwydd a gosodwyd palmentydd newydd. Gosodwyd sgrin deledu fawr ar ochr adeilad Neuadd Dewi Sant ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Erbyn 2012 roedd y stryd yn cynnwys siopau mawr fel Hugo Boss, All Saints, Reiss, H&M, Cath Kidston, Vans, Radley, Kurt Geiger, Crabtree & Evelyn, Jo Malone, Links of London, T.M. Lewin, Crew Clothing, Fat Face, Leia, L.K.Bennett & Parkhouse the Jewelers. Mae bwyty Jamie Oliver, 'Jamie's Italian' wedi ei leoli ar yr Aes ac agorwyd y bwyty Mecsicanaidd, Wahaca yn 2014, uned gyntaf y gadwyn y tu allan i Lundain.

Adeiladau[golygu | golygu cod]

Yr Hen Lyfrgell
Hen Siop Recordiau Spillers
Arcêd Morgan

Ar ben deheuol yr Aes mae canolfan siopa Dewi Sant 2, un o'r canolfannau siopa mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Yn wynebu'r ganolfan, mae hen siop adrannol David Morgan, sydd nawr yn gymysgedd o fflatiau ac unedau siopa. Roedd siop Spillers Records, sy'n honni bod yn siop recordiau hynaf y byd, wedi ei lleoli yma hyd 2010 pan symudodd i Arcêd Morgan gerllaw oherwydd cynnydd yn y rhent.

Ar ben gogleddol yr ardal, yn ogystal â John Lewis a Debenhams yng nghanolfan Dewi Sant, mae siop adrannol Howells sy'n rhan o grŵp House of Fraser. Gyferbyn â Howells mae Neuadd Dewi Sant, neuadd gyngerdd fawr a chanolfan arddangos. Yn yr un ardal mae'r Hen Lyfrgell, a fu'n dafarn, amgueddfa a chanolfan i ymwelwyr ond ers 2016 mae'n ganolfan gymunedol Gymraeg.

Wedi ei leoli yng nghanol Yr Aes, mae cerflun o John Batchelor, gwleidydd Rhyddfrydol o'r 19g.

Llyfrgell Ganolog Caerdydd[golygu | golygu cod]

Agorwyd y Llyfrgell Ganolog newydd ar 14 Mawrth 2009.[1] Roedd y Llyfrgell Ganolog flaenorol wedi ei lleoli ryw ychydig gannoedd o fetrau i'r gogledd o'r adeilad presennol a fe'i dymchwelwyd i wneud lle ar gyfer datblygiad Dewi Sant 2. Mae gan y llyfrgell newydd chwe llawr gydag arwynebedd o 55,000 tr² a 90,000 o lyfrau.

Neuadd Dewi Sant[golygu | golygu cod]

Neuadd berfformio gelfyddydol fawr a chanolfan gynadleddau yw Neuadd Dewi Sant, yn dwyn y teitlau Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru. Mae'n cynnal y Proms Cymreig blynyddol, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol sy'n denu unawdwyr ac arweinwyr blaenllaw’r byd, a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd. Yn ogystal â cherddoriaeth glasurol mae'n cynnal adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, canu gwerin, jazz, rhythm a’r felan, comedi, sioeau plant, sioeau cerdd, cerddoriaeth byd ac adloniant ysgafn. Mae cynteddau'r ganolfan ar agor i bawb a chynhelir perfformiadau am ddim yn rheolaidd, yn aml gan grwpiau lleol, ac mae'r cynteddau a barrau lolfa yn cael eu defnyddio i gynnal arddangosfeydd celf. Mae ganddi fwyty'r Enwogion ynghyd â sawl bar.

Alliance[golygu | golygu cod]

Cerflun 25m (82 tr) o daldra yw 'Alliance' a ddyluniwyd gan yr artist Jean Bernard Métais. Mae wedi ei wneud allan o gylch mawr o ddur gloyw a saeth fetel sydd wedi ei goleuo yn y tywyllwch ac yn esgyn a disgyn gyda llanw a thrai Môr Hafren.

Talwyd am y cerflun gan ganolfan siopa Dewi Sant fel rhan o gynllun celf gyhoeddus gwerth £1.5m yng nghanol y ddinas, a fe'i gosodwyd yn y gofod rhwng y ganolfan newydd a Llyfrgell Ganolog Caerdydd.[2]

Ardal Gaffis[golygu | golygu cod]

Mae ardal sy'n cael ei adnabod yn Saesneg fel y Café Quarter ar Lôn y Felin, sy'n cynnwys amrywiaeth o fwytai, barrau a mannau adloniant. Mae'r ardal yn cael ei hyrwyddo fel un o ardaloedd caffis gorau'r byd.[3]

Strydoedd cyfagos[golygu | golygu cod]

Y strydoedd sy'n cyffinio'r ardal yw:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "First look at new 'green' library". BBC. 7 March 2009. Cyrchwyd 2009-09-18.
  2. Bolter, Abby (2009-12-03). "Arrow art aimed at the heart of Cardiff's history and culture". Wales Online. Cyrchwyd 2014-05-14.
  3. "Account Suspended". Thecardiffcafequarter.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-27. Cyrchwyd 2014-05-14.