Thomas Salusbury (ganed 1612)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Salusbury
Sir Thomas Salusbury and Family.jpg
Ganwyd Mawrth 1612 Edit this on Wikidata
Plas Lleweni Edit this on Wikidata
Bu farw 1643 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Bardd, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Edit this on Wikidata
Plant Sir John Salusbury, 4th Baronet Edit this on Wikidata

Uchelwr Cymreig ac awdur Saesneg oedd Syr Thomas Salusbury (6 Mawrth 1612 - Gorffennaf 1643), a hanodd o deulu'r Salbriaid ar ochr ei dad ac o'r teulu Myddleton ar ochr ei fam.[1][2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Syr Thomas Salusbury yn y Waun yn 1612 ond treuliodd ran helaeth ei oes ym mhlas Lleweni, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, hen gartref y Salbriaid. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1632. Ymladdodd ar ochr y Brenhinwyr yn Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Ar ddiwedd ei oes bu'n Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych. Bu farw yn 1643.[1]

Llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymerai Syr Thomas ddiddordeb brwd mewn llenyddiaeth. Ysgrifenodd nifer o gerddi a chyfieithiadau o ddramâu a berfformiwyd, ynghyd â masgiau ffasiynol, yng Nghastell y Waun; fe'u diogelir mewn llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]

Dim ond un llyfr a gyhoeddodd, sef The History of Joseph, cerdd hir am ymgyrch yr awdur dros deulu ei fam, y teulu Myddleton.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Adalwyd 10 Medi 2013