Ymgyrch Moshtarak

Oddi ar Wicipedia
Ymgyrch Moshtarak
Rhan o Ryfel Affganistan (2001–21)

Môr-filwyr Americanaidd y tu allan i Marjah.
Dyddiad 13 Chwefror 2010 – 7 Rhagfyr 2010
Lleoliad Marjah a gweddill talaith Helmand yn Affganistan
Cydryfelwyr
Clymblaid
Baner Affganistan Affganistan
ISAF:[1][2]
Gwrthryfelwyr
Baner y Taleban Gwrthryfelwyr y Taleban
Arweinwyr
Y Deyrnas Unedig James Cowan
Y Deyrnas Unedig Nick Parker
Unol Daleithiau America Stanley McChrystal
Unol Daleithiau America Lawrence Nicholson
Qari Fazluddin
Abdullah Nasrat
Mullah Mohammad Basir
Nerth
15,000+ o luoedd clymbleidiol[3]
  • Unol Daleithiau America 9,000
  • Y Deyrnas Unedig 4,000
  • Affganistan 2,500
2,000 (yn ôl y Taleban)
neu
400–1,000 (amcangyfrif UDA)
Anafusion a cholledion
Unol Daleithiau America 45 yn farw

Affganistan 15+ yn farw
Y Deyrnas Unedig 13 yn farw

Cannoedd wedi eu lladd
56 wedi'u cipio
[[File:Nodyn:Location map Affganistan|240px|Marjah is located in Nodyn:Location map Affganistan]]
<div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; left: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;"><div style="position: relative; text-align: center; left: -Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".px; top: -Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".px; width: Nodyn:Location map Affganistanpx; font-size: Nodyn:Location map Affganistanpx;">
<div style="font-size: 90%; line-height: 110%; position: relative; top: -1.5em; width: 6em; Gweithredydd < annisgwyl">Marjah

Ymgyrch ymosodol gan y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) yn nhalaith Helmand yn ne Affganistan oedd Ymgyrch Moshtarak (Dari am Ynghyd)[3] a barodd o Chwefror i Ragfyr 2010 yn ystod Rhyfel Affganistan (2001–21). Hon oedd y gyd-ymgyrch fwyaf i'w lansio ers goresgyniad y wlad yn 2001, a'i nod oedd i fwrw'r Taleban allan o dref Marjah, eu cadarnle olaf yng nghanolbarth Helmand. Roedd yn cynnwys 15,000 o luoedd ISAF o wledydd Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Canada, Denmarc, ac Estonia, ar y cyd â milwyr Affganaidd, yn brwydro'n erbyn gwrthryfelwyr y Taleban a therfysgwyr al-Qaeda. Ceisiwyd hefyd gyrru'r masnachwyr opiwm, a fuont yn rheoli Marjah ers blynyddoedd, ar ffo er mwyn galluogi adlunio'r ardal gyda chydweithrediad yr awdurdodau Affganaidd lleol.

Arweiniwyd prif wthiad yr ymgyrch gan Gorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau.[3] Er i'r ymgyrch brofi'n llwyddiannus ar y cychwyn, methiant a fu'r ymdrech gan ISAF a'r Affganiaid i sefydlu llywodraeth leol, gan ysgogi'r Taleban i ddychwelyd. Wedi 90 niwrnod o frwydro, disgrifiodd y Cadfridog Stanley McChrystal, Cadlywydd ISAF a'r Lluoedd Americanaidd yn Affganistan, yr ymgyrch yn "wlser gwaedlyd". Daeth yr ymladd i ben yn y gaeaf, a chyhoeddwyd yn ffurfiol bod yr ymgyrch wedi terfynu ar 7 Rhagfyr 2010.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Operation Moshtarak. ISAF (11 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  2. (Saesneg) Helicopter armada heralds Afghan surge. The Daily Telegraph (13 Chwefror 2010).
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Operation Moshtarak: Assault in Helmand province. BBC (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.