Yasuhiro Nakasone

Oddi ar Wicipedia
Yasuhiro Nakasone
Y Prif Weinidog Yasuhiro Nakasone.
LlaisYasuhiro Nakasone voice.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Mai 1918 Edit this on Wikidata
Takasaki Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2019 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
Man preswylHinode Sansō Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i Raddedigion Prifysgol Tokyo
  • Shizuoka Higher School
  • Gunma Prefecture Takasaki High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Home Ministry Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ22130093 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd, Democratic Party Edit this on Wikidata
TadMatsugorō Nakasone Edit this on Wikidata
PriodTsutako Nakasone Edit this on Wikidata
PlantHirofumi Nakasone Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Junior First Rank, Urdd Sikatuna, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Financial Times Person of the Year Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Japaneaidd oedd Yasuhiro Nakasone (27 Mai 191829 Tachwedd 2019) a fu'n Brif Weinidog Japan o 1982 i 1987 ac yn arweinydd y Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō) o 1982 i 1989.

Ganed yn Takasaki yn nhalaith Gunma, Ymerodraeth Japan, yn fab i fasnachwr cefnog yn y diwydiant coed. Aeth i ysgolion yn Takasaki a Shizuoka cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Imperialaidd Tokyo, a graddiodd oddi yno ym 1941. Ymunodd â'r Weinyddiaeth Gartref ym 1941 a fe'i benodwyd yn is-lefftenant yn ysgol tâl-feistr y Llynges Imperialaidd. Gwasanaethodd yn lefftenant yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a brwydrodd yn y Philipinau, Borneo, a Taiwan.[1]

Ym 1947 etholwyd Nakasone i Dŷ'r Cynrychiolwyr, is siambr y Diet, yn 28 oed. Gwasanaethodd yn weinidog cludiant o 1967 i 1968, yn weinidog amddiffyn o 1970 i 1971, ac yn weinidog dros fasnach ryngwladol a diwydiant o 1972 i 1974.

Yn sgil ymddiswyddo'r Prif Weinidog Zenkō Suzuki yn Hydref 1982, enillodd Nakasone y gystadleuaeth i'w olynu yn llywydd Jimintō ac felly'n bennaeth ar y llywodraeth. Etholwyd Nakasone yn ffurfiol yn brif weinidog gan y Diet ar 27 Tachwedd 1982. Collodd Jimintō ei mwyafrif seneddol yn sgil etholiad Rhagfyr 1983, ond ffurfiwyd llywodraeth glymblaid dan arweiniad Nakasone. O ran polisi tramor, cryfhawyd cysylltiadau rhwng Japan ac Unol Daleithiau America, er enghraifft drwy ddiddymu rhwystrau masnachol i nwyddau Americanaidd yn Japan. Ymdrechodd Nakasone gynyddu gwariant ar y lluoedd amddiffyn, gan beri dadl wleidyddol fawr yn Japan, a cheisiodd leihau'r ddyled wladol drwy bolisïau llymder economaidd. Ailddatganwyd Nakasone yn llywydd Jimintō yn Hydref 1984, gan sicrhau iddo felly ail dymor yn swydd y prif weinidog. Tyfodd economi Japan gymaint yn ystod ei lywodraeth fel bo Japan yn ail economi fwyaf y byd ac yn brif wlad echwynnol y byd, ac yn cystadlu o ddifrif ag economi'r Unol Daleithiau.

Er na chollodd Jimintō rym, gorfodwyd i Nakasone ildio'r brifweinidogaeth, a fe ddewisodd Noboru Takeshita i'w olynu yn Nhachwedd 1987. Ffurfiodd Sefydliad Heddwch Nakasone ym 1988. Parhaodd Nakasone yn arweinydd Jimintō hyd at Fai 1989, pryd gorfodwyd iddo ymddiswyddo o'r blaid yn sgil sgandal am fasnachu mewnol a nawddogaeth yn y cwmni Rikurūto. Ailymunodd Nakasone â Jimintō yn Ebrill 1991, a gwasanaethodd yn y Diet hyd at 2003. Bu farw yn 2019 yn Tokyo yn 101 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]