Teyrnas

Oddi ar Wicipedia

Gwlad neu wladwriaeth a reolir gan brenin (teyrn) neu frenhines neu sydd â brenin neu frenhines yn bennaeth y wladwriaeth yw teyrnas. Nid yw teyrnas yn gyfystyr â gwlad o reidrwydd; mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad (Yr Alban, Cymru a Lloegr) ac un dalaith (Gogledd Iwerddon), er enghraifft; cafodd ei chreu trwy goncwest a chyfuno teyrnas Lloegr a theyrnas yr Alban.

Cymru[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru cafwyd sawl teyrnas yn y gorffennol; erbyn yr Oesoedd Canol roedd tair teyrnas yn y wlad, a elwir yn Dair Talaith Cymru, sef teyrnas Deheubarth, teyrnas Gwynedd a theyrnas Powys. Llwyddodd rhai o frenhinoedd y teyrnasoedd hyn i uno'r rhan fwyaf o'r wlad a'i rheoli - e.e. Hywel Dda, Rhodri Mawr, Gruffudd ap Llywelyn, Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd - ond ni pharhaodd yr undod yn ddigon hir i Gymru fel gwlad dyfu'n deyrnas sefydlog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am teyrnas
yn Wiciadur.