Neidio i'r cynnwys

Mostyn a'r Cryman Bach

Oddi ar Wicipedia


Mostyn a'r Cryman Bach
Enghraifft o'r canlynoldrama deledu
Dyddiad cynharaf1964
AwdurIdwal Jones
IaithCymraeg
Cysylltir gydaBBC Cymru
Mathdrama deledu
Dyddiad y perff. 1af10 Tachwedd 1964
Cynhyrchydd/wyrWilbert Lloyd Roberts
Cwmni cynhyrchuBBC Cymru

Cyfres ddrama deledu Gymraeg mewn 8 pennod gan Idwal Jones ydi Mostyn a'r Cryman Bach a ddarlledwyd ar BBC Cymru ym 1964. Dyma'r gyfres deledu gyntaf yn y Gymraeg i gyflwyno ditectif fel y prif gymeriad. Charles Williams oedd yn portreadu'r cyfreithiwr 'Mostyn', oedd yn ddigon cyfoethog i dreulio rhan fwyaf o'i amser yn hamddena drwy bysgota, chwarae chess, darllen a chyfansoddi dramâu ar gyfer y cwmni drama lleol. Mae ei ddrama ddiweddaraf yn ymwneud â llythyrau gwenwynig [poisoned pen letters] ac wedi cychwyn ymarfer, mae digwyddiadau'r ddrama yn dod yn wir yn y pentref. [1]

Lleolwyd y gyfres mewn pentref dychmygol o'r enw 'Aberafon'.

Roedd Gaynor Morgan Rees yn portreadu 'Bethan', ysgrifenyddes 'Mostyn' a Lisabeth Miles fel 'Gwenda', artist o Lundain sy'n rhannu fflat gyda 'Bethan'.

Darlledwyd y bennod gyntaf ar y 10 Dachwedd 1964.[1]

Cyfresi Cymraeg cynnar 8 neu 12 pennod BBC Cymru fel hon, a'i dilyniant Y Llyn yn y Mynydd, osododd y seiliau ar gyfer creu y gyfres ddrama hirach yn y Gymraeg, sef Pobol y Cwm.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.
  2. "1974". Wici Pobol y Cwm. Cyrchwyd 2024-10-06.