The Imitation Game
![]() Poster y ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Morten Tyldum |
| Cynhyrchydd | Nora Grossman Ido Ostrowsky Teddy Schwarzman |
| Ysgrifennwr | Graham Moore |
| Serennu | Benedict Cumberbatch Keira Knightley Matthew Goode Rory Kinnear Charles Dance Mark Strong |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Black Bear Pictures FilmNation Entertainment Bristol Automotive |
| Dosbarthydd | StudioCanal The Weinstein Company |
| Amser rhedeg | 114 munud |
| Gwlad | UDA |
| Iaith | Saesneg, Almaeneg |
| Cyllideb | $14 miliwn[1] |
| Refeniw gros | $157.9 miliwn[2] |
Ffilm hanesyddol o 2014 ydy The Imitation Game. Fe'i cyfarwyddwyd gan Morten Tyldum, ac ysgrifennwyd y sgript gan Graham Moore yn seiliedig ar fywgraffiad Alan Turing: The Enigma gan Andrew Hodges. Mae Benedict Cumberbatch yn chwarae rhan y mathemategydd Alan Turing, a ddatrysodd y Cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn cael ei erlyn am fod yn hoyw. Chwaraea Keira Knightley ran cydweithiwr Turing, Joan Clarke.
Prynodd The Weinstein Company y ffilm am $7 miliwn yn Chwefror 2014, y swm uchaf erioed am hawliau dosbarthu ffilm yn yr Unol Daleithiau wrth y Farchnad Ffilm Ewropeaidd. Cafodd ei rhyddhau mewn theatrau yn y Deyrnas Unedig ar 14 Tachwedd ac ar 28 Tachwedd yn Unol Daleithiau America.
Roedd The Imitation Game yn llwyddiant masnachol ac ymhlith y beirniaid. Erbyn Chwefror 2015, roedd hi wedi gwneud $157 miliwn yn fyd-eang ond gyda chost cynhyrchu o $14 miliwn yn unig. Dyma oedd y ffilm annibynnol i wneud yr arian mwyaf yn 2014. Cafodd ei henwebu am wyth o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwyr Gorau (i Tyldum), yr Actor Gorau (Cumberbatch), a'r Actores Gefnogol Orau (Knightley). Derbyniodd naw enwebiad BAFTA hefyd, gan gynnwys y Ffilm Orau a'r Ffilm Brydienig Eithriadol.
Derbyniodd y cast a'r criw glod gan grwpiau hawliau LHDT am gyflwyno hanes Turing i gynulleidfa ehangach. Fodd bynnag, beirniadodd rhai haneswyr y ffilm am ei darlun anghywir o gymeriad a pherthnasau Turing.[angen ffynhonnell]
Cyfarwyddwr
[golygu | golygu cod]
Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Morten Tyldum ar 19 Mai 1967 yn Bergen. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Bergen.
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 7.7/10[3]
- 90%
- 71/100
Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Bwrdd Adolygu Cenedlaethol: Y Deg Ffilm Orau.
Cafodd ei henwebu am y gwobrau canlynol: European Film Award – People's Choice Award for Best European Film. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 233,555,708 $ (UDA).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd Morten Tyldum nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Rhestr Wicidata:
| Ffilm | Delwedd | Gwlad | Iaith wreiddiol | dyddiad |
|---|---|---|---|---|
| Buddy | Norwy | Norwyeg | 2003-08-29 | |
| Counterpart | Unol Daleithiau America | Saesneg | ||
| En mann må gjøre det'n må... | Norwy | Norwyeg | ||
| Fallen Angels | Norwy Unol Daleithiau America |
Saesneg | 2008-01-01 | |
| Folk flest bor i Kina | Norwy | Norwyeg | 2002-01-01 | |
| Headhunters | Norwy Yr Almaen |
Norwyeg Daneg |
2011-08-04 | |
| Jack Ryan | Unol Daleithiau America | Saesneg | ||
| Passengers | Unol Daleithiau America Awstralia |
Saesneg | 2015-12-21 | |
| The Crossing | 2017-12-10 | |||
| The Imitation Game | Unol Daleithiau America | Saesneg | 2014-08-29 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Tudalennau ag angen ffynonellau
- Rhestrau cuddiedig o Wicidata
- Ffilmiau gan gyfarwyddwyr ffilm gwrywaidd Saesneg
- Ffilmiau lliw
- Ffilmiau lliw o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau dogfen o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau Saesneg
- Ffilmiau o Unol Daleithiau America
- Ffilmiau dogfen
- Ffilmiau 2014
- Ffilmiau gyda llai na 10 o actorion lleisiol
- Ffilmiau a olygwyd gan William Goldenberg
- Ffilmiau a ddosbarthwyd drwy fideo ar alwad
- Ffilmiau sydd a'u stori wedi'i lleoli yn Llundain

