Symffoni rhif 3 (Górecki)

Oddi ar Wicipedia
Symffoni rhif 3
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
IaithPwyleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1977 Edit this on Wikidata
Genrecontemporary classical music Edit this on Wikidata
CyfansoddwrHenryk Górecki Edit this on Wikidata
Clawr argraffiad 1992 o recordiad o drydedd Symffoni Górecki dan arweiniad David Zinman.

Symffoni â thri symudiad yw Symffoni rhif 3, Opws 36, a elwir hefyd yn Symffoni Caneuon Gofidus (Pwyleg: Symfonia pieśni żałosnych). Cyfansoddodd Henryk Górecki hi yn Katowice, Gwlad Pwyl, rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 1976. Mae'r symffoni yn enghraifft o'r trawsnewidiad a fu rhwng arddull anghyseiniol Górecki yn ei weithiau cynnar a'i arddull gyweiraidd ddiweddarach.

Cenir testun Pwyleg gwahanol gan unawdydd soprano ymhob un o'r tri symudiad. Galarnad i Fair o'r 15g yw'r cyntaf, neges ar fur cell Gestapo o'r Ail Ryfel Byd yw'r ail, a chân werin o Silesia yw'r olaf am fam sy'n chwilio am ei mab a laddwyd yng ngwrthryfeloedd Silesia.[1] Daw'r symudiad cyntaf a'r trydydd o safbwynt rhiant sydd wedi colli plentyn, a'r ail o safbwynt merch sydd wedi ei gwahanu o'i mam. Mamolaeth a gwahaniad o achos rhyfel yw prif themâu'r symffoni.

Cyn 1992, dim ond arbenigwyr oedd yn gyfarwydd â gwaith Górecki, a hynny'n bennaf am ei fod yn un o'r cyfansoddwyr oedd yn gyfrifol am adfywiad yng ngherddoriaeth Gwlad Pwyl ar ôl y rhyfel.[2] Y flwyddyn honno, a'r symffoni yn 15 mlwydd oed, cyrhaeddodd recordiad, a gyhoeddwyd gan gwmni Elektra-Nonesuch, frig y siartiau clasurol yng Ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau. Erbyn hyn, mae dros filiwn o gopïau wedi eu gwerthu, llawer iawn yn fwy na'r cyfanswm gwerthiant byddai rhywun yn disgwyl o recordiad o symffoni gan gyfansoddwr o'r 20g. Gwaetha'r modd, nid yw hyn wedi llwyddo ysgogi diddordeb yng ngweithiau eraill Górecki.[3]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Er mai anffafriol oedd yr hinsawdd wleidyddol (roedd awdurdodau comiwnyddol yn collfarnu celfyddyd fodern gan ei galw'n ffurfiolaeth), roedd rhyddid nas gwelwyd o'r blaen gan gyfansoddwyr Gwlad Pwyl yn dilyn sefydlu gŵyl Hydref Warsaw ym 1956.[4] Enillodd Górecki ei blwyf ymysg cyfansoddwyr avant-garde am waith arbrofol, anghyseiniol a chyfresol ei yrfa gynnar; daeth cyfansoddiadau modernaidd megis Scontri, oedd yn llwyddiannus yn Hydref Warsaw 1960, a Symffoni rhif 1, a wobrwywyd yn Bienniale Ieuenctid Paris 1961[5] a sylw rhyngwladol iddo. Trwy gydol y 1960au, daeth i adnabyddiaeth â chyfansoddwyr arbrofol a chyfresol eraill megis Pierre Boulez a Karlheinz Stockhausen.

Pierre Boulez, un o gyfeillion Górecki yn y 1960au

Yn ystod y 1970au, dechreuodd Górecki ymbellhau o gyfresedd ac anghyseinedd eithafol ei ddyddiau cynnar, ac mae Symffoni rhif 3, yn debyg i'r darnau corawl Euntes ibant et flebant (Op. 32, 1972) ac Amen (Op. 35, 1975) a ddaeth o'i blaen, yn llwyr ymwrthod â thechnegau o'r fath. Mae diffyg amrywiaeth harmonig Symffoni rhif 3, a'r ffaith ei bod yn ddibynnol ar ail-adrodd yn arwyddocáu cam yn nhaith Górecki tua minimaliaeth harmonig a gweadwaith ymddangosiadol syml ei waith ddiweddarach.[1] Oherwydd natur grefyddol nifer o'i gyfansoddiadau yn y cyfnod hwn, mae beirniaid a cherddolegwyr yn ei gorlannu â chyfansoddwyr modernaidd eraill a ymchwiliodd i weadwaith, tonyddiaeth a melodedd radical o syml ac yn llenwi eu cyfansoddiadau ag arwyddocâd crefyddol. Er y defnyddir y term holy minimalism i ddisgrifio gwaith Górecki ac eraill megis Arvo Pärt a John Tavener, nid yw'r cyfansoddwyr eu hunain yn cydnabod bod ganddynt yr un dylanwadau.

