Idwal Jones (1910-1985)

Oddi ar Wicipedia
Idwal Jones
Ganwyd1 Awst 1910 Edit this on Wikidata
Tal-y-sarn Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mai 1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpregethwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Idwal Jones (1 Awst 191031 Mai 1985) yn bregethwr, dramodydd, awdur a darlledwr Cymraeg. Fe'i ganwyd yn Nhalysarn, Arfon Gwynedd. Mae'n enwog yn bennaf am ei bregethu nodweddiadol, a'i ddramâu radio a nofelau yng nghyfres "SOS Galw Gari Tryfan".

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Dafydd a Mary Jones, Brynteg, Cavour Street, Talysarn. Addysgwyd yn ysgol gynradd Talysarn, y County ym Mhenygroes a Choleg yr Annibynwyr Bala Bangor.

Pregethu[golygu | golygu cod]

Bu'n gweinidogaethu'r eglwysi canlynol - Capel yr Annibynwyr Llanrhaeadr ym Mochnant 1933-1936; Saron (A) Rhydyfro 1936-1944; Tywyn Meirionydd 1944-1948; Tabernacl Pencader 1948-1953 a'r Tabernacl Llanrwst a Nant y Rhiw, Dyffryn Conwy 1953 tan iddo ymddeol yn 65 oed yn 1975.

Penderfynodd mae pregethwr oedd eisiau bod yn ifanc iawn. Cychwynodd bregethu yn bymtheg oed. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng nghapel bach Drws y Coed ym mhen pella Dyffryn Nantlle. Yn ystod ei yrfa daeth yn adnabyddus fel un o brgethwyr mawr cyfarfodydd pregethu ei enwad.

Llenor a darlledwr[golygu | golygu cod]

Hefyd, roedd ganddo y ddawn o ysgrifennu dramau. Y mwya adnabyddus oedd y ddrama radio i blant, sef "SOS Galw Gari Tryfan". Daeth y ddrama yn ffefryn gan blant Cymru am ddau degawd. Cyfrannodd yn ddi-dor am flynyddoedd i'r rhaglen BBC Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb ym myd argraffu a cychwynnodd gwmni cyhoeddi Gwasg yr Arad, Pencader a Llanrwst.

Ym 1951 pregethodd ar BBC Welsh Home Service (cyn bodolaeth Radio Cymru). Bu cynnwrf drwy Gymru a bu siarad am y bregeth hon am flynyddoedd. Y testun oedd Tomos Didymus, ac adnabyddir hi fel pregeth Twm Bach.