Vincent van Gogh
Vincent van Gogh | |
---|---|
Ganwyd | Vincent Willem Van Gogh 30 Mawrth 1853 Zundert |
Bu farw | 29 Gorffennaf 1890 Auvers-sur-Oise, Auberge Ravoux |
Man preswyl | Monastery of Saint-Paul-de-Mausole, Cuesmes, Maison Van Gogh |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, dylunydd botanegol, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, ysgythrwr, lithograffydd, arlunydd graffig |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Potato Eaters, Café Terrace at Night, Y Noson Serennog, Bedroom in Arles, Sunflowers, Self-Portrait with Bandaged Ear, Landscape with a Carriage and a Train, Wheatfield with Crows, Head of an Old Peasant Woman with White Cap, Portrait paintings of Dr. Gachet, The siesta (after Millet) |
Arddull | celf tirlun, bywyd llonydd, portread, dinaswedd, interior view, hunanbortread, celf Gristnogol |
Prif ddylanwad | Anton Mauve, Paul Gauguin, Willem Roelofs, Paul Cézanne, Peter Paul Rubens, Jean-François Millet, Hokusai |
Mudiad | Ôl-argraffiaeth, Mynegiadaeth |
Tad | Theodorus Van Gogh |
Mam | Anna Carbentus Van Gogh |
Partner | Sien Hoornik, Margot Begemann |
llofnod | |
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent Willem van Gogh (30 Mawrth 1853 – 29 Gorffennaf 1890) (Ynganiad: ˈvɪnsɛnt vɑn ˈɣɔx ). Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr (Post Impressionists), ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed.
Fe'i ganwyd yn Zundert. Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr – ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn.
Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd. Theo oedd un o'r ychydig rai a gredai yn ei athrylith, a bu'n anfon deunyddiau peintio ac arian at ei frawd mawr yn fisol o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Vincent lawer o lythyrau at Theo, a chadwodd Theo bob un ohonynt; cawsant eu cyhoeddi ym 1914.
Bu farw yn Auvers-sur-Oise.
Salwch meddwl
[golygu | golygu cod]Roedd rhyw fath o salwch meddwl arno. Yn ystod un o'i byliau, torrodd labed ei glust i ffwrdd. Dirywiodd ei gyflwr meddyliol tua diwedd ei oes. Ar y seithfed ar hugain o Orffennaf 1890, fe'i saethodd ei hun yn ei frest.
Bu farw yn ei wely ddeuddydd yn ddiweddarach, a Theo ei frawd wrth erchwyn ei wely. Roedd Theo wedi ceisio codi ei galon bod dyddiau gwell i ddod, ond geiriau olaf Vincent cyn marw oedd "La tristesse durera toujours" (fe bery'r tristwch am byth).
Gwaith
[golygu | golygu cod]Cynhyrchodd Vincent ei holl waith, dros 2000 o weithiau i gyd gan gynnwys paentiadau a brasluniau, mewn deng mlynedd (tua 900 o beintiadau a thua 1100 o ddarluniau a brasluniau). I gychwyn, roedd ei luniau'n dywyll eu lliw, nes iddo ddarganfod gwaith yr argraffiadwyr ym Mharis. Daw mwyafrif ei luniau enwocaf o ddwy flynedd olaf ei fywyd, a gwnaeth 90 o luniau yn y deufis olaf. Roedd ei enwogrwydd wedi tyfu'n raddol ers ei arddangosfeydd cyntaf o 1880 ymlaen, ac wedi ei farwolaeth bu arddangosfeydd coffa iddo ym mhrif ddinasoedd Ewrop.
Dylanwad
[golygu | golygu cod]Bu ei ddylanwad ar gelf yr 20g yn enfawr, yn arbennig artistiaid mynegiadol (expressionist) ac arlunwyr 'Fauve'. Erbyn hyn, mae ei waith ymysg y gwaith celf enwocaf, y mwyaf poblogaidd a'r drytaf erioed.
-
Y Bwytwyr Tatws
-
Hunanbortread heb ei glust
-
Tai a welwyd o'u cefn
-
Caffi Teras yn y Nos
-
Bywyd Llonydd gydag Absinthe
-
Tŷ Gwyn yn y Nos
-
Nos Serennog dros y Rhone
-
Olewydd