Ike Turner
Ike Turner | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
5 Tachwedd 1931 ![]() Clarksdale ![]() |
Bu farw |
12 Rhagfyr 2007 ![]() Achos: gorddos o gyffuriau ![]() San Marcos ![]() |
Label recordio |
Chess Records, Flair Records ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth |
gitarydd, pianydd, actor, canwr-gyfansoddwr, arweinydd band, arweinydd, canwr, cynhyrchydd recordiau, chwaraewr sacsoffon ![]() |
Arddull |
Rhythm a blŵs, y felan ![]() |
Math o lais |
bass-baritone ![]() |
Priod |
Tina Turner ![]() |
Plant |
Ronnie Turner ![]() |
Perthnasau |
Jackie Brenston ![]() |
Gwefan |
http://www.iketurner.com ![]() |
Cerddor R&B, pianydd a chynhyrchydd recordiau oedd Ikear Luster "Ike" Turner[1] (5 Tachwedd 1931 – 12 Rhagfyr 2007).[2] Fe'i ganwyd yn Clarksdale, Mississippi.
Yn 1951 fe ysgrifennodd Ike y gân "Rocket 88", sy'n cael ei ystyried fel y gân roc a rôl gyntaf. Fe recordiodd e'r gân gyda'i fand "Kings of Rhythm" ond fe gafodd y record ei rhyddhau dan yr enw "Jackie Brenston and the Delta Cats". Jackie Brenston oedd yn chwarae'r sacsoffon yn y band. Fe recordiodd Bill Haley "Rocket 88" hefyd yn 1951.
Yn y 1960 fe briododd Tina Turner ond fe wnaethyn nhw ysgaru yn 1978. Roedd Ike a Tina Turner yn arfer canu deuawdau. Y fwyaf adnabyddus oedd River Deep - Mountain High (1966) a'u fersiwn o I Want to Take You Higher (1970), cân gan Sly and the Family Stone (1969) yn wreiddiol.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Obituary: Ike Turner. The Daily Telegraph (13 Rhagfyr 2007). Adalwyd ar 2 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Ike Turner: Rock'n'roll pioneer better known for his violent partnership with Tina. The Independent (14 Rhagfyr 2007). Adalwyd ar 2 Ionawr 2013.
|