Y Llyn yn y Mynydd
| Enghraifft o: | drama deledu |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1965 |
| Awdur | Idwal Jones |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | BBC Cymru |
| Math | drama deledu |
| Dyddiad y perff. 1af | 21 Ionawr 1965 |
| Cyfarwyddwr/wyr | George P Owen |
| Cynhyrchydd/wyr | Wilbert Lloyd Roberts |
| Cwmni cynhyrchu | BBC Cymru |
| Dynodwyr | |
Dilyniant i'r gyfres ddrama deledu Gymraeg Mostyn a'r Cryman Bach yw Y Llyn yn y Mynydd. Cynhyrchwyd 8 bennod arall gan Idwal Jones a ddarlledwyd ar BBC Cymru ym 1965.
Charles Williams oedd yn portreadu'r cyfreithiwr o dditectif 'Mostyn', oedd yn ddigon cyfoethog i dreulio rhan fwyaf o'i amser yn hamddena drwy bysgota, chwarae chess, darllen a chyfansoddi dramâu ar gyfer y cwmni drama lleol.
Lleolwyd y gyfres mewn pentref dychmygol o'r enw 'Aberafon'.
Roedd Gaynor Morgan Rees yn portreadu 'Bethan', ysgrifenyddes 'Mostyn' a Lisabeth Miles fel 'Gwenda', artist o Lundain sy'n rhannu fflat gyda 'Bethan'.
Darlledwyd y bennod gyntaf ar y 21 Ionawr 1965.[1]
Cyfresi Cymraeg cynnar 8 neu 12 pennod BBC Cymru fel hon, a Mostyn a'r Cryman Bach osododd y seiliau ar gyfer creu y gyfres ddrama hirach yn y Gymraeg, sef Pobol y Cwm.[2]
Cast
[golygu | golygu cod]- Mostyn - Charles Williams
- Bethan - Gaynor Morgan Rees
- Gwenda - Lisabeth Miles
- Len Roberts
- Beryl Stafford Williams
- Dic Hughes
- Oswald Griffiths
- Haydn Jones
- Catherine Pierce Jones.
- Jane Roberts
- Islwyn Morris
- Glyn Williams
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.
- ↑ "1974". Wici Pobol y Cwm. Cyrchwyd 2024-10-06.