Cyfansoddi[golygu | golygu cod]

Ym 1973, gofynnodd Górecki i'r arbenigydd llên gwerin Adolf Dygacz am alawon traddodiadol i'w defnyddio mewn cyfansoddiad newydd. Cyflwynodd Dygacz bedwar cân a recordiwyd yn rhanbarth Silesia yn ne-orllewin Gwlad Pwyl. Roedd Górecki yn hoff o'r alaw "Kajze mi sie podzioł mój synocek miły" (i ble'r aeth, fy annwyl fab ifanc), sy'n disgrifio galar mam am fab a gollwyd mewn rhyfel; mae'n debyg y daw o gyfnod Gwrthryfeloedd Silesia (1919–21). Roedd Górecki wedi clywed fersiwn o'r gân yn y 1960au, ond nid oedd yn hoff o'r trefniant; gwnaeth geiriau ac alaw fersiwn newydd Dygacz argraff gref arno. Dywedodd "i mi, mae'n destun rhyfeddol farddonol. Gwyddwn i ddim a fyddai bardd 'proffesiynol' yn creu endid mor bŵerus o eiriau mor gryno a syml. Nid tristwch, anobaith, goddefgarwch neu blethu dwylo sydd yma: dim ond profedigaeth fawr a galaru mam a gollodd ei mab."[6]

Mynyddoedd Tatra, ger carchar y Nazïaid yn nhref Zakopane, lle gymrodd y cyfansoddwr arysgrif o wal cell ar gyfer ei symffoni.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, clywodd Górecki am arysgrif fras ar wal cell carchar y Gestapo yn nhref Zakopane, wrth droed mynyddoedd Tatra yn ne Gwlad Pwyl. Geiriau Helena Wanda Błażusiakówna oeddynt, benyw o'r ucheldiroedd a garcharwyd ar 25 Medi, 1944, a hithau'n 18 mlwydd oed. Y geiriau oedd "O Mamo nie płacz nie—Niebios Przeczysta Królowo Ty zawsze wspieraj mnie" (O! Mama paid â chrio—Perffaith Frenhines y Nef cynnal fi yn wastadol). "Rhaid i mi gyfaddef," meddai Górecki, "fod geiriau crand a galwadau am ddial wedi codi fy ngwrychyn erioed. Efallai, yn wyneb marwolaeth, byddwn innau yn galw fel hyn. Ond mae'r frawddeg a ddarganfûm yn wahanol, bron iawn yn ymddiheuriad neu'n eglurhad am gael ei hun i'r fath drybini; mae hi'n chwilio am gysur a chynhaliaeth mewn geiriau byr, syml, ystyrlon".[7] Eglurodd yn ddiweddarach, "Yn y carchar, roedd y wal wedi ei orchuddio mewn arysgrifau fel petaent yn sgrechian: 'Dwi'n ddi-euog', 'Llofruddwyr', 'Dienyddwyr', 'Rhyddhewch fi', 'rhaid i chi fy achub i'- roedd yr holl beth mor groch, mor sathredig. Oedolion oedd yn ysgrifennu hyn, ond eto dyma ferch deunaw-mlwydd-oed, plentyn bron. Ac mae hi mor wahanol. Nid yw hi'n anobeithio, na'n crïo, na'n sgrechian am ddial. Nid yw hi'n meddwl am hyhi ei hun; a yw hi'n haeddu ei ffawd neu beidio. Yn hytrach, mae hi'n meddwl dim ond am ei mam: oherwydd ei mam yw'r un bydd yn profi gwir anobaith. Roedd yr arysgrif hon yn rhywbeth hynod. Ac roedd yn codi chwilfrydedd ynof."[8]

