Wales (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfnodolyn llenyddol Saesneg oedd Wales yn cynnwys ffuglen, barddoniaeth, adolygiadau ac erthyglau. Roedd hefyd yn cynnwys hysbysebion ac erthyglau golygyddol. Dechreuodd yn gyhoeddiad chwarterol (Rhif 1. (Haf 1937)-Rhif 11 (Gaeaf 1939-1940), daeth yn bapur llydan yn ystod y rhyfel (Rhif 1 (1941), yna fe'i gyhoeddwyd bob chwe mis (1943-1949). Yn 1958 ail ddechreuwyd ei gyhoeddi yn fisol (Rhif 32) ac fe’i ddiweddwyd yn Ionawr 1960 (Rhif 47). Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1937 and 1960.[1]

Keidrych Rhys oedd golygydd y cylchgrawn o'i sefydlu hyd ddiwedd ei gyfnod.

Roedd dylanwad y cylchgrawn ar lenyddiaeth Cymru'n fawr. Yn wir, roedd y cylchgrawn yn "torri tir newydd" yn ôl Robert Graves, a ohebai'n rheolaidd gyda Keidrych a Lynette Roberts; credai y byddai mudiad newydd o feirdd Celtaidd yn tarddu, gyda thraddodiad yn bwysig iddynt.

Cyhoeddwyd erthyglau, storiau byrion a cherddi gan feddylwyr mawr a beirdd blaenllaw megis Alun Lewis, Saunders Lewis, Dylan Thomas, Glyn Jones a Lynette Roberts. Ymddangosodd rhannau cyntaf llyfr Robert Graves ar fytholeg a barddoniaeth, sef The White Goddess, yn ogystal a thair stori: 'Dog', 'Roebuck' a 'Lapwing', rhwng 1944 a 1945.

Roedd y cylchgrawn yn ymgais fwriadol i greu llwyfan ar gyfer sgwennwyr ifanc a deimlai fod unrhyw gyfraniad i ddiwylliant Prydeinig yn gyfraniad pitw, ac roedd yn ymgais, felly, i greu llwyfan i lenyddiaeth Eingl-Gymreig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Cylchgronau Cymru Ar-lein: Wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. Oxford Companion the Literature of Wales (1986), tud. 622