Jack the Ripper

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Illustrated Police News - Jack the Ripper
Illustrated Police News - Jack the Ripper

Jack the Ripper (Siôn y Rhwygwr) yw'r enw a roddir i lofrudd cyfresol anhysbys[1] a fu'n weithgar yn ystod haf a hydref 1888 yn Whitechapel, ardal ym maestref Tower Hamlets, Lundain a oedd yn hysbys yn ei gyfnod am dlodi, gorboblogi a phuteindra .

Y pum ddynes y mae’r mwyafrif o ffynonellau yn gytûn eu bod wedi eu llofruddio gan y Ripper yw

Cafodd merched eraill eu llofruddio tua’r un pryd gyda rhai yn honni eu bod yn waith y Ripper ac eraill yn anghytuno.

Danfonwyd llythyrau i bapurau newydd a heddlu Llundain yn hawlio cyfrifoldeb ac yn gwawdio’r heddlu am fethu dal y llofrudd. Cafodd y llythyrau eu llofnodi "Jack the Ripper", sef sail ei lysenw. Cyfieithodd rhai o bapurau newydd Cymru ei lys enw i Siôn (neu Shôn) y Rhwygwr[3]

Pwy oedd Jack the Ripper?[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Jack the Ripper - Rhestr o bobl sydd wedi eu hamau

Does neb yn gwybod pwy oedd Jack the Ripper mewn gwirionedd. Mae rhai yn credu mai meddyg neu gigydd ydoedd oherwydd y dull y torrwyd cyrff y merched a lofruddiwyd ganddo. Cafodd ei ddioddefwyr eu torri yn debyg i’r modd y byddai llawfeddyg yn trin ei gleifion, neu gigydd yn dyrannu anifail. Cyflawnwyd pob un o'r llofruddiaethau ar benwythnos, gan awgrymu y gallasai’r llofrudd fod yn un nad oedd yn byw yn Llundain, ond yn ymweld â'r ddinas ar benwythnosau, neu yn rhywun a oedd yn gweithio yn ystod yr wythnos a dim ond yn rhydd i gyflawni ei anfadwaith ar benwythnosau.

Bu’r Ripper yn enwog am greulondeb ei lofruddiaethau: llurguniodd ei ddioddefwyr, gan eu lladd drwy dorri eu gyddfau at bwynt torri eu pennau o’u cyrff a’u trywanu sawl gwaith, yn enwedig yn yr abdomen.

Mae’r cwestiwn o bwy oedd y llofrudd wedi cael ei dadlau'n frwd am flynyddoedd. Enwyd dros gant o bobl ar amheuaeth o fod yn 'Jack'. Ond er yr holl ddamcaniaethau, mae arbenigwyr wedi methu dod o hyd i un prif ymgeisydd fel yr un a ddrwgdybir, a phrin fod modd i rai o'r enwau cael eu cymryd o ddifri o gwbl.

Ymysg y rhai sydd wedi eu henwi yw’r Cymro Syr John Williams llawfeddyg i’r teulu brenhinol a sylfaenydd Y Llyfrgell Genedlaethol. Daw’r cyhuddiad o lyfr a gyhoeddwyd yn 2005, Uncle Jack, a ysgrifennwyd gan un o ddisgynyddion tybiedig y llawfeddyg, Tony (Michael Anthony) Williams, a’i gydawdur Humphrey Price[4]. Mae'r awduron yn honni bod y merched a gafodd eu llofruddio'n adnabod y meddyg yn bersonol a'u bod wedi eu lladd a’u llurgunio ganddo mewn ymgais i ymchwilio i achosion o anffrwythlondeb. Mae'r llyfr hefyd yn honni mai cyllell llawfeddygol a oedd yn eiddo i Syr John Williams (sydd i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol), oedd arf y llofruddiaethau. Ond amheua eraill, yn ddifrifol, gymhwysedd a chymhelliant yr awduron hyn[5][6].

Awgrymodd yr awdur John Morris mae Lizzie, gwraig Syr John oedd y llofrudd. Mae’n honni gan nad oedd hi’n gallu cael plant iddi ddial ar y rhai a allai, drwy eu lladd[7][8].