Roedd gan Górecki dau destun erbyn hyn: un o ferch i'w mab, ac un arall o ferch i'w mam. Wrth edrych am un arall fyddai'n parhau â'r thema, penderfynodd ar gân werin o ddinas Oople yn y De, yn dyddio o ganol y 15g.[9] Yn y testun, ceir darn lle mae'r Forwyn Fair yn siarad gyda'r Iesu wrth iddo farw ar y groes: "O! fy mab, anwylyd a detholedig, rhanna dy glwyfau â'th fam …" (Synku miły i wybrany, Rozdziel z matką swoje rany …). Yn ôl Górecki, "mae'r testun hwn yn werinol, ddi-enw. Felly roedd gennyf dair act yn awr, tri pherson … Yn wreiddiol, fy mwriad oedd fframio'r testunnau gyda chyflwyniad a chlo. Bu hyd yn oed i mi ddewis dau bennill (5 a 6) o Salm 93/94 yng nghyfieithiad Wujek: 'Gwaradwyddent dy bobl, O Arglwydd, a chystuddient dy etifeddiaeth, lladdent y weddw a'r teithwyr, llofruddient blant amddifad.'"[10] Fodd bynnag, ymwrthododd â'r ffurf hon am ei fod yn credu y byddai'r strwythur yn rhoi'r argraff fod ei symffoni yn ddarn "am ryfel". Roedd Górecki a'i fryd ar oresgyn manylion o'r fath, a chyfansoddodd ei symffoni ar ffurf tair galarnad annibynnol.[10]

Offeryniaeth a'r sgôr[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Symffoni Rhif 3 ar harmonïau syml, wedi eu gosod mewn arddull moddol gyfoes[11] sy'n defnyddio moddau cerddoriaeth ganoloesol, ond heb lynnu'n gaeth i reolau cyfansoddi canoloesol. Bydd perfformiad fel arfer yn para oddeutu 54 munud. Yn ôl disgrifiad Ronald Blum, mae'r darn yn "alarus, fel Mahler, ond heb drah offerynnau taro, cyrn a chôr, dim ond galar llinynnau a soprano unig".[12] Mae tri symudiad marwnadol i'r darn, gyda'r gair Lento ar bob un i nodi'r tempo araf.[13] Mae llinynau yn tra-arglwyddiaethu'r gweadwaith cerddorol a phrin fod y gerddoriaeth yn uchel - dim ond mewn llond llaw o fariau y mae'r ddynameg yn cyrraedd fortissimo.[1] Cyfansoddwyd y symffoni ar gyfer unawd soprano, pedwar ffliwt (dau bicolo yn dyblu), pedwar clarinet B fflat, dau fasŵn, dau fasŵn dwbl, pedwar corn F, pedwar trombôn, telyn, piano a llinynnau. Yn anarferol, nid oes nac obo na cor anglais yn y sgôr. Dim ond yn y symudiad cyntaf y mae'r baswnau, baswnau dwbl a thrombonau yn canu, a hynny dim ond am ychydig fariau (baswnau a baswnau dwbl: 339-342 a 362-369; trombonau: 343-348 a 367-369). Yn groes i'r arfer mewn sgôr cerddorfaol, nodir yn union sawl llinynnwr sydd eisiau ymhob adran: 16 feiolin cyntaf, 16 ail feiolin, 12 fiola, 10 sielo, ac 8 bas dwbl.

Stryd yn Katowice, lle cyfansoddwyd y symffoni.

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r sgôr, rhennir y darnau hyn yn ddau ddarn, pob un ar erwydd gwahanol. Mae'r rhan fwyaf o ddeunydd y llinynnau, felly, wedi ei ysgrifennu mewn deg darn ar ddeg erwydd. Mewn mannau, mae'r darnau yn cael eu rhannu ymhellach, gyda mwy nag un darn ar yr un erwydd, fel mai deg erwydd sy'n dal i gael eu defnyddio.

Ysgrifennir y darnau ar gyfer offerynnau trawsnodi (clarinetau a chyrn) yn eu traw clywedol yn y sgôr. Fodd bynnag, cedwir y trawsnodi wythfed arferol ar gyfer y picoli, baswnau dwbl a basau dwbl - ond mae'r erwyddau yn dangos "8" bach uwchben allwedd y trebl ac "8" bach islaw allwedd y bas i ddangos y trawsnodi. Yn draddodiadol, ni wneir hyn mewn sgorau cerddorfaol, ond fe'i gwneir gan rai cyfansoddwyr yn yr 20g.

