Woody Allen
Woody Allen | |
---|---|
Ganwyd | Allan Stewart Konigsberg 30 Tachwedd 1935 Y Bronx |
Label recordio | Capitol Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, digrifwr, actor ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, clarinetydd, dramodydd, canwr, actor cymeriad, newyddiadurwr, llenor, cyfansoddwr, cyfarwyddwr, actor, awdur, cynhyrchydd |
Blodeuodd | 2020 |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Take the Money and Run, Everything You Always Wanted to Know About Sex*, Sleeper, Love and Death, Annie Hall, Interiors, Manhattan, Stardust Memories, Zelig, Broadway Danny Rose, The Purple Rose of Cairo, Hannah and Her Sisters, Radio Days, September, Another Woman, Crimes and Misdemeanors, Husbands and Wives, Manhattan Murder Mystery, Bullets Over Broadway, Mighty Aphrodite, Everyone Says I Love You, Deconstructing Harry, Sweet and Lowdown, The Curse of The Jade Scorpion, Match Point, Scoop, Cassandra's Dream, Vicky Cristina Barcelona, Whatever Works, You Will Meet a Tall Dark Stranger, Midnight in Paris, To Rome With Love, Blue Jasmine, Magic in The Moonlight, Irrational Man, Café Society, Crisis in Six Scenes, Wonder Wheel, A Rainy Day in New York, What's Up, Bananas, A Midsummer Night's Sex Comedy, New York Stories, Shadows and Fog, Celebrity, Small Time Crooks, Hollywood Ending, Anything Else, Melinda and Melinda |
Taldra | 163 centimetr |
Tad | Martin |
Mam | Nettie Königsberg |
Priod | Harlene Susan Rosen, Louise Lasser, Soon-Yi Previn |
Partner | Diane Keaton, Mia Farrow |
Plant | Ronan Farrow, Moses Farrow, Dylan Farrow, Manzie Tio Allen, Bechet Dumaine Allen |
Gwobr/au | Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr Donostia, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Golden Globe Award for Best Screenplay, Gwobr O. Henry, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Commandeur des Arts et des Lettres, honorary doctorate of Pompeu Fabra University, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, BAFTA Award for Best Original Screenplay, Golden Globe Award for Best Screenplay, Gwobr Golden Globe am Ffilm Nodwedd Orau - Sioe Gerdd neu Gomedi, BAFTA Award for Best Original Screenplay, BAFTA Award for Best Original Screenplay, Gwobr BAFTA am y Ffilm Orau, BAFTA Award for Best Original Screenplay, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, BAFTA Award for Best Original Screenplay, BAFTA Award for Best Original Screenplay, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Silver Bear, FIPRESCI Prize of the Festival de Cannes, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Bodil Awards, Bodil Awards, Bodil Awards, Bodil Awards, Bodil Awards, Butaca Awards, Butaca Awards, Gwobrau César du Cinéma, Gwobrau César du Cinéma, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, David di Donatello, David di Donatello, David di Donatello, David di Donatello for Best Film, Goya Award for Best European Film, Q6351683, Q6351674, Independent Spirit Award for Best Screenplay, Gwobr Sant Jordi, Gwobr Sant Jordi, Q20970213, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau |
Gwefan | https://www.woodyallen.com/ |
llofnod | |
Actor, llenor, cerddor jazz, digrifwr, dramodydd, a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Woody Allen (ganed Allen Stewart Konigsberg; 1 Rhagfyr 1935). Mae ei gorff mawr o aith, a'i ardull ffilm ymenyddol, sy'n cymysgu dychan, ffraethineb a hiwmor, wedi ennill parch a'i wneud yn un o'r gwneuthurwyr ffilm mwyaf toreithiog yr oes gyfoes.[1] Mae Allen yn ysgrifennu, a chyfarwyddo ei ffilmiau yn ogystal ac actio yn y rhan fwyaf ohonynt. Mae Allen yn cymryd llawer o'i ysbrydoliaeth o lenyddiaeth, rhywioldeb, athroniaeth, seicoleg, ei hunaniaeth Iddeweg, sinema Ewropeaidd, a Dinas Efrog Newydd, ble'i ganwyd a bu'n byw am gydol ei oes.
Blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Allen yn Ninas Efrog Newydd, yn fab i Nettie (llysenw Cherrie; 8 Tachwedd 1906 - 27 Ionawr 2002), a oedd yn cadw'r cyfrifon yn nelicatessen y teulu, a Martin Konigsberg (25 Rhagfyr 1900 - 13 Ionawr 2001), engrafwr gemwaith a gweinydd.[2] Roedd ei deulu yn Iddeweg, a'i deidiau'n mewnfudwyr a oedd yn siarad Yiddish ac Almaeneg.[3] Roedd gan Allen chwaer, Letty (ganwyd 1943), magwyd hwy yn ardal Midwood, Brooklyn.[4] Ganwyd a magwyd ei rieni yn Lower East Side Manhattan.[3] Nid oedd ei blentyndod yn un hapus er ei fod o deulu dosbarth canol. Nid oedd ei rieni'n cyd-dynnu ac roedd y berthynas gyda'i fam anwadal, llym yn un bregus.[5] Siaradodd Allen Yiddish yn ei flynyddoedd cynnar, ac ar ôl mynychu Ysgol Hebraeg am wyth mlynedd, aeth i Ysgol Gyhoeddus 99 ac i Ysgol Uwchradd Midwood. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n byw mawn fflat yn 1402 Avenue K, rhwng Strydoedd East 14th a 15th. Fe enillodd y llysenw "Red" oherwydd ei wallt coch; gwnaeth argraff dda ar y myfyrwyr eraill gyda'i ddawn anhygoel o wneud triciau hud a chardiau.[6] Trwy ei bersonoliaeth mewn ffilm a chomedïau, mae'n aml wedi cyfleu ei hun fel rhywun sy'n gorfforol yn analluog ac yn amhoblogaidd yn gymdeithasol, mewn gwirionedd, roedd Woody Allen yn fyfyriwr poblogaidd ac yn chwaraewr pêl fasged a pêl fâs medrus.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Don't Drink the Water: A comedy in two acts (1967), ASIN B0006BSWBW
- Play It Again, Sam (1969), ISBN 0-394-40663-X
- Getting Even (1971), ISBN 0-394-47348-5
- God: A comedy in one act (1975), ISBN 0-573-62201-9
- Without Feathers (1975), ISBN 0-394-49743-0
- Side Effects (1980), ISBN 0-394-51104-2
- Lunatic's tale (1986), ISBN 1-55628-001-7
- Complete Prose of Woody Allen (1992), ISBN 0-517-07229-7. (Casgliad o straeon byr Allen, cyhoedwyd gyntaf yn Getting Even, Without Feathers a Side Effects.)
- Three One-Act Plays: Riverside Drive / Old Saybrook / Central Park West (2003), ISBN 0-8129-7244-9
- Writer's Block: Two One Actplays (2005), ISBN 0-573-62630-8
- "A Second Hand Memory," (drama dau ran) (2005)
- Yannick Rolandeau "Le cinéma de Woody Allen", Aléas, 2006 ISBN 2-84301-144-2
- Mere Anarchy (2007), ISBN 978-1-4000-6641-4
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Importance of Being Famous: Behind the Scenes of the Celebrity Industrial Complex; Maureen Orth p233 ISBN 0-8050-7545-3
- Woody Allen on Woody Allen: In Conversation With Stig Bjorkman (1995), ISBN 0-8021-1556-X
- Woody Allen - A biography; John Baxter (1999) ISBN 0-7867-0666-X
- Woody Allen: Eine Biographie; Stephan Reimertz, Reinbek, (2000) ISBN 3-499-61145-7 (Almaeneg)
- Woody Allen; Stephan Reimertz, (rororo-Monographie), Reinbek, (2005) ISBN 3-499-50410-3 (Almaeneg)
- The Essential Woody Allen; Lauren Hill
- Fun With Woody, The Complete Woody Allen Quiz Book (Henry Holt), Graham Flashner
- Woody Allen: Interviews (Conversations With Filmmakers Series), R. E. Kapsis a K. Coblentz gol., (2006) ISBN 1-57806-793-6
- "Woody plots film return to London"[dolen farw] by A Correspondent, Times Online, 30 Tachwedd 2005
- "Why I Love London" gan Simon Garfield, Guardian Unlimited, 8 Awst 2004
- Traethawd gan Victoria Loy ar yrfa Woody Allen
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Greatest Film Directors of All Time.
- ↑ Woody Allen Biography (1935-)
- ↑ 3.0 3.1 The religion of Woody Allen, director and actor.
- ↑ Newman, Allen, and Kilganon. Curse of the Jaded Audience: Woody Allen, in Art and Life - New York Times. "I think he's slacked off the last few movies, said Norman Brown, 70, a retired draftsman from Mr. Allen's old neighborhood, Midwood, Brooklyn, who said he had seen nearly all of Mr. Allen's 33 films."
- ↑ The Unruly Life of Woody Allen
- ↑ Woody Allen : Comedian Profile.
Dilenni allanol
[golygu | golygu cod]- WoodyAllen.com (Answyddogol)
- Casgliad Woody Allen Archifwyd 2008-05-15 yn y Peiriant Wayback
- Trawthawd am y cymeriadau benywaidd yn ffimiau Allen
- Cyfweliad gyda Woody Allen, IFC.com Archifwyd 2008-08-21 yn y Peiriant Wayback