Heol Eglwys Fair/Heol Fawr
Mae Heol Eglwys Fair (Saesneg: St Mary Street) a Heol Fawr (Saesneg: High Street) yn un o brif strydoedd masnachol yn Ardal y Castell yng nghanol Caerdydd, sy'n arwain o'r gogledd i'r de drwy ganol y ddinas. Mae Heol Fawr yn dechrau ar gyffordd Stryd y Castell ar yr A4161 ac yn gorffen ar gyffordd Stryd yr Eglwys a Stryd y Cei, lle mae Heol Eglwys Fair yn cychwyn cyn dirwyn i ben ar y gylchfan yn Sgwâr Callaghan ar yr A4160.
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Enwyd Heol Eglwys Fair ar ôl Eglwys y Santes Fair o'r 11g, a oedd yr eglwys fwyaf yng Nghaerdydd nes iddo gael ei ddinistrio gan lifogydd Môr Hafren yn 1607.
Heddiw mae'r stryd yn gartref i sawl bar, clwb nos a thŷ bwyta ynghyd a changhennau sawl prif fanc. Hefyd yn wynebu'r stryd mae siop adrannol Howells, sy'n estyn o ychydig heibio Marchnad Caerdydd i gornel Heol Wharton.
Ers Awst 2007 mae'r stryd wedi bod ar gau i gerbydau preifat a dim ond bysus a thacsis sy'n cael mynediad llawn i'r stryd gyfan. Fel arfer mae'r stryd ar gau yn gyfan gwbl i draffig ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, i ganiatáu'r llif o bobl o'r clybiau nos a'r tafarndai sydd yn y stryd i glirio. Mae'r Prince of Wales (tafarn J D Wetherspoon) yn broblem benodol, oherwydd y nifer uchel o bobl sy'n gallu mynd i'r dafarn a blaen yr adeilad ar Stryd Wood (sydd ar agor i drafnidiaeth). Ar ben gogleddol y stryd mae Stryd y Castell, lle mae Castell Caerdydd. I'r de mae Gorsaf Caerdydd Canolog.
Adeiladau nodedig o'r gorffennol a'r presennol[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladau presennol[golygu | golygu cod y dudalen]
- House of Fraser, siop adrannol Howells cyn hynny
- Marchnad Caerdydd
- Tŷ Hodge
- Theatr Tywysog Cymru (nawr yn dafarn)
- Arcêd Heol Fawr
- Arcêd Morgan
- Arcêd y Frenhines
Adeiladau wedi eu dymchwel[golygu | golygu cod y dudalen]
- Neuadd y Dref Caerdydd[1]
- Carchar Caerdydd, nawr yn safle Marchnad Caerdydd
- Siop adrannol David Morgan
- Llyfrgell Rhydd Caerdydd, ger mynedfa Heol Eglwys Fair i Arcêd y Frenhines
- Adeilad yr YMCA
Adeiladau y gorffennol a'r presennol | |||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "The Town Hall, St. Mary Street, Cardiff, late 19th century". Culturenet Cymru. Cyrchwyd 2009-02-11.