Cerddoriaeth boblogaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cerddoriaeth pop)
Cerddoriaeth boblogaidd
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathmusic Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd: Cerddoriaeth bop.

Cerddoriaeth boblogaidd[golygu | golygu cod]

Mae'n bosibl mai'r caneuon poblogaidd cyntaf oedd caneuon "The Beggar's Opera" (1728) gan John Gray. Roedd alawon y ddrama wedi eu gosod i faledi poblogaidd yr oes.

Operetta[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r 19g roedd rhai yn dechrau cyfeirio at gerddoriaeth "boblogaidd". Roedd cerddoriaeth oedd nad oedd yn glasurol nac yn gân gwerin yn "gân boblogaidd" os oedd hi wedi cael ei chreu er mwyn cael llwyddiant poblogaidd.

Roedd caneuon poblogaidd diwedd y 19g yn dod o'r operetta. Fe gyfansoddodd Jacques Offenbach "Orphée aux Enfers" (Orpheus yn yr Annwn) yn 1858 O'r operetta hwn ddaeth y "Galop Infernal" (y Can-can) ac fe gyfansoddodd "La Belle Hélène" (Helen Lân) yn 1864. Fe gyfansoddodd Johann Strauss II ei operetta gyntaf "Indigo und die Vierzig Raüber" (Indigo a'r Deugain Lleidr) yn 1871 ac wedyn yn 1874 ei operetta mwyaf poblogaidd "Die Fledermaus" (Yr Ystlum). Yn 1879 oedd operetta cyntaf Gilbert a Sullivan "The Pirates of Penzance".

Tin Pan Alley[golygu | golygu cod]

Tua 1885 fe sefydlwyd llawer o gyhoeddwyr cerddoriaeth mewn rhan fach o W.28th st. rhwng Broadway a 5th ave yn Efrog Newydd. Roedd cyfansoddwyr yn arfer ysgrifennu caneuon a'u anfon atyn nhw. Roedden nhw'n chwarae'r ganeuon ar y piano er mwyn dewis pa rai roedden nhw'n mynd i gyhoeddi. Roedd newyddiadurwr yn digwydd cerdded i lawr y stryd a chlywed piano yn dod o bob ffenestr fe ddywedodd fod y stŵr fel sospanau yn clecian ac fe enwodd e'r stryd yn Tin Pan Alley. Daeth yr enw Tin Pan Alley i olygu yr holl gymdogaeth hyd at 1930 a holl ddiwydiant y gân boblogaidd hyd at y 1950au. Roedd Denmark St., Llundain, yn cael ei galw yn Tin Pan Alley hefyd. Y caneuon poblogaidd cyntaf i ddod allan o Tin Pan Alley yn 1892 oedd "After the Ball is Over" gan Charles K. Harris a "The Man who Broke the Bank at Monte Carlo" gan Charles Coborn.

Roc a Rôl[golygu | golygu cod]

Prif erthygl: Cerddoriaeth roc
Elvis Presley, "Brenin roc a rôl".

Yn 1951 fe ddefnyddiodd y D.J. Alan Freed yr ymadrodd "rock and roll" i ddisgrifio caneuon R&B roedd e'n chwarae ar ei orsaf radio yn Cleveland, Ohio.

Bill Haley sy'n cael y glod am ddyfeisio roc a rôl ond roedd y math hwn o gerddoriaeth yn datblygu'n barod, cymysgedd o R&B, jazz a chanu gwlad oedd e. Mae hi'n debyg iawn mai "Rocket 88" (1951) gan Jackie Brenson oedd y gân roc a rôl gyntaf.

Mae gan roc a rôl bedwar curiad i'r bar ac fe fydd yr acen ar yr ail a'r bedwaredd curiad yn hytrach nag ar y curiad cyntaf. Dyma sut oedd cerddoriaeth boblogaidd yn mynd i fod o hyn ymlaen. Roedd roc a rôl wedi newid cerddoriaeth boblogaidd. Ar yr adeg hyn dechreuodd bobl ddefnyddio'r gair "pop" i ddisgrifio gerddoriaeth boblogaidd.

Roc[golygu | golygu cod]

Doedd yr ymadrodd "roc a rôl" ddim yn cael ei ddefnyddio llawer ar ddechrau'r 1960au. Erbyn hyn, roedd yn well gan bobl ddefnyddio'r gair "pop". Roedd adfywiad câneuon gwerin yn y 1960au ac yn 1964 roedd y band "The Byrds" yn gosod rhythmau "roc a rôl" i ganeuon gwerin i greu Folk rock a Rock. O hyn ymlaen daeth y gair "pop" bron iawn yn gyfystyr a "roc".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]