Whitney Houston
Whitney Elizabeth Houston | |
---|---|
![]() | |
Llundain, Ebrill 2010 | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Enw genedigol | Whitney Elizabeth Houston |
Ganwyd | 9 Awst 1963 |
Man geni | ![]() |
Marw | 11 Chwefror 2012 (48 oed) |
Galwedigaeth(au) | Cantores, actores |
Label(i) recordio | Maverick |
Gwefan | www.whitneyhouston.com |
Cantores, cyfansoddwraig, actores, cynhyrchydd recordiau a model ffasiwn Americanaidd oedd Whitney Elizabeth Houston (9 Awst 1963 – 11 Chwefror 2012). Dechreuodd Houston gael enwogrwydd rhyngwladol yng nghanol y 1980au ac arweiniodd ei llwyddiant hi at fenywod Affricanaidd-Americanaidd eraill yn llwyddo ym myd cerddoriaeth pop a ffilmiau.[1] Cyfeirir ati weithiau fel "Y Llais",[2] ac mae'n adnabyddus am ei "powerful, penetrating pop-gospel voice".[3]
Yn ystod y 1980au, Houston oedd un o'r artistiaid Africanaidd-Americanaidd cyntaf i ymddangos yn rheolaidd ar MTV, pan oedd y sianel yn dueddol o ddangos llawer mwy o gerddoriaeth roc gan ddynion gwynion. Ei halbwm cyntaf oedd yr albwm cyntaf i werthu fwyaf gan artist unigol, gan werthu dros 25 miliwn o gopïau yn fyd-eang. Aeth ei hail albwm yn syth i rif un y Billboard 200 a dyma oedd y tro cyntaf i artist benywaidd wneud hynny. Llwyddodd i gael saith rhif un yn olynol ar y siart Billboard Hot 100.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Corliss, Richard The Prom Queen of Soul Time 13-07-1987. Adalwyd 15-03-2009
- ↑ Transformers: Whitney Houston AOL Black Voices Adalwyd 15-03-2009
- ↑ Holden, Stephen (16-02-1985). "Cabaret: Whitney Houston" (yn Saesneg). The New York Times Adalwyd 15-03-2009