Llofruddiaeth Mary Ann Nichols[golygu | golygu cod y dudalen]

Tua 23:00 ar 30 Awst gwelwyd Mary Ann Nichols yn cerdded ar hyd Whitechapel Road; Am 00:30 cafodd ei gweld yn gadael tafarn yn Brick Lane, Spitalfields. Awr yn ddiweddarach, cafodd ei droi allan o 18 Thrawl Street gan ei bod yn brin o rôt i dalu am wely. Cyn cael ei throi allan dwedodd wrth y landlord byddai’n siŵr o allu ennill yr arian yn fuan ar y strydoedd gan ei bod hi wedi prynu bonet newydd deniadol. Fe'i gwelwyd yn ddiweddarach ar gornel Osborn Street a Whitechapel Road, am 02:30, awr cyn ei marwolaeth, gan Nelly Holland. Dwedodd Mary Ann wrth Nelly ei bod wedi gwneud digon o arian i dalu am ei gwely dair gwaith drosodd, ond ei bod wedi afradu’r cyfan ar ddiod. Dyma oedd y tro diwethaf iddi gael ei weld ar dir y byw. Awr yn ddiweddarach, cafwyd hyd iddi yn gorwedd yn farw o flaen giatiau stabl yn Bucks Row (Durward Street, bellach), Whitechape [9] l. Roedd ei gwddf wedi ei dorri a'i abdomen wedi rhwygo ar agor. Doedd neb wedi gweld nac wedi clywed unrhyw beth.

Llofruddiaeth Annie Chapman[golygu | golygu cod y dudalen]

Annie Chapman ym 1869

Tarodd y llofrudd eto ar 8 Medi, 1888. Gwelwyd Annie Chapman yn siarad â dyn tua 5:30 ychydig y tu hwnt i iard gefn 29 Hanbury Street, Spitalfields. Disgrifiodd tyst o’r enw Mrs Long ef fel dyn dros ddeugain, ac ychydig yn dalach na Chapman, o bryd tywyll, yn edrych fel tramorwr, ac yn "afler foneddigaidd" ei ymddangosiad. Roedd yn gwisgo het hel ceirw a chôt dywyll. Aeth saer o’r enw Albert Cadosch i mewn i iard gyfagos yn 27 Hanbury street ychydig yn ddiweddarach Dywedodd ei fod wedi clywed lleisiau yn yr iard ac yna sŵn rhywbeth yn disgyn yn erbyn y ffens. Cafodd corff Chapman ei ddarganfod ychydig cyn 06:00 ar fore'r 8 Medi, 1888 gan un o drigolion 29, Hanbury Street sef porthor marchnad o’r enw John Davis [10]. Roedd yn gorwedd ar y ddaear ger drws yn yr iard gefn. Roedd ei gwddf wedi ei dorri o'r chwith i'r dde, ac roedd wedi cael ei ddiberfeddu, gyda'i choluddion wedi taflu allan o'i abdomen dros ei hysgwyddau. Datgelodd yr archwiliad post mortem bod rhan o'i groth ar goll. Roedd ei thafod yn ymwthio allan o’i cheg a’i wyneb wedi chwyddo a arweiniodd arweiniad Dr Phillips, y meddych a oedd yn cynnal yr ymchwiliad, i ystyried gallasai fod wedi cael ei fygu gyda hances o gwmpas ei gwddf cyn i’w gwddf cael ei dorri.

Llofruddiaethau Elizabeth Stride a Catherine Eddowes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Elizabeth Stride a Catherine Eddowes eu lladd yn gynnar ar fore dydd 30 Medi 1888. Cafodd corff Stride ei ddarganfod tua 1 y bore, yn Dutfield Yard, ger Berner Street (Henriques Street bellach) yn Whitechapel. Achos ei farwolaeth oedd un toriad clir i’r brif rydweli ar ochr chwith y gwddf. Mae absenoldeb llurgunio’r corff wedi gwneud i rai mynegi ansicrwydd ynghylch a ddylai llofruddiaeth Stride cael ei briodoli i'r Ripper, mae eraill yn awgrymu ei fod wedi ei aflonyddu yn ystod yr ymosodiad. Dywedodd tystion eu bod yn gweld Stride gyda dyn yn gynharach yn y nos ond rhoddwyd gwahanol ddisgrifiadau ohono: dywedodd rhai bod ei gydymaith yn deg ac eraill ei fod yn dywyll. Dywedodd rhai ei fod wedi gwisgo’n wael ac eraill ei fod wedi gwisgo’n dda.[11]

Daethpwyd o hyd corff Eddowes yn Mitre Square, yn Ninas Llundain, tri chwarter awr ar ôl canfod corff Stride. Roedd ei gwddf wedi ei dorri, a’i habdomen wedi ei rwygo ar agor gan glwyf dwfn garw hir. Roedd ei haren chwith ac ar ran fwyaf o'i groth wedi cael eu tynnu. Bu dyn lleol o’r enw Joseph Lawende, yn tramwyo’r sgwâr gyda dau ffrind ychydig cyn y llofruddiaeth, ac fe dystiodd iddo weld dyn gwallt golau gydag ymddangosiad di-raen efo menyw galliasai bod yn Eddowes. Roedd ei gymdeithion, fodd bynnag, yn methu cadarnhau ei ddisgrifiad. Cyfeiriwyd at lofruddiaethau Eddowes a Stride gyda’r enw'r "Digwyddiad dwbl" yn ddiweddarach. Canfyddid rhan o ffedog waedlyd Eddowes wrth fynedfa annedd yn Goulston Street, Whitechapel gydag ysgrifen ar y wal uwchben y darn ffedog a oedd yn ymddangos i ymhlygu Iddewon a’r llofruddiaethau. Nid oedd yn glir os oedd yr ysgrifen wedi ei ysgrifennu gan y llofrudd wrth iddo ollwng y darn ffedog, neu yn gyd digwyddiad. Roedd comisiynydd yr heddlu, Charles Warren, yn ofni y gallai’r ysgrifen sbarduno terfysgoedd gwrth-semitig, a gorchymyn ei olchi i ffwrdd cyn y wawr.

Llofruddiaeth Mary Jane Kelly[golygu | golygu cod y dudalen]

Tystysgrif Marwolaeth Mary Kelly

Honnwyd bod Mary Jane Kelly wedi ei gweld gyda dyn o "ymddangosiad Iddewig" yn mynd i’w hystafell yn Llys 13 Miller. Tystiodd Elizabeth Prater a Sarah Lewis eu bod wedi clywed cri gwan o "Llofruddiaeth!" tua 4:00, ond heb ymateb oherwydd eu bod yn adrodd ei fod yn gyffredin i glywed cri o'r fath yn yr ardal. Cafodd corff Kelly ei ddarganfod y bore wedyn yn gorwedd ar ei gwely am 10:45 am ar ddydd Gwener 9 Tachwedd 1888. Roedd ei gwddf wedi cael ei hyd at yr asgwrn cefn, ac roedd ei habdomen bron wedi gwagio o'i organau. Roedd ei chalon wedi ei dynnu allan ac ar goll. [12].

Gwyddeles o Limerick yn wreiddiol oedd Kelly a chyn symud i Lundain bu’n fyw yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd [13].

Llofruddiaethau eraill yn Whitechapel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Mary Kelly yn cael ei ystyried yn gyffredinol i fod yr olaf i’w llofruddio gan y Ripper, a thybir bod y troseddau wedi dod i ben oherwydd bod y troseddwr wedi marw, wedi ei garcharu am droseddau eraill neu wedi symud i ffwrdd o Lundain. Mae ffeil yr heddlu ar lofruddiaethau Whitechapel, fodd bynnag, yn cynnwys manylion pedwar llofruddiaeth arall a ddigwyddodd ar ôl y pump canonaidd. Sef rhai Rose Mylett, Alice McKenzie, y torso yn Pinchin Street, a Frances Coles.[14]

Cafwyd hyd i Mylett wedi ei thagu yn Clarke Yard, Stryd Fawr, Poplar ar 20 Rhagfyr 1888. Nid oedd unrhyw arwydd o ymrafael, credu yr heddlu oedd ei bod wedi crogi ei hun yn ddamweiniol neu drwy hunanladdiad. Serch hynny, dychwelodd rheithgor ei threngholiad reithfarn o lofruddiaeth.

Cafodd McKenzie ei lladd ar 17 Gorffennaf 1889 drwy dorri'r rhydweli carotid chwith. Roedd ganddi nifer o fân gleisiau a thoriadau ar ei chorff, a ddarganfuwyd yn Castele Alley, Whitechapel. Roedd un o'r patholegwyr arholi, Thomas Bond, yn credu bod hyn yn llofruddiaeth y Ripper, er bod ei gydweithiwr George Bagster Phillips, a oedd wedi archwilio cyrff tair o’r dioddefwyr blaenorol, yn anghytuno. Mae awduron diweddarach hefyd yn cael eu rhannu rhwng y rhai sy'n meddwl bod ei llofrudd wedi copïo arddull y Ripper i wyro oddi wrth o’i hun, a'r rhai sy'n ei briodoli i'r Ripper.

Canfyddid torso menyw anhysbys heb ei phen na’i choesau yn Pinchin Street, Whitechapel, ar 10 Medi 1889. Mae'n debyg bod y llofruddiaeth wedi ei gyflawni mewn man arall, a bod rhannau o'r corff wedi eu gwasgaru ar gyfer eu gwaredu.

Cafodd Coles ei lladd ar 13 Chwefror 1891 o dan fwa rheilffordd yng Swallow Gardens, Whitechapel. Cafodd ei gwddf ei dorri, ond nid chafodd y corff ei lurgunio. Cafodd James Thomas Sadler a welwyd yn gynharach gyda hi ei arestio gan yr heddlu a’i gyhuddo o'i llofruddio, ac am gyfnod yn cael ei amau o fod y Ripper. Cafodd ei ryddhau o'r llys am ddiffyg tystiolaeth ar 3 Mawrth 1891.

Y Ripper ar grwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o’r damcaniaethau paham bod y llofruddiaethau wedi dod i stop yn sydyn ym mis Tachwedd 1888 oedd bod y llofrudd wedi symud i ffwrdd o Lundain. Cafwyd nifer o adroddiadau yn y wasg ei fod yn parhau i gyflawni ei anfadwaith mewn dinasoedd eraill ar draws y byd.

Ar 29 Tachwedd 1888 ac eto ar 13 Rhagfyr cafwyd hyd i gyrff ddwy ddynes gyda’u gyddfau wedi torri a’u cyrff wedi eu llurgunio ger Kingston, Jamaica, gan wneud i’r wasg dyfalu os oedd y Ripper wedi ffoi yno. [15]

Ym 1894 cafwyd hyd i gyrff ddwy ddynes ifanc yn Tirol, Awstria wedi eu llofruddio a’u cyrff wedi darnio. Bu dyfalu bod Jack wedi symud yno ac wedi lladd y ddwy. [16]

Cafodd Carrie Brown ei thagu gyda’i dillad ac wedyn ei lurgunio gyda chyllell ar 24 Ebrill 1891 yn Efrog Newydd. Ar y pryd roedd y llofruddiaeth yn cael ei gymharu â'r rhai yn Whitechapel, er bod yr Heddlu Metropolitan wedi gwrthod bod unrhyw gysylltiad yn y pen draw.[17]

Ym 1910 gwnaed cais i estraddodi cyn myfyriwr meddygol Gwyddelig, o’r enw Grant, o Dde Affrica. Honnir bod Grant wedi ei arestio am ymosod ar ddynes ifanc yn Whitechapel ychydig ar ôl y llofruddiaethau a’i fod wedi ei alltudio i Awstralia am 10 mlynedd. Wedi i’w gyfnod o alltudiaeth dod i ben symudodd i De Affrica. Honnwyd bod y gŵr wedi cyfaddef i’w gariad mae ef oedd Jack the Ripper. [18]

Ym 1888 adroddodd y North Wales Chronicle si bod Jack wedi ymweld â Bangor! [19]

Llythyrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llythyr From Hell

Yn ystod cyfnod llofruddiaethau’r Ripper, derbyniodd yr heddlu, papurau newydd, ac eraill cannoedd o lythyrau yn ymwneud â'r achos. Gyda nifer yn honni eu bod wedi eu hysgrifennu gan y llofrudd ei hun. Mae tri ohonynt wedi dod yn rhan o fytholeg yr achos sef y llythyr Dear Boss, cerdyn post Saucy Jack a'r llythyr From Hell

Mae'r llythyr Dear Boss, yn ddyddiedig 25 Medi gyda marc post 27 Medi 1888. Derbyniwyd y llythyr gan yr Asiantaeth Newyddion Canolog, a chafodd ei anfon ymlaen at Scotland Yard ar 29 Medi. Cafodd y llythyr ei lofnodi "Jack the Ripper", dyma’r tro cyntaf i’r enw cael ei ddefnyddio. [20]

Cafodd cerdyn post Saucy Jack efo marc post 1 Hydref, 1888 ei ddanfon i’r Asiantaeth Newyddion Canolog hefyd. Mae’r llawysgrifen arni yn debyg i'r llythyr "Dearl Boss". [99] Mae'n crybwyll bod dwy ddynes wedi eu lladd yn agos iawn at ei gilydd. "Digwyddiad dwbl y tro hwn", a oedd yn cael ei ystyried fel cyfeiriad at Stride ac Eddowes. Dadleuwyd bod y cerdyn wedi'i bostio cyn y llofruddiaethau, gan ei wneud yn annhebygol y byddai cranc a gwybodaeth o'r fath am y drosedd. Ond mae’r marc post yn awgrymu y byddai wedi ei bostio mwy na 24 awr ar ôl y llofruddiaethau ar ôl i’r manylion dod yn hysbys i drigolion yr ardal.

