Thomas Jones (Taliesin o Eifion)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Thomas Jones (bardd))
Thomas Jones
FfugenwTaliesin o Eifion Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Medi 1820 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
(Glan Alun)

Bardd o Gaernarfon oedd Thomas Jones (13 Medi 18201 Mehefin 1876).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Yn 1826 ymsefydlodd ei rieni, a roddodd addysg dda i'w mab, yn Llangollen. Gweithiodd Taliesin fel plymiwr ac addurnwr, gan baentio arwyddion llawer o dafarnau. Meistrolodd y gynghanedd yn ei ieuenctid cynnar, a'i gerddi caeth yw ei waith mwyaf adnabyddus. Daeth yn ffigwr eisteddfodol blaenllaw ac mae 'Brwydr Crogen' yn enghraifft gynnar iawn o ddrama fydryddol yng Nghymru. Anfonodd awdl i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1876, ond bu farw ar y 1af o Fehefin. Cafodd y gadair a ddyfarnwyd iddo ei gorchuddo â gorchudd du ar lwyfan yr ŵyl — dyna pam fod sôn amdano fel 'bardd y gadair ddu'.[1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enwogion Sir Gaernarfon (1922), 214-7.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "JONES, THOMAS ('Taliesin o Eifion'; 1820 - 1876), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-29.