Y Ffynnon

Oddi ar Wicipedia

Y Ffynnon yw'r papur bro Cymraeg am ardal Eifionydd, Gwynedd. Mae'n cael ei gyhoeddi'n fisol.

Mae talgylch y papur yn cynnwys y cymunedau o gyrion Pwllheli hyd at gyffiniau tref Porthmadog. Cricieth yw prif dref yr ardal, ac mae'r papur hefyd yn cynnwys talgylch rhai o bentrefi Cymreicaf Cymru, o ran canran y siaradwyr Cymraeg gan gynnwys pentrefi Abererch, Llwyndyrus, Llanaelhaearn a Garndolbenmaen. Ceir tri phapur bro arall cyfagos: Yr Wylan (Porthmadog a'r cyffiniau); Llanw Llŷn (gorllewin penrhyn Llŷn gan gynnwys Aberdaron, Mynytho, Botwnnog a Phorthdinllaen); a Lleu (Dyffryn Nantlle, yn cynnwys Pant-glas a Chlynnog Fawr).

Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato