Toti Dal Monte

Oddi ar Wicipedia
Toti Dal Monte
FfugenwToti Dal Monte Edit this on Wikidata
GanwydAntonietta Meneghel Edit this on Wikidata
27 Mehefin 1893 Edit this on Wikidata
Mogliano Veneto Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 1975 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Pieve di Soligo Edit this on Wikidata
Man preswylPieve di Soligo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
  • Conservatorio di Musica Benedetto Marcello di Venezia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano coloratwra, soprano Edit this on Wikidata
PriodEnzo de Muro Lomanto Edit this on Wikidata
PlantMarina Dolfin Edit this on Wikidata
PerthnasauMassimo Rinaldi, Antonella Rinaldi Edit this on Wikidata

Roedd Antonietta Meneghel (27 Mehefin 1893 - 26 Ionawr 1975), sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw llwyfan Toti Dal Monte, yn soprano operatig enwog o'r Eidal.[1] Efallai ei bod yn cael ei chofio gorau heddiw am ei pherfformiad fel Cio-cio-san yn opera Puccini Madama Butterfly, wedi iddi recordio'r rôl honno'n gyflawn ym 1939 gyferbyn a Beniamino Gigli fel Pinkerton.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o Mogliano Veneto, yn Nhalaith Treviso, yr Eidal gwnaeth Toti ei hymddangosiad cyntaf yn La Scala yn 23 oed fel Biancofiore yn Francesca da Rimini gan Zandonai.[3] Roedd hi'n llwyddiant ar unwaith, a'i llais clir "tebyg i eos" yn cael ei werthfawrogi'n fawr ledled y byd. Mae ei rolau mwyaf adnabyddus yn cynnwys y rhannau bel canto Amina (yn La sonnambula gan Bellini), Lucia (yn Lucia di Lammermoor gan Donizetti ) a Gilda (yn Rigoletto gan Verdi). Ym 1922 perfformiodd sawl rhan gyferbyn â'r tenor Carlo Broccardi yn y Teatro Massimo yn Palermo; gan gynnwys Cio-cio-san, Gilda, a rôl y teitl yn La Wally gan Alfredo Catalani.

Ym 1924, yn ffres o berfformiadau hynod lwyddiannus ym Milan a Pharis, ond cyn ei hymddangosiad cyntaf yn Llundain neu Efrog Newydd, cafodd ei chyflogi gan y Fonesig Nellie Melba i fod yn un o brif gantorion cwmni opera Eidalaidd yr oedd Melba yn ei threfnu i fynd ar daith o amgylch Awstralia. Profodd yn llwyddiant poblogaidd a beirniadol ar y daith, ac ni fu unrhyw gystadleuaeth rhwng Melba oedd yn heneiddio a Dal Monte llawer iau. Yn hytrach, fe wnaethon nhw daflu tuswau ar ôl perfformiadau ei gilydd. Ym 1928, ar ei thrydydd ymweliad ag Awstralia, priododd y tenor Enzo de Muro Lomanto yn Eglwys Gadeiriol y Santes Fair, Sydney.[4] Roedd hi'n fam i'r actores Marina Dolfin (1930-2007)[5] ac yn nain i'r actorion Massimo Rinaldi ac Antonella Rinaldi.[6]

Ar 12 Ionawr 1929 yn La Scala, creodd rôl Rosalina, ym première byd o Il re gan Umberto Giordano.[7]

Ymddeolodd o'r llwyfan operatig ym 1945. Fodd bynnag, parhaodd i weithio yn y theatr (yn ogystal â gwneud y recordiadau achlysurol) ac ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau. Efallai mai ei ffilm fwyaf adnabyddus yw, Anonimo veneziano[8] gan Enrico Maria Salerno, stori o 1970 am gerddor yn La Fenice. Daeth yn athrawes canu a hyfforddwr; roedd ei disgyblion yn cynnwys Dodi Protero, Dolores Wilson, Maaria Eira a Gianna D'Angelo.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Dal Monte ym 1975 yn 81 oed, yn Pieve di Soligo, o ganlyniad i anhwylderau cylchrediad y gwaed.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Toti Dal Monte | enciclopedia delle donne" (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2021-04-23.
  2. Laura, Macy (2008). "Del Monte, Toti". The Grove Book of Opera Singers. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 107. ISBN 978-0-19-533765-5.
  3. "Toti Dal Monte | Biography & History". AllMusic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
  4. reporter, Staff (2020-08-22). "From the Archives, 1928: Near riot at opera singers' Sydney wedding". The Sydney Morning Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-22.
  5. "Toti Dal Monte". IMDb. Cyrchwyd 2021-04-23.
  6. "Marina Dolfin". IMDb. Cyrchwyd 2021-04-23.
  7. Holden, Amanda (2001). "Umburto Giordano - Il re". The new Penguin opera guide. Llundain: Penguin. t. 303. ISBN 0-14-029312-4. OCLC 48629111.
  8. Salerno, Enrico Maria (1970-10-03), Anonimo veneziano, Florinda Bolkan, Tony Musante, Toti Dal Monte, Sandro Grinfan, Ultra Film, https://www.imdb.com/title/tt0065408/?ref_=nv_sr_srsg_0, adalwyd 2021-04-23
  9. "TOTI DAL MONTE, 81, SOPRANO OF THE '20'S". The New York Times (yn Saesneg). 1975-01-28. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-04-23.