Mae'r cerddolegydd Adrian Thomas wedi nodi nad oes anghyseinedd yn y symffoni heblaw am ffurfdroeon moddol (hynny yw, defnydd achlysurol o donau nad ydynt yn rhan o'r modd), ac nad oes angen canu penigamp na thechnegau tu hwnt i rai safonol i chwarae'r symffoni. Noda Thomas hefyd nad oes "cyfeirio ail-law yn yr arddull, ond pe edrychwyd am ragflaenwyr, gellir eu canfod, o bellter, yng ngherddoriaeth cyfansoddwyr mor amrywiol â Bach, Schubert, Tchaikovsky, a Debussy hyd yn oed."[14]

Lento—Sostenuto tranquillo ma cantabile[golygu | golygu cod]

Darn o agoriad symudiad cyntaf y symffoni.

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Mae'r symudiad cyntaf fel arfer yn para oddeutu 27 munud, tua'r un peth â chyfanswm hyd yr ail a'r trydydd symudiad.[9] Mae'n seiliedig ar alarnad i Fair o gasgliad Caneuon Łysa Góra ym Mynachlog Św. Krzyż ym Mynyddoedd Świętokrzyskie. Mae iddi dair adran thematig, ac mae'n dechrau gyda chanon sy'n seiliedig ar thema 24 bar a ailadroddir sawl gwaith. Mae'r canon yn dechrau â dau lais, ac mae llais arall yn ymuno, nes bod wyth llais (gyda'r ddau uchaf wedi dyblygu wythawd yn uwch, gan wneud cyfanswm o 10 darn); alaw 24 bar yn y modd Aolaidd ydyw'r thema. Yr ail fasau dwbl sy'n dechrau, ac mae'r llais nesaf yn cydio bar yn ddiweddarach bob tro (hynny yw, mae cydiad newydd pob 25 bar), pob un yn dechrau pumed perffaith yn uwch na'i rhagflaenydd. Golyga hyn fod yr alaw mewn modd gwahanol pob tro mae'n ymddangos, yn y drefn hon:

  1. Modd Aeolaidd ar E (ail fas dwbl)
  2. Modd Phrygaidd ar B (bas dwbl cyntaf)
  3. Modd Locriaidd ar F# (ail sielo)
  4. Modd Lydiaidd ar C (sielo cyntaf)
  5. Modd Ionaidd ar G (ail feiola)
  6. Modd Micsolidaidd ar D (feiola cyntaf)
  7. Modd Doraidd ar A (ail ran yr ail feiolin)
  8. Modd Aeolaidd ar E (ail ran y feiolin gyntaf)

Wedi canu'r canon wythlais, caiff ei hailadrodd, ond gyda rhan gyntaf y feiolin gyntaf a'r ail feiolin (nad ydynt yn canu cyn hynny) yn dyblu'r ail rannau wythawd yn uwch. Wedi hynny, mae'r canon yn parhau, ond mae'r lleisiau yn peidio fesul un, o'r isaf i'r uchaf; ond yn hytrach na pheidio â chanu, mae'r offerynnau dan sylw yn dyblu llais uwch sy'n dal i ganu. Ymhen hir a hwyr, daw'r ganon i ben, gyda'r llinynwyr i gyd yn gorffen ar yr un nodyn, E4. Mae'r ail adran yn dechrau wrth i'r soprano cydio yn yr un nodyn, ac yna'n adeiladu'n raddol i'w huchafbwynt. Yna, mae'r llinynnau yn ail-gydio â grym yn uchafbwynt y canon agoriadol. Mae'r drydedd adran (Lento—Cantabile semplice) yn araf gloi'r cwbl ynghyd; mae'n ganon arall yn seiliedig ar yr un alaw â'r canon agoriadol, ond gan ddechrau y tro hwn gyda phob un o'r wyth llais (a'r ddwy uchaf wedi eu dyblu), ac mae'r lleisiau'n peidio, fesul un, o'r uchaf i'r isaf, gan adael, erbyn y diwedd, dim ond yr ail fas dwbl yn canu'r alaw unwaith eto.

Lento e largo—Tranquillissimo[golygu | golygu cod]

Sampl o ail symudiad y symffoni.

