Junichirō Koizumi

Oddi ar Wicipedia
Junichirō Koizumi
Y Prif Weinidog Junichirō Koizumi yn 2001.
Ganwyd8 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Yokosuka Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Keio
  • Coleg Prifysgol Llundain
  • Kanagawa Prefectural Yokosuka High School
  • Yokosuka City Umahori Junior High School
  • Yokosuka City Yamazaki Elementary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, economegydd Edit this on Wikidata
SwyddMinister for Foreign Affairs, Minister of Health and Welfare of Japan, Prif Weinidog Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, President of the Liberal Democratic Party, Minister of Agriculture, Forestry and Fisheries, Minister of Posts and Telecommunications, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJun'ya Koizumi Edit this on Wikidata
MamYoshie Koizumi Edit this on Wikidata
PlantKotaro Koizumi, Shinjirō Koizumi Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sikatuna Edit this on Wikidata

Gwleidydd Japaneaidd yw Junichirō Koizumi (ganed 8 Ionawr 1942) a fu'n Brif Weinidog Japan o 2001 i 2006.

Ganed yn Yokosuka, Talaith Kanagawa, Ymerodraeth Japan. Gwasanaethodd ei dad, Junya Samejima (a gymerai enw teulu ei wraig, Yoshi Koizumi), yn aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr (is siambr y Diet) ac yn gyfarwyddwr cyffredinol Asiantaeth Amddiffyn Japan.[1] Astudiodd Junichirō economeg ym Mhrifysgol Keio, Tokyo, ac wedi iddo dderbyn ei radd ym 1967 aeth i Ysgol Economeg Llundain. Yn sgil marwolaeth ei dad ym 1969, ymgyrchodd Junichirō i'w olynu yn ei sedd seneddol, ond ni enillodd yr etholiad. Ymgeisiodd eto am y sedd ym 1972, gan ennill.[2] Priododd Junichirō Koizumi â Kayoko Miyamoto ym 1978, a chawsant dri mab (Kotaro Koizumi, Shinjiro Koizumi, ac Yoshinaga Miyamoto) cyn iddynt ysgaru ym 1982.[1]

Gwasanaethodd Koizumi yn weinidog iechyd a lles o 1988 i 1989 ac o 1996 i 1998, ac yn weinidog y post a thelegyfathrebu o 1992 i 1993. Ymgyrchodd, heb ennill, am lywyddiaeth y Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō) ym 1995 ac ym 1998. Yn sgil ymddiswyddo Yoshirō Mori yn Ebrill 2001, ymgyrchodd Koizumi unwaith eto i arwain y blaid, gan ennill yr etholiad – y tro cyntaf i aelodau lleol Jimintō yn ogystal ag aelodau seneddol y blaid dewis eu harweinydd – a chael ei benodi'n brif weinidog ar 26 Ebrill 2001.

Mewn materion economaidd a diplomyddol, dilynodd y Prif Weinidog Koizumi bolisïau ceidwadol. Rhodd gefnogaeth gryf i Unol Daleithiau America yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, gan gynnwys anfon lluoedd Japaneaidd i Ryfel Irac, ac ymwelodd yn flynyddol i Gysegrfa Yasukuni er gwaethaf protestiadau gan Tsieina, Gogledd Corea, a De Corea. Bu'n brif weinidog poblogaidd, ac enillodd Jimintō yr etholiad cyffredinol yn Nhachwedd 2003. Wynebodd Koizumi wrthwynebiad i'w fwriad i breifateiddio system bost Japan, a gwrthodwyd y cynllun hwnnw gan Dŷ'r Cynghorwyr (uwch siambr y Diet) yn 2005. Diarddelodd Koizumi ei wrthwynebwyr o'i blaid a galwodd etholiad cyffredinol i dorri'r ddadl. Er gwaethaf buddugoliaeth ysgubol Jimintō yn yr etholiad ym Medi 2005, bu'n rhaid i Koizumi ymddiswyddo oherwydd rheolau'r blaid yn cyfyngu ar gyfnodau yn y swydd, ac ar 26 Medi 2006 fe'i olynwyd yn llywydd y Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol ac yn Brif Weinidog Japan gan Shinzō Abe.

Yn 2008 datganodd Koizumi y byddai'n ymddeol o fyd gwleidyddiaeth wedi i'w dymor yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr derfynu. Yn 2009, etholwyd ei fab Shinjiro Koizumi i'w olynu yn y sedd. Ers trychineb Atomfa Fukushima yn 2011 mae Junichirō Koizumi wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn ynni niwclear.[2] Mae Koizumi yn hoff iawn o'r canwr Elvis Presley, ac yn 2001 rhyddhawyd cryno-ddisg yn Japan gyda 25 o ganeuon Elvis a ddewiswyd gan Koizumi er mwyn codi arian am elusennau.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Junichiro Koizumi Fast Facts", CNN (22 Rhagfyr 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Mehefin 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Koizumi Junichiro. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Mehefin 2021.
  3. (Saesneg) "Koizumi's all-time Elvis favorites", CNN (16 Awst 2001). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Mehefin 2021.