The Valleys (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
The Valleys
Genre Teledu realiti
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg, Cymraeg
Nifer cyfresi 3
Nifer penodau 22
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 42 munud (heb gynnwys hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol MTV
Darllediad gwreiddiol 25 Medi 201215 Ebrill 2014
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Cyfres deledu realiti a ddarlledir ar MTV ydy The Valleys. Lleolir y gyfres yng Nghaerdydd. Adrodda hanes criw o bobl ifainc o'r cymoedd wrth iddynt symud i'r brifddinas er mwyn ceisio datblygu gyrfa newydd i'w hunain. Ystyrir y rhaglen yn ddadleuol oherwydd ei darluniad o Gymru ac o'r Cymry, yr iaith gref a'r golygfeydd o natur rywiol.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Medi 2012.

Natur ddadleuol y rhaglen[golygu | golygu cod]

Beirniadwyd y rhaglen gan nifer o Gymry ar wefannau cymdeithasol fel Twitter. Dywedodd y gantores Charlotte Church na fyddai hi'n gwylio am ei bod yn credu y byddai'r rhaglen yn "exploitative and a horrific representation of the country that I love".[1] Dywedodd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant nad oedd y gyfres yn ddarlun teg o fywyd yn y cymoedd.[1]

Cast[golygu | golygu cod]

Enw[2] Cyfres Oed (ar ddechrau'r gyfres) Cartref gwreiddiol
Aron Williams 1 19 Tredegar
Carley Belmonte 1 21 Caerffili
Darren Chidgey 1 25 Pen-y-bont ar Ogwr
Jenna Jonathan 1 21 Tonyrefail
Lateysha Grace 1 19 Port Talbot
Leeroy Reed 1 21 Penybont-ar-Ogwr
Liam Powell 1 26 Rhymni
Natalee Harris 1 23 Pontypwl
Nicole Morris 1 19 Abertawe

Pa mor hir y buont yn y gyfres[golygu | golygu cod]

Aelodau'r cast Rhaglenni Cyfres 1
Rhaglen 1 Rhaglen 2 Rhaglen 3
Aron Aron Aron Aron
Carley Carley Carley Carley
Chidgey Chidgey Chidgey Chidgey
Jenna Jenna Jenna Jenna
Lateysha Lateysha Lateysha Lateysha
Leeroy Leeroy Leeroy Leeroy
Liam Liam Liam Liam
Natalee Natalee Natalee
Nicole Nicole Nicole Nicole

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Alwedd:      = Mae "Aelod o'r Cast" ar y rhaglen hon.
Allwedd:      = Mae'r "Aelod o'r Cast" yn cyrraedd y tŷ.
Allwedd:      = Mae "Aelod o'r Cast" yn gadael y tŷ.

Niferoedd gwylio[golygu | golygu cod]

Cyfres 1 (2012)
Rhif Dyddiad Gwylwyr Cyfeiriadau
1 25 Medi 510,000 [3]
2 2 Hydref [3]
3 9 Hydref [3]

Noder: Dyma ffigurau gwylio MTV ac MTV+1.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]