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Ysgrifennwyd yr ail symudiad, sy'n para naw munud, ar gyfer soprano, clarinét, cyrn, telyn, piano, a llinynnau. Daw'r geiriau o weddi i'r Forwyn Fair a arysgrifwyd ar wal cell yn Zakopane.[9] Yn ôl Górecki, "Dymunwn i'r ail symudiad feddu ar gymeriad ucheldirol, nid fel petai'n llên gwerin pur, ond o awyrgylch Podhale … Dymunwn i ymson y ferch, fel petai'n ei mwmian, droedio'r ddeuoliaeth rhwng bod yn afreal bron, ac esgyn dros ben y gerddorfa."[15] Ar ddechrau'r symudiad, mae drôn gwerinol, A-E, a thamaid alaw, E–G#–F#, sy'n dod bob yn ail â deuad B-fflat a D isel. Yn ôl Thomas, mae hyn yn creu effaith "sinematig bron … yn awgrymu awyr iach llachar y mynyddoedd".[15] Wrth i'r soprano ddechrau ganu, cynhelir ei geiriau gan y gerddorfa nes iddi gyrraedd uchafbwynt ar A-fflat uchel. Daw'r symudiad i adfer wrth i'r llinynnau dal cord heb dawelu am bron i funud a hanner. Geiriau olaf y symudiad yw dwy linell gyntaf Ave Maria yn y Bwyleg, a genir dwywaith ar yr un nodyn gan y soprano.

Lento—Cantabile-semplice[golygu | golygu cod]

Sampl o drydydd symudiad y symffoni.

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Mae cyflymder y trydydd symudiad yn debyg i'r ddau flaenorol, ac mae newidiadau cyfrwys ym mywiogrwydd a modd y gerddoriaeth yn ymlygu mwy nag a glywir i ddechrau. Mae'n para oddeutu 17 munud, ac mae ganddo dri phennill, pob un yng nghywair A lleiaf;[1] yn debyg i'r symudiad cyntaf, fe'i seilir ar amrywiadau a ddatblygir o thema syml. Sefydlir yr alaw yn y pennill agoriadol, ac yn yr ail a'r trydydd pennill, ymwelir eto â'r themâu crudo a glywyd yn yr ail symudiad. Fel yn yr ail symudiad, seilir y themâu ar wrthdroadau trinod syml a chord seithfed sy'n rhychwantu sawl wythawd. Wrth i'r soprano ganu'r geiriau olaf, mae'r cywair yn newid i A fwyaf diatonig pur, yn gyfeiliant, chwedl David Ellis, i'r "pennill olaf gorawennus":[1]

Canwch iddo / Adar bach Duw / Gan na all ei fam ei ganfod.
A chwychwi, blodau bach Duw / blodeuwch ynghylch / i fy mab cael cysgu'n ddedwydd.[16]

Daw'r gerddorfa'n ôl i A lleiaf cyn y postliwd yn A fwyaf sy'n cloi'r symudiad.[1] Fel dywedodd Górecki ei hun, "O'r diwedd daeth 'walczyk' digyfnewid, parhaus, ystyfnig [ar gord A], sy'n seinio'n dda o'i ganu'n dawel, fel bod y nodau i gyd o fewn clyw. Ar gyfer y soprano, defnyddiais dechneg sy'n nodweddiadol o ganu ucheldirol: atal yr alaw ar y trydydd [C#] a disgyn o'r pumed i'r trydydd tra bo'r cyfeiliant yn camu i lawr [fesul chweched]".[7]

Dehongliad[golygu | golygu cod]

Jean Fouquet, Madona a Phlentyn, oddeutu 1450.

Mae symffoni rhif 3 yn gyflwynedig i Jadwiga Rurańska, gwraig Górecki. Ei ymateb, pan fe'i holwyd paham a wnaeth hyn, oedd gofyn "I bwy ddylaswn ei gyflwyno?".[17] Dim un waith yw Górecki wedi crybwyll ei ymateb i ddigwyddiadau gwleidyddol neu hanesyddol wrth egluro'r symffoni. Yn hytrach, mae'n haeru fod y gwaith yn galw ar y clymau rhwng mam a phlentyn. Mae wedi tybio mai coffadwriaeth i'r sawl dioddefodd dan y Natsïaid yng Ngwlad Pwyl yn yr Holocost yw'r symffoni, yn enwedig o ystyried y testunnau ddewisodd Górecki. Fe'i comisiynwyd i ysgrifennu cerddoriaeth yn ymateb i'r Holocost yn y 1960s ond ni allodd orffen unrhyw un o'r darnau a ddechreuodd i'r perwyl hwnnw.[5] Er i Górecki ddweud ei fod wedi ceisio creu darn yn ymateb i Auschwitz yn benodol ers nifer o flynyddoedd, mae'n gwadu'r dilysrwydd y dehongliad hwnnw o Symffoni rhif 3; mae'n well ganddo feddwl fod pobl yn gweld y symffoni mewn cyd-destun ehangach. Ceisiodd beirniaid eraill dehongli'r symffoni mewn termau ysbrydol, ond mae Górecki yn ymwrthod â hyn hefyd.[18]

