Wicipedia:Cynnig erthyglau dethol

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd: Wicipedia:Erthyglau dethol.

Os ydych am gynnig bod rhyw erthygl yn cael ei gynnwys ymhlith erthyglau dethol Wicipedia yna croeso i chi ei ychwanegu at waelod y rhestr erthyglau isod.

Mater o gwrteisi yw rhoi gwybod i brif gyfrannwyr y darpar erthygl ddethol bod yr erthygl yn cael ei thrin a'i thrafod. Pan nad yw ffynhonnell yr erthygl eisoes wedi ei nodi dylid holi i'r cyfrannwyr am gyfeiriadau, cyn mynd ati i chwilio am ffynonellau o'r newydd.

Nodwch eich bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu enwebiad fan hyn da chi. Po fwyaf y trafod po orau i gyd. Dylid gwneud sylwadau pellach ar dudalen sgwrs yr erthygl. Yno hefyd y dylid cytuno neu wrthwynebu bod yr erthygl wedi cyrraedd safon erthygl ddethol.

Os ydych am gyfrannu at y gwaith adolygu gallwch ychwanegu'ch enw unrhywbryd at yr adolygwyr sy'n gweithio ar ryw erthygl, gan nodi pa agwedd(au) o'r gwaith adolygu yr ydych yn bwriadu gwneud. Dylid trafod yr erthygl yn fanwl ar dudalen sgwrs yr erthygl.

Trefnydd y system cynnig erthyglau dethol ar hyn o bryd yw Lloffiwr.

Ceir eglurhad o'r gofynion ar gyfer erthygl ddethol a'r ffordd y mae'r system erthyglau dethol yn gweithio ar y dudalen gymorth Wicipedia:Erthyglau dethol.


Tom Pryce[golygu cod]

    • Wedi derbyn marc erthygl ddethol.

Diwydiant llechi Cymru[golygu cod]

    • Wedi derbyn marc erthygl ddethol

Symffoni rhif 3 (Górecki)[golygu cod]

Cynnig bod yr erthygl yma yn cyrraedd y gofynion --Llygad Ebrill 12:11, 23 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn dda i mi. Un cwestiwn, fel rhywun sy'n weddol anghyfarwydd a gwaith Gorecki: Yn y paragraff cyntaf, mae'n dweud "Mae'r symffoni yn enghraifft o'r trawsnewidiad a fu rhwng arddull anghyseiniol Górecki yn ei weithiau cynnar a'i arddull gyweiraidd ddiweddarach." Dydw i ddim yn siwr beth a loygir yma - ydi'r symffoni yn cynnwys elfennau o'r ddwy arddull, neu yn enghraifft gynnar o'r ail arddull neu beth? Porius1 11:28, 24 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno i roi statws erthygl ddethol iddi. Llywelyn2000 09:15, 4 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]
Heb fod trwyddi'n llawn eto (mae'r ychydig (bach bach iawn) o'r cyfieithu yn lletchith o'r ychydig dw i wedi ei ddarllen). Ond fel arall mae'n edrych yn addas iawn i gael statws erthygl dethol. Dof yn ol yma i gadarnhau y nghefnogaeth lawn pan gaf gyfle i'w ddarllen drwyddi'n fanwl.--Ben Bore (sgwrs) 15:42, 21 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Cytuno. Mae'n hen bryd! —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:56, 2 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Tabl cyfnodol[golygu cod]

Carwn gynnig yr erthygl ar y Tabl cyfnodol. Llywelyn2000 09:15, 4 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Trefeurig[golygu cod]

Nantclwyd y Dre[golygu cod]

  • Cynigiwyd gan Deb ar dudalen sgwrs yr erthygl.

Y Gwarchodlu Cymreig[golygu cod]

Rwyf wedi ychwanegu at yr erthygl yma er mwyn cael ei ystyried ar gyfer y dudalen flaen yn ystod yr wythnos dathlu canmlwyddiant y Gwarchodlu Blogdroed (sgwrs) 21:24, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

@Blogdroed: Rwan dw i'n gweld hwn! F'ymddiheuriadau! Da ni'n rhy hwyr ar gyfer y diwrnod pwysig, ond mae angen gwerthuso'r erthygl ar gyfer Erthygl Ddethol.
Dw i'n credu fod na chydig o waith ar hon, a gormod o ddolennau coch. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 2 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Mae gen i ragor o nodiadau ar y gatrawd hon yn rhywle. Mi geisiaf dod o hyd iddynt ac ehangu'r erthygl ychydig, a dileu'r dolenni cochion (gyda lwc, "glasu" ambell un). Down yn ôl iddi mewn pythefnos. —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:39, 14 Mai 2017 (UTC)[ateb]

Mwyalchen y mynydd[golygu cod]

Cynnig! Fe'i sgennwyd yn bennaf gan @Duncan Brown:. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 2 Mai 2017 (UTC)[ateb]

Draenen wen[golygu cod]

Cynnig! Fe'i sgennwyd yn bennaf gan @Duncan Brown:. Angen ychydig o waith, ond mae hi bron yna! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:50, 10 Mai 2017 (UTC)[ateb]
Mi gymra i gip ar y ddwy dros y penwythnos; diolch am ymateb! Ond mae rhain ar y ffordd yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:54, 10 Mai 2017 (UTC)[ateb]

Jack the Ripper[golygu cod]

Cynnig hon gan @AlwynapHuw:; mymryn o waith arni o ran teipio, gan fwyaf. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:50, 10 Mai 2017 (UTC)[ateb]

Y Ddraig Goch[golygu cod]

Wedi ychwanegu'r nodyn erthygl ddethol i'r erthygl hon cyn gweld y dudalen sgwrs yma. Mae pob rhan o'r erthygl yn cynnwys ffynhonnell/cyfeiriad.Titus Gold (sgwrs) 17:48, 23 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]
Croeso i chi ddileu'r nodyn oddi ar y dudalen os ydych yn anghytuno. Titus Gold (sgwrs) 17:56, 23 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]

Dileu nodyn ar dudalennau sydd ddim yn cyrraedd y safon[golygu cod]

Dwi wedi dileu'r nodyn erthygl ddethol ar dudalennau Y Gwarchodlu Cymreig, Symffoni rhif 3 (Górecki), Diwydiant llechi Cymru a Tom Pryce am y rheswm syml eu bod i gyd yn cynnwys brawddegau neu baragraffau heb ffynhonnell/cyfeiriad. Croeso i ail-ychwanegu'r nodyn unwaith mae'r holl destun yn cynnwys ffynhonnell/cyfeiriad. Diolch Titus Gold (sgwrs) 17:48, 23 Ionawr 2024 (UTC)[ateb]


Archifau cynnig erthyglau dethol