Bar (sefydliad)

Oddi ar Wicipedia
Bar
Mathalcohol drinking establishment, food establishment Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bar yn y Swistir.

Sefydliad sy'n gwerthu diodydd, yn benodol diodydd alcoholig ydy bar (ac fe'u gelwir weithiau'n dafarn, salŵn, gardd gwrw neu ystafell tap). Gan amlaf, gwerthant ddiodydd alcoholig megis cwrw, gwirodydd a choctels i'w hyfed ar safle'r sefydliad.[1]

Mae bariau'n darparu stolion neu gadeiriau ar gyfer eu cwsmeriaid ynghyd â byrddau neu chownteri uchel. Mae gan rhai bariau adloniant ar lwyfan, fel band byw, digrifwyr, dawnswyr go-go, sioe llawr neu stripwyr. Weithiau gelwir bariau sy'n rhan o westai yn fariau hirion neu lolfa'r gwesty.

Tarddia'r term "bar" o'r cownter arbenigol lle gweinir y diodydd ac mae'n gydgymeriad a ddefnyddir ar gyfer y sefydliad yfed yn ei chyfanrwydd. Mae'r "bar cefn" neu'r "nenbont" yn gyfres o silffoedd lle cedwir gwydrau a photeli tu ôl y cownter hwnnw. Mewn rhai bariau, addurnir y nenbont gyda gwaith pren, gwydr addurnedig, drychau a goleuadau. Pan fo bwyd yn cael ei weini mewn sefydliad, gellir ei archebu a'i fwyta wrth y bar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]