Wrth sôn am y symffoni, dywedodd Górecki "Bu farw llawer o fy nheulu mewn gwersylloedd crynhoi. Roedd gen i daid oedd yn Dachau, a modryb yn Auschwitz. Gwyddoch chi fel y mae rhwng Pwyliaid ac Almaenwyr. Ond Almaenwr oedd Bach hefyd—a Schubert, a Strauss. Mae gan bawb ei le ar y ddaear fach hon. Ond mae hyn oll y tu ôl i mi. Felly nid symffoni am ryfel yw'r Drydedd Symffoni; nid Dies Irae mohoni; mae'n Symffoni Caneuon Gofidus arferol."[19]

Derbyniad beirniadol a diwylliannol[golygu | golygu cod]

Cyfansoddwyd Symffoni Rhif 3 ym 1976; yr oedd Górecki, pryd hynny, chwedl y beirniad cerddorol Jane Perlez, "ffigur tanllyd, yn ffasiynol dim ond ymhlith cylch bychan o arbenigwyr brwd ym maes cerddoriaeth fodern".[18] Recordiwyd y symffoni gyntaf yng Ngwlad Pwyl ym 1978 gan y soprano Stefania Woytowicz. Roedd y wasg y tu allan i Wlad Pwyl yn feirniadol iawn o recordiadau a pherfformiadau o'r symffoni trwy'r 1970au hwyr a'r 1980au cynnar.[20] Daeth y symffoni dan lach beirniaid a deimlai fod Górecki wedi symyd yn rhy bell o'r arddull avant-garde sefydledig, a'i fod, yn ôl Dietmar Polaczek (wrth ysgrifennu ar gyfer yr Österreichische Musikzeitschrift), "yn gwneud dim ond ychwanegu at y sothach dirywiol oedd yn cylchynnu gwir binaglau'r avant-garde".[21] Adolygwyd y perfformiad cyhoeddus cyntaf yng Ngŵyl Royan, dan arweiniad Ernest Bour, gan chwech o feirniaid gorllewinol, pob un ohonynt yn chwyrn eu beirniadaeth.[20] Wrth ysgrifennu ar gyfer Musica, dywedodd Heinz Koch fod y Symffoni yn "llusgo trwy dair hen alaw werin (a dim arall) am 55 munud di-ddiwedd".[22]

Y mae Mam Lemminkainen (1897) gan Akseli Gallen-Kallela yn waith cynharach sy'n galw ar yr un themâu o famolaeth a rhyfel â Symffoni rhif 3. Mae'r llun yn dangos golygfa o'r arwrgerdd Ffinneg Kalevala.[nodyn 1]

Ym 1985, defnyddiodd y gwneuthurwr ffilmiau Ffrengig Maurice Pialat rhan o'r trydydd symudiad yn y glodrestr ar ddiwedd ei ffilm Police. Gwerthodd y gerddoriaeth yn dda o'i ail-farchnata fel "albwm trac sain", er nad oedd y nodiadau daeth efo'r recordiad yn dweud fawr ddim am y symffoni,[23] ac ymddangosodd enw Górecki mewn ysgrifen lai nag enwau'r prif actorion.[24] Ar ganol y 1980au, defnyddiodd y grŵp cerddoriaeth ddiwydiannol Brydeinig Test Dept Symffoni Rhif 3 yn gefndir i ludweithiau fideo yn ystod eu cyngherddau; defnyddient y symffoni i fynegi eu cydymdeimlad â'r mudiad Solidarność [25] oedd Górecki hefyd yn ei gefnogi (roedd ei Miserere (1981), yn rhannol felly, yn ymateb i wrthwynebiad y llywodraeth i undebau llafur Solidarność).[26] Tua diwedd y 1980au, canwyd y symffoni fwyfwy ar orsafoedd radio cerddoriaeth glasurol yn yr Unol Daleithiau a Gwledydd Prydain, ar Classic FM yn benodol. Roedd dymchwel comiwnyddiaeth yn hwb i boblogrwydd cerddoriaeth Pwyleg, ac erbyn 1990, roedd y symffoni i'w glywed mewn cyngherddau yn Efrog Newydd, Lundain a Sydney.[18] Rhyddhawyd recordiad a wnaed ym 1991 gan yr unawdydd Dawn Upshaw a'r London Sinfonietta dan arweiniad David Zinman, ym 1992 gan Nonesuch Records dan y label Elektra. O fewn dwy flynedd, gwerthwyd dros 700,000 copi ledled y byd;[12] esgynnodd y record i rif 6 ar brif siart albymau'r Ddeyrnas Gyfunol,[27] ac er na ymddangosodd ar y Billboard 200, arhosodd ar frig siartiau clasurol UDA am 38 wythnos, ac yn y siartiau am 138 wythnos.[28][29] Mae'r recordiad Zinman/Upshaw wedi gwerthu dros filiwn o gopïau erbyn hyn.[30]

