Undeb personol

Oddi ar Wicipedia

Perthynas rhwng dwy wladwriaeth yw undeb personol sydd yn rhannu'r un brenin neu frenhines, ond heb gyfuno llywodraeth, cyfreithiau na chyfansoddiad ac heb ddiddymu'r ffiniau rhyngddynt. Câi'r ddwy wladwriaeth eu cysylltu drwy berson y teyrn yn unig, a ni châi unrhyw undeb gwleidyddol, cyfreithiol, nac economaidd ffurfiol.

Fel arfer, defnyddir y term mewn cyd-destun hanesyddol. Yn y byd heddiw, gellir ystyried teyrnasoedd y Gymanwlad mewn undeb personol â'r Deyrnas Unedig, am eu bod i gyd yn wledydd sydd yn annibynnol ar ei gilydd ond yn rhannu'r un brenin, Siarl III.[1]

Enghreifftiau hanesyddol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Crown and the constitution", Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin (11 Ionawr 2023).