Neidio i'r cynnwys

Gorsaf fysiau Caerdydd Canolog

Oddi ar Wicipedia
Am yr orsaf fysiau newydd ers 2024, gweler Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd

Cyfnewidfa cludiant bws yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, oedd gorsaf fysiau Caerdydd Canolog.

Agorwyd hi ar y hen safle Temperance Town, rhwng yr orsaf reilffordd a Stryd Wood, yn 1954.

Gyda 34 o stondinau, dyma oedd yr orsaf fysiau mwyaf y ddinas a Chymru tan 1 Awst 2015.[1] Ar ôl 2015, cafodd yr ardal (Sgwâr Canolog) ei hailddatblygu, gyda phencadlys newydd i'r BBC a nifer o swyddfeydd eraill.

Lleoliwyd gerllaw gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog gan ffurfio prif gyfnewidfa bws, rheilffordd, beiciau a thacsis.

Prynodd Llywodraeth Cymru y tir drws nesa i'r hen safle a disgwylwyd yr olynydd yn cael ei gwblhau erbyn 2022.[2] Agorodd y Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd newydd o’r diwedd ar 30 Mehefin 2024.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Cau gorsaf bws Caerdydd cyn ail-ddatblygu. BBC Cymry Fyw (1 Awst 2015). Adalwyd ar 24 Tachwedd 2020.
  2.  Lleu, Bleddyn (18 Medi 2020). Gorsaf fysiau Caerdydd ddim yn barod tan ddiwedd 2022. Golwg360. Adalwyd ar 24 Tachwedd 2020.
  3.  Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau. BBC Cymry Fyw (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am fws, gorsaf fysiau, neu gwmni bysiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.