Islwyn Morris

Oddi ar Wicipedia
Islwyn Morris
Ganwyd26 Awst 1920 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor o Gymro oedd Islwyn Morris (26 Awst 192026 Ebrill 2011) oedd yn adnabyddus am chwarae cymeriad Mr Tushingham ar Bobol y Cwm am 25 mlynedd.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Islwyn Morris yn Abertawe yn 1920. Cychwynnodd ei yrfa actio mewn theatr cwmni yn Abertawe, gan ymddangos gyda Maudie Edwards, ymysg eraill.[1]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wasanaethodd gyda Cyffinwyr De Cymru.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae ei rannau mwya nodedig ar deledu yn cynnwys Dad yn Satellite City (1995-1999), David Tushingham yn Pobol y Cwm, a Inspector Idris Vaughan yng nghomedi sefyllfa y 1970au Glas y Dorlan. Fe ymddangosodd yn helaeth ar raglenni Saesneg hefyd yn cynnwys Z-Cars, The District Nurse a High Hopes. Mae ei rannau ar radio yn cynnwys yr opera sebon Station Road ar BBC Radio Wales, a Mr Pritchard yng nghynhyrchiad y BBC o Under Milk Wood yn 2003.

Bu farw yn 90 oed ar 26 Ebrill 2011. Fe'i ddisgrifwyd gan gyfarwyddwr BBC Cymru Keith Jones fel "un o'n actorion mwyaf poblogaidd ni yng Nghymru".[3]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Radio[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Swansea Grand Theatre. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2015.
  2. (Saesneg) Satellite City Cast. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2015.
  3. Teyrngedau i'r actor Islwyn Morris , BBC Cymru, 26 Ebrill 2011. Cyrchwyd ar 16 Rhagfyr 2015.