Yn ôl yr awdur Michael Steinberg, mae llwyddiant y symffoni yn ganlyniad i ffenomen y gryno ddisg, ac er bod y symffoni'n cael ei pherfformio'n fyw o hyd, nid yw'r tocynnau i gyd yn cael eu gwerthu bob tro.[2] Roedd rhai beirniad, dan dybed pam y daeth y symffoni mor boblogaidd bron i ddau ddegawd ar ôl iddi gael ei gyfansoddi, yn awgrymu iddi gyseinio ag awyrgylch arbennig yn niwylliant poblogaidd y cyfnod. Pendronodd Stephen Johnson, yn A guide to the symphony, ai ffenomen fyrhoedlog oedd llwyddiant masnachol y symffoni, neu a fyddai ganddi arwyddocâd parhaol.[31] Ym 1998, gofynnodd Michael Steinberg a yw pobl "yn gwrando ar y symffoni hon go-iawn? Faint o'r rhai sy'n prynu'r gryn ddisg sy'n darganfod fod pumdeg-pedwar munud o gerddoriaeth araf iawn gydag ychydig o ganu mewn iaith nad ydynt yn ei deall yn fwy nag y dymunent? A gâi ei ganu'n gyfeiliant i Chardonnay a brie?"[2] Cymharodd Steinberg lwyddiant y symffoni â ffenomen Doctor Zhivago 1958: "Brysiodd pawb i brynu'r llyfr; ychydig iawn a lwyddodd i'w ddarllen mewn gwirionedd. Wrth i'r ffilm ymddangos ym 1965, achubwyd ni oll o'r anghenraid hwnnw."[2] Synnodd Górecki gymaint â neb ar lwyddiant y recordiad, a thybiodd yn ddiweddarach y gall "bobl ddod o hyd i rywbeth maen nhw ei angen yn y darn hwn o gerddoriaeth…. Rhywsut, bu i mi daro'r nodyn cywir, rhywbeth roeddynt yn ei golli. Rhywle, roedd rhywbeth ar goll iddynt. Teimlaf i mi wybod, yn reddfol, beth oedd ei angen arnynt."[2] Rhyddhawyd oleiaf dwsin recordiad arall yn sgîl llwyddiant recordiad Nonesuch recording, a bu i'r symffoni fwynhau amlygrwydd mewn nifer o gyfryngau celfyddydol ledled y byd. Defnyddiwyd y symffoni droeon gan wneuthurwyr ffilmiau yn y 1990au i ennyn ymdeimlad o pathos neu ofid, gan gynnwys cyfeiliant i ddamwain awyren yn Fearless ffilm Peter Weir o (1993), ac yn nhrac sain Basquiat, ffilm Julian Schnabel (1996).[32] Ymddangosodd arddangosfa mewn galeri gelf yn Santa Fe, New Mexico ym 1995 oedd yn dangos dim ond celfyddyd weledol a ysbrydolwyd gan y symffoni.[32] Ym 1995, defnyddiodd y grŵp roc Almaenig Faust y symffoni yn y darn diriaethol "Eroberung Der Stille Teil 1" sy'n ymddangos ar eu cryno ddisg "Rien". Ym 1997, samplwyd y symffoni yn y gân "Gorecki" gan y grŵp trip-hop Seisnig Lamb, a gyrhaeddodd rhif 30 yn siart senglau'r Ddeyrnas Gyfunol ym 1997.[33]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Roedd rhyfelwr o'r enw Lemminkäinen wedi ei lofruddio, ei dorri'n ddarnau, a'i daflu i'r afon yn Tuonela. Aeth ei fam i afon y Duw Tuoni, darganfu corff ei mab, a daeth ag o'n ôl o farw'n fyw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Ellis, David. "Evocations of Mahler Archifwyd 2012-09-17 yn y Peiriant Wayback." (PDF). Naturlaut 4(1): 2–7, 2005. Gwiriwyd 11 Mehefin, 2007.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Steinberg (1998), 171.
  3. Steinberg (1998), 170
  4. Thomas (2005), 85-86
  5. 5.0 5.1 Howard (1998), 134
