Wicipedia:Cynnig erthyglau dethol/Archifau

Oddi ar Wicipedia

Tom Pryce[golygu cod]

Rwy'n credu bod yr erthygl yn cytuno gyda'r gofynion i gyd, heblaw efallai "wedi gael ei hysgrifennu mewn Cymraeg cywir ac eglur" - mae eisiau rhywun i fynd dros yr iaith.

Mae cwpl o luniau efallai gallai cael caniataid i ddefnyddio, fyddai'n gwneud ymholiadau. AlexJ 14:00, 31 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Wedi ychwanegu llun o Pryce yn cystadlu i'r erthygl. AlexJ 14:13, 4 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Oes modd i ti Rhion wirio'r ffeithiau yn erbyn ffynonellau? Lloffiwr 14:08, 31 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Fe ddylwn fedru gwneud mewn diwrnod neu ddau pan gaf afael ar y llyfrau. Rhion 17:22, 31 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Cytuno bod yr erthygl hon yn haeddu fod yn erthygl ddethol. Buasai llun neu ddau ychwanegol yn braf, ond y ffeithiau sy'n bwysig (dwi ddim mewn safle i'w gwirio, yn anffodus). Anatiomaros 17:10, 31 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi bod trwy'r ffeithiau yn erbyn llyfrau Tremayne a safle we F1 - rwy'n hapus eu bod yn gywir. Rwyf hefyd wedi gwneud tipyn o waith ar yr iaith, ond fe fyddai'n beth da petai rhywun arall yn bwrw golwg dros yr erthygl o safbwynt gramadeg ac ati. Wedi hynny, fe fuaswn i'n barnu fod yr erthygl yn barod i'w nodi fel erthygl ddethol. Gwaith da, AlexJ! Rhion 18:30, 4 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Dim ond manion yn weddill i'w trafod - y drafodaeth ar yr allwedd ar gyfer y tabl ar y Caffi. Wedi derbyn marc erthygl ddethol. Lloffiwr 18:04, 5 Mai 2008 (UTC)[ateb]