Cafodd y llythyr From Hell ei dderbyn gan George Lusk, arweinydd y Pwyllgor Gwarchod Whitechapel, ar 16 Hydref 1888. Mae'r llawysgrifen a’r arddull yn wahanol i un "Dear Boss" a "Saucy Jacky" . Daeth y llythyr gyda bocs bach yn cynnwys hanner aren. Honnodd yr awdur ei fod wedi "ffrio a bwyta" yr hanner aren coll. Mae anghytundeb ynghylch yr aren; mae rhai yn dadlau ei bod yn perthyn i Eddowes, tra bod eraill yn dadlau ei fod yn ddim byd mwy na jôc erchyll.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Richard Davenport-Hines, ‘Jack the Ripper (fl. 1888)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; rhifyn arlein; Ionawr 2011 adalwyd 2 Mai 2017
  2. Ripper Casebook Victims adalwyd 2 mai 2017
  3. "LLEIDDIAID DYNION - Y Drych". Mather Jones. 1888-12-06. http://hdl.handle.net/10107/3539339. Adalwyd 2017-05-02.
  4. Williams, Tony; Price, Humphrey (2005). Uncle Jack. London: Orion. ISBN 978-0-7528-6708-3
  5. Ripper Casebook Dr John Williams adalwyd 1 Mai 2017
  6. Pegg, Jennifer (Ionawr 2006). ""Shocked and Dismayed" – An Update on the Uncle Jack Controversy". Ripper Notes. Inklings Press. 25: 54–61. ISBN 0-9759129-6-8
  7. Herald Sun British author claims serial killer 'Jack the Ripper' was a woman in new book adalwyd 2 Mai 2017
  8. John Morris (2012). Jack the Ripper: The Hand of a Woman. Llyfrau Seren. ISBN 978-1-85411-566-9
  9. "THEWHITECHAPELMURDER - South Wales Echo". Jones & Son.. 1888-09-07. http://hdl.handle.net/10107/4410188. Adalwyd 2017-05-02.
  10. "ANOTHER HORKIBLE MURDER AT THE EAST END - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1888-09-15. http://hdl.handle.net/10107/4453854. Adalwyd 2017-05-02.
  11. Begg, Paul (2003). Jack the Ripper: The Definitive History. London: Pearson Education. ISBN 0-582-50631-X
  12. "ITHEMITRESQUAREMURDER - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-10-05. http://hdl.handle.net/10107/4318570. Adalwyd 2017-05-02.
  13. "THENINEPREVIOUSVICTIMS - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1888-11-22. http://hdl.handle.net/10107/3670018. Adalwyd 2017-05-02.
  14. Evans, Stewart P.; Connell, Nicholas (2000). The Man Who Hunted Jack the Ripper. ISBN 1-902791-05-3
  15. "SHON Y RHWYGWR YN JAMAICA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-02-16. http://hdl.handle.net/10107/4310197. Adalwyd 2017-05-02.
  16. "SHON Y RHWYGWR YN Y TYROL - Y Werin". D. W. Davies & Co.. 1894-09-29. http://hdl.handle.net/10107/3697411. Adalwyd 2017-05-01.
  17. Gordon, R. Michael (2003), The American Murders of Jack the Ripper, Santa Barbara, California: Greenwood Publishing, ISBN 978-0-275-98155-6, pp. xxii, 190
  18. "Jack the RipperI - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-07-26. http://hdl.handle.net/10107/4220978. Adalwyd 2017-05-01.
  19. "LOCAL AND DISTRICT NEWSI - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1888-10-13. http://hdl.handle.net/10107/4453888. Adalwyd 2017-05-01.
  20. "ANOTHER LETTER FROM THE MURDERER - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-10-05. http://hdl.handle.net/10107/4318570. Adalwyd 2017-05-02.