  6. Thomas (1997), 81
  7. 7.0 7.1 Thomas (1997), 82
  8. Górecki, Henryk Mikołaj. "Remarks on Performing the Third Symphony Archifwyd 2008-08-04 yn y Peiriant Wayback.". Polish Music Journal, Cyfrol 6, Rhifyn 2, Gaeaf 2003. ISSN 1521 - 6039. Adalwyd 29 Mai, 2007.
  9. 9.0 9.1 9.2 McCusker, Eamonn. "Symphony No.3: Sorrowful Songs Archifwyd 2007-01-19 yn y Peiriant Wayback.". CD Times. Adalwyd 19 Mehefin, 2007.
  10. 10.0 10.1 Thomas(1997), 83
  11. Kertesz, Imre. "Górecki's Symphony no.3, 'Symphony of Sorrowful Songs' Archifwyd 2009-07-18 yn y Peiriant Wayback.". Le Chercheur de traces. Adalwyd 7 Gorffennaf, 2007.
  12. 12.0 12.1 Blum, Ronald. "The Impact of Górecki's Symphony No. 3". Chicago Sun-Times, 26 Mehefin, 1994.
  13. Han-Leon, Chia. "Symphony No.3, op.36 (1976) Archifwyd 2008-01-10 yn y Peiriant Wayback.". The Flying Inkpot, 9 Rhagfyr, 1999. Adalwyd 22 Mehefin, 2007.
  14. Thomas (2005), 265
  15. 15.0 15.1 Thomas (1997), 91
  16. Mason Hodges, John. "A Polish Composer Makes Minimalism Meaningful[dolen marw]". Critique, 1993. Adalwyd 22 Mehefin, 2007.
  17. Howard (1998), 133
  18. 18.0 18.1 18.2 Perlez, Jane. "Henryk Górecki". New York Times, 27 Chwefror, 1994. Adalwyd 29 Mawrth, 2008.
  19. Jacobson (1995), 191
  20. 20.0 20.1 Howard (1998), 136
  21. Polaczek, Dietmar. "Neue Musik in Royan", Österreichische Musikzeitschrift, July–August,1977. 358
  22. Koch, Heinz. "Mit wichtigen bundesdeutschen Beiträgen". Musica 31, no. 4. 1977. p 332. Da schleift einer drei alte Volksliedmelodien (und sonst nichts) 55 endlose Minuten lang.
  23. Howard (1998), 137
  24. Wierzbicki, James. "Henryk Górecki Archifwyd 2008-05-14 yn y Peiriant Wayback.". St. Louis Post-Dispatch, 7 Gorffennaf, 1991. Adalwyd 29 Mai, 2007.
  25. Howard (1998), p. 138.
  26. Thomas, Adrian. "Górecki, Henryk Mikolaj". The New Grove Dictionary of Music and Musicians, ed. Stanley Sadie. (London): Macmillan, 2001, v.10, p. 160.
  27. Howard (1998), 144
  28. "Top Classical Albums". Billborad.com [07-14 1996]. Adalwyd 16 Hydref, 2008
  29. Howard (1998), 145
  30. .
  31. Layton (1995), 401
  32. 32.0 32.1 Howard (1998), 152
  33. "gorecki". gorecki.co.uk. Adalwyd 19 Mehefin, 2007.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Howard, Luke. "Motherhood, Billboard, and the Holocaust: Perceptions and Receptions of Górecki's Symphony No. 3". The Musical Quarterly, 82, 1998. 131–159
  • Jacobson, Bernard. "A Polish Renaissance". Llundain: Phaidon, 1995. ISBN 0-7148-3251-0.
  • Layton, Robert, editor. A Guide To The Symphony. Rhydychen: Oxford University Press, 1995. ISBN 0-1928-8005-5.
  • Steinberg, Michael. "The Symphony: A Listener's Guide". Efrog Newydd: Oxford University Press, 1998. ISBN 0-1951-2665-3.
  • Thomas, Adrian. "Górecki (Oxford Studies of Composers)". Rhydychen: Clarendon Press, 1997. ISBN 0-1981-6394-0.
  • Thomas, Adrian. "Polish Music Since Szymanowski". Llundain: Cambridge, 2005. ISBN 0-521-58284-9.