Marchnad Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Marchnad Caerdydd
Mathneuadd marchnad, marchnad fwyd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4801°N 3.1787°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Mynediad Heol y Drindod i Farchnad Caerdydd

Marchnad Fictoraidd dan do yw Marchnad Caerdydd neu Marchnad Ganolog Caerdydd, yn Ardal y Castell yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Tu Fewn Marchnad Caerdydd o'r llawr cyntaf

Mae'r farchnad ar safle gwreiddiol carchar Caerdydd ac roedd y grocbren wedi ei leoli wrth fynediad Heol Eglwys Fair lle grogwyd Dic Penderyn ar 13 Awst 1831.

Fe ddyluniwyd y farchnad gan Arolygwr y Fwrdeistref, William Harpur, a fe'i hagorwyd yn Mai 1891.[1] Roedd marchnad ffarmwr wedi bodoli ar y safle ers yr 18g.

Mynediad Heol Eglwys Fair i Farchnad Caerdydd

Mae dau lawr o siopau yn y farchnad, llawr gwaelod a lefel balconi sy'n amgylchynu'r waliau mewnol. Mae mynediadau i'r farchnad ar Heol Eglwys Fair, Heol y Drindod a lôn oddi ar Heol yr Eglwys.

Mae cloc mawr H. Samuel wedi hongian uwchben mynediad Heol Fawr ers 1910. Mae'r cloc presennol yn dyddio o 1963 (gan Smith of Derby) a fe'i hadferwyd ar gost o £25,000 yn 2011.[2][3]

Ers 1975 mae'r adeilad wedi ei rhestru ac yn Radd II* ar hyn o bryd.[4]

Stondinwyr[golygu | golygu cod]

Mae masnachwyr yn y farchnad yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch ffres, bwyd wedi ei goginio, danteithion amrywiol a rhai nwyddau parhaol.

Masnachwr nodedig iawn yw Ashton y gwerthwr pysgod, sy'n honni eu bod wedi masnachu yn y farchnad ers 1866,[5] sydd wedi eu lleoli wrth fynediad Heol y Drindod ac yn gwerthu amrywiaeth eang o fwyd môr ffres. Fe roedden nhw yn y newyddion yn 2012 pan wnaethon nhw werthu cig o lwynog môr (thresher shark) 20 troedfedd a 550 pwys.[6]

Masnachwr arall ers tro yw'r Market Deli, busnes bach teuluol sy'n masnachu ers dros 100 mlynedd, ar yr un stondin ers 1928.[7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Rhestr o arcedau siopa yng Nghaerdydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cardiff: the building of a capital". Glamorgan Record Office. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-23. Cyrchwyd 2008-09-17.
  2. "Cardiff landmark clock in St Mary Street to be restored". BBC News. 20 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 2013-03-26.
  3. http://www.geograph.org.uk/photo/3368
  4. Cardiff Central Market, Castle, BritishListedBuildings.co.uk. Adalwyd 18 Mawrth 2013.
  5. "1900's". History. Cardiff Market website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-18. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.
  6. "Thresher shark sale defended by Cardiff fishmonger". BBC News. 27 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.
  7. "The History Of The Market Deli". Market Deli website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 25 